Tuesday, December 22, 2015

OEDFA NADOLIG YR YSGOL SUL


Perfformiwyd Pasiant Y Nadolig gan blant yr Ysgol Sul ar brynahwn 20 Rhagfyr. Llywyddwyd gan y Gweinidog Y Parchg Ryan Thomas ac fe'i gynorthwywyd wrth yr organ gan Mrs Gloria Lloyd. Dilynwyd yr oedfa gan barti mawreddog yn y Neuadd ac fe dalodd Sion Corn ei ymweliad blynyddol.

Roedd hyn yn glo hyfryd i'n dathliadau wedi Oedfa Foreol yr Ofalaeth yn Y Gwynfryn yn y bore. 

DATHLIADAU'R NADOLIG


Dathlodd
Gofalaeth Gellimanwydd a’r Gwynfryn, Rhydaman a Moreia, Tycroes y Nadolig gydag oedfa-ar-y-cyd yn y Gwynfryn bore Sul, Rhagfyr 20fed dan lywyddiaeth gweinidog yr Ofalaeth, y Parchg Ryan Thomas, gyda Miss Catherine Lodwick yn cynorthwyo wrth yr organ.  Cafwyd adroddiad gan Mrs Mary Thomas ac unawd gan Ieuan Thomas, y ddau o Foreia; eitem gan gôr merched a chôr cymysg Gellimanwydd ac adroddiad gan bedwarawd ac eitem gan gôr merched y Gwynfryn. Cafwyd cyfle ar ôl yr oedfa i gymdeithasu ymhellach gyda gwin a mins pie.





Saturday, November 28, 2015

Y Gymdeithas - DATHLU'R NADOLIG


Ar Nos Iau 26 Tachwedd wnaeth Cymdeithas Gellimanwydd ddechrau dathlu'r Nadolig. Roedd y Neuadd yn llawn gyda pob sedd wedi ei llenwi. Roedd y neuadd wedi ei addurno'n hyfryd, gyda dwy goeden Nadolig! Talent ieuenctid lleol oedd yn ein diddanu a cawsom wledd o ganu a cherddoraieth. 


Croesawyd pawb i'r noson gan ein Llywydd Edwyn Williams. Yna cawsom gwpanaid o de a mins peis. Trosglwyddodd y llywydd y noson i ddwylo medrus Lynne Leach, un o'n haelodau. Cyflwynodd Lynne ein hartistiad am y noson sef Emily Meek, Osian Clarke, Neve Summers a Catrin Soons, y pedwar yn ddisgyblion yn Ysgol Dyffryn Aman, Rhydaman.
I ddechrau wnaeth Emily, Osian a Neve ein diddannu drwy ganu nifer o ganeuon o'r sioe Les Miserables ac hefyd caneuon Cymreig eraill. Yn cyfeilio iddynt oedd ein Organnydd Mrs Gloria Lloyd. 

Roedd Emily, Osian a Neve yn  rhan o gynhyrchiad Ysgolion Les Miserables yn ddiweddar yng Nghanolfan y Mileniwm. Hefyd  cawsant y profiad anghygoel o fod yn  rhan o gast y cynhyrchiad Cymraeg o Les Misérables ; Fersiwn Ysgolion yn perfformio yng nghyngerdd gala 30 mlwyddiant Les Misérables yn y Queen’s Theatre West End fel gwesteion arbennig i Cameron Mackintosh.

I gloi'r noson cawsom gyflwyniad arbennig ar y clarinet gan Catrin. Mae Catrin yn y chweched dosbarth yn Ysgol Dyffryn Aman ac yn gobeithio chwarae'r clarinet yn broffesiynol. yn wir mae wrthi yn mynd i nifer o gyfweliadau mewn Prifysgolion enwog Prydain i ddilyn gyrfa yn chwarae'r clarinet ac ar ol ei chlywed yn y noson rydym i gyd yn sicr bod dyfodol disglair o'i blaen. 

