Mewn cyfarfod arbennig yng Nghapel Moreia, Tycroes, Ddydd Gŵyl Dewi eleni, trosglwyddodd fy nghyfaill Hilary Davies, Y Gwynfryn, Feibl Llywydd Mudiad Cenhadol y Chwiorydd i minnau, y llywydd newydd. Er mai o gapel Gellimanwydd y dôf, pwysleisia gwragedd Moreia, taw eu cynrychioli nhw y byddaf, ac yn sicr mae hynny yn fraint o’r mwyaf.
Y Beibl a drosglwyddwyd i’m gofal yw “Siarter Mudiad Cenhadol y Chwiorydd y Christian Temple, Gwynfryn, Moreia, a Seion Llandybie”.
Cyflwynwyd y Beibl hwn i’r mudiad yn 1950 gan Sarah Ann Mathias, diacones ym Moreia, ac un, medd Mam, oedd a’i gweddiau cyhoeddus yn cyffwrdd eneidiau.
Ar ddwy dudalen flaen y beibl, erbyn hyn wedi melynu gan oed, a blynyddoedd o fyseddu, yn ei llawysgrifen hi mae’r geiriau hyn:-
“Myfi yw y Bugail da ….. A defaid eraill sydd gennyf, y rhai nid ŷnt o’r gorlan hon: y rhai hynny hefyd sydd raid i mi eu cyrchu, a’m llais i a wrandawant, a bydd un gorlan ac un Bugail”.
Yn dilyn cawn rhestr o’r hoelion wYth hynny a fu’n llywyddion, ac yn eu plith, yr annwyl Dr. Tegfan Davies, Rachel L. Thomas, Mary Gwen Davies, Mary E. James a Nansi Mathews. Pobl oedd y rhain a ddylanwadodd yn drwm ar fy mhlentyndod a’m harddegau, athrawon yr Ysgol Sul a’m trywthodd i yn y gwerthoedd Cristnogol. Coffa da amdanynt oll.
Erbyn heddiw, mae ffyddloniaid y mudiad wedi prinhau’n sylweddol, a’r oes wedi newid yn gyfangwbl ers dyddiau Sarah Ann Mathias, ond yr un yw’r gwerthoedd Cristnogol, ac mae’r linell honno … “ A defaid eraill sydd gennyf, y rhai hynny hefyd sydd raid i mi eu cyrchu”, mor berthnasol!
Ga’ i eich cymell i gefnogi’r achos ac i ymuno a ni yn ein cyfarfodydd eleni, fel y gallwn sicrhau i’r “oesoedd a ddêl, y glendid a fu”.
Ruth Bevan