
Eleni roedd dwy o ffenestri’r capel wedi eu haddurno gan y plant er mwyn dangos beth hoffent ddiolch i Dduw amdano. A hithau yn ddiwrnod cenedlaethol i ddathlu bywyd T.Llew Jones ar 9 Hydref addas iawn oedd addurno un o’r ffenestri gyda ei waith.Hefyd mae dau o wyrion T. Llew Jones yn aelodau o ysgol Sul y Neuadd, sef Dafydd a Mari Llywelyn.
Roedd yr ail ffenest yn cynnwys eitemau megis bat criced, pel rygbi, Nintendo Wii, llun o cwningen a nifer o bethau eraill.
Cawsom wasanaeth hyfryd yn y bore dan arweiniad plant yr Ysgol Sul. Wedi’r oedfa aethom i gyd i’r neuadd i rannu cwpanaid o de a bisgedi.