Diolchodd ein Gweinidog Y Parchg Ryan Thomas i bawb am noson mor hyfryd a dymuno Nadolig Llawen i bawb. 






Monday, October 26, 2015

CWRDD DIOLCHGARWCH


Bore dydd Sul 11 Tachwedd cynhaliwyd Oedfa Diolchgarwch Eglwys Gellimanwydd. Hyfryd oedd cael cwmni aelodau y Gwynfryn a Moreia Tycroes yn yr oedfa. 

Roedd y Capel wedi ei addurno yn hyfryd gyda blodau, ffrwythau a llysiau ac wrth gwrs torth y cynhaeaf. Thema'r gwasanaeth oedd Arch Noa. 

Cawsom eitem hyfryd gan y plant gyda Catrin, Macy, Gwenan a Mali yn arwain. Defnyddiodd ein gweinidog, Y Parchg Ryan Thomas  dail wedi troi lliw yn sail i'w air i'r plant. Yna cawsom eitemau gan Gôr y Capel.  

Roedd y casgliad yn mynd tuag at Apel Ysbyty Plant Cymru Arch Noa, yn bennaf oherwydd bod un o aelodau'r Ysgol Sul sef Dafydd Llewelyn, wedi cael triniaeth a gofal arbennig yno yn ddiweddar.  Roedd y swm o dros £500 yn anrhydeddus dros ben.

wedi'r oedfa cawsim gyfle i barhau gyda'r diolch drwy rannu cwpanaid o de a bisgedi yn Neuadd y Capel. Yn wir roedd yn fendith cael bod yn bresennol.

Tuesday, September 22, 2015


Yn ystod ei stori i'r plant dydd Sul 13 Medi wnaeth Y Parchg Ryan Thomas osod lein ddillad ar draws y sedd fawr gyda gwahannol socs unigol yn hongian arni.
Terynged i Harry Patterson oedd hwn, bachgen bach a fu farw mewn damwain yn yr Alltwen pedair mlynedd yn ol. Pump oed oedd Harry ac ar penblwydd y golled enfawr mae ei rhieni yn annog pobl i wisgo sociau gwahanol fel teyrnged iddo. 


Friday, September 18, 2015

Trip Y Gymdeithas

Dydd Sadwrn 12 Medi aeth llond bws o ffrindiau Cymdeithas Gellimanwydd ar ein trip blynyddol. Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd oedd y cyrchfan cyntaf. Yno cawsom awr neu ddwy hamddenol yn edrych ar y casgliadau hanesyddol mewn celf, daeareg a hanes natur.
Yna i lawr i Fae Caerdydd  i gwrydro'r Bae a chael rhywbeth i yfed a bwyta cyn parhau a'n trip gyda ychydig o "retail therapy" yn MacArthur Glen, Penybont, cyn galw yn y Masons Arms, Bryncethin am swper.
Mae tymor y Gymdeithas yn dechrau ar 24 Medi gyda ein Swper Cynhaeaf - cofiwch ddod cewch groeso arbennnig.



Tuesday, July 14, 2015

Bwrlwm Bro Dyffryn Aman A’r Cylch

Cynhaliwyd Bwrlwm Bro Ysgolion Sul Dyffryn Aman a’r cylch yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman ar fore Sul Mehefin 7fed. Prif bwrpas yr achlysur oedd calonogi a sbarduno gwaith yr Ysgolion Sul trwy roi cyfle llawn hwyl i blant ddysgu a chymdeithasu yng nghwmni ei gilydd.

Y thema o dan sylw oedd Noa a’r dilyw. Cyflwynwyd y neges trwy chwarae gêm, stori a chrefft. Cafwyd hwyl a sbri, a chyfle i ddysgu bod Duw, er ei fod yn casau drygioni, yn ein caru ac am i ni ymddiried yn ei Fab Iesu