Nos Wener 15
Tachwedd cynhaliwyd y cwis blynyddol Cymorth Cristnogol Tref Rhydaman a'r cylch.
Roedd pum tim yn cystadlu o Noddfa, Garnswllt, Capel Newydd y Betws a'c
Ebeneser, y Gwynfryn, Yr Eglwys yng Nghymru a Gellimanwydd. Edwyn Williams oedd
y cwisfeistr.
Wedi cystadlu
brwd roedd dau dim yn gyfartal ar y diwedd, felly roedd rhaid wrth rowd "tie
breaker". Ar ddiwedd hon daeth tim Gellimanwydd i'r brig. Llongyfarchiadau mawr
iddynt.
Roedd stondinau
cardiau Nadolig a nwyddau Masnach Deg yn cael eu gwerthu. Noson llawn hwyl a sbri
yn cael cyfle i ddod at ein gilydd tuag at achos da