rhai o'r criw yn mwynhau
Nos Fercher 25 Ionawr daeth criw da ynghyd i'r festri i gymryd rhan yn ein cwis. Edwyn Williams oedd y cwis feistr a cawsom hwyl yn ceisio dyfalu beth oedd yr eitemau newyddion, lluniau o bethau anghyffredin, antiques roadshow a rownd o adnabod y gerddoriaeth.Wedi'r cystadlu cawsom gyfle i gymdeithasu a chael cwpanaid o de a bisgedi.
Diolch i Mrs Mandy Rees ac aelodau pwyllgor y Gymdeithas am drefnu'r noson yn ogystal a rhaglen ddiddorol ar ein cyfer unwaith eto eleni.