Sunday, March 27, 2016

DERBYN AELODAU


Roeddem fel  eglwys  yn dathlu yn ystod ein hoedfa Gymun, bore Sul y Pasg, 27 Mawrth, pan oeddem yn derbyn pedwar o blant y capel yn aelodau llawn.


Yn ystod yr oedfa derbyniodd y Gweinidog Y Parchg Ryan Thomas, Rachel Smith, Sara Thomas, Dafydd Llywelyn a Mari Llywelyn, yn llawn aelodau o’r eglwys. Hyfrydwch oedd cael derbyn y pedawr sydd wedi bod yn ffyddlon yn yr Ysgol Sul a’u magu yn y capel.

Wednesday, March 23, 2016

Cymanfa Ganu


Cynhaliwyd Cymanfa Ganu Undebol Rhydaman a’r Cylch ar ddydd Sul y Blodau, 20 Mawrth yng Nghapel Gellimanwydd. Yr arweinydd oedd Mrs Helen Gibbon, Capel Dewi. Mae Helen sy’n hannu o Langynnwr yn soprano adnabyddus iawn ac yn ennillydd cyson yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Yr  organyddes oedd Mrs Gloria Lloyd.

Cawsom ddwy oedfa. Yn y bore cyfle y plant oedd hi a braf oedd cael bod yno yn gweld a gwrando arnynt yn canu mor hyfryd.

Yna yn y nos daeth aelodau a ffrindiau  capeli yr ardal ynghyd ar gyfer Gymanfa llwyddiannus dros ben