Cynhaliwyd cyfarfod Ordeinio a Sefydlu Mr Guto Llywelyn, Eglwys Annibynnol Gellimanwydd, Rhydaman yn Weinidog i Iesu Grist ar Eglwysi Annibynnol Tabernacl, Hendygwyn ar Daf; Bethel, Llanddewi Efelfre; a Trinity, Llanboidy ar ddydd Sadwrn, 18 Mai, 2013 yng Nghapel Y Tabernacl, Hendygwyn ar Daf.
Aeth llond bws o aelodau a ffrindiau gellimanwydd i'r cyfarfod. Llywydd y dydd oedd Y Parchg Jill Hayley Harries, sydd bellach yn weinidog yn Sgeti.
Cawsom alwad i Addoli gan y Parchg Emyr Lyn Evans, Abergwili ac yan darlleniad o'r beibl gan Y Parchg John Gwilym Jones. Peniel. y Parchg Dewi Myrddin Hughes offrymodd y Weddi cyn i Plant ac ieuenctid y Capel gyflwyno eitem hyfryd.
Roedd yr Urddo yng ngofal Y Parchg Guto Prys ap Gwynfor, Llandysul. Y Parchg Euros Wyn Jones, Llangefni offrymodd yr Urdd Weddi tra bod Y Parchg Tom T Defis, Ffynnon-ddrain yn cyhoeddi Emyn yr Urddo
Ein gweinidog Y Parchg Dyfrig Rees oedd yn Pregethu a chawsom bregeth gref ganddo yn pwysleisio bod angen gwneud yn siwr bod Iesu yn y canol.
Mrs Meryl James oedd yn rhoi hanes yr alwad ac yna cyflwynodd Mr Lynford Thomas ar ran Capel Ty'ngwndwn ac Mr Edwyn Williams ar ran Capel Gellimanwydd.
Roedd nifer yn croesau Guto i'r ofalaeth sef, Mr Tudor Eynon ar ran y dair eglwys; Y Parchg Felix Aubel ar ran Cyfundeb Gorllewin Caerfyrddin; Mrs Mererid Moffett ar ran Cyfundeb Penfro a'r Parchg Rhodri Glyn Thomas ar ran eglwysi'r cylch. Y Parchg Aled Jones, Llandysul oedd yn cloi'r gwasanaeth drwy gyhoeddi'r Fendith.
Wedi'r oedfa cawsom groeso arbennig yng nghwmni aelodau'r dair eglwys drwy ranuu lluniaeth hyfryd yn y Festri. Roedd yn wir ddiwrnod o ddathlu ac mae Gellimanwydd yn hynod falch bod un ohonom ni wedi dewis i fynd i'r Weinidogaeth.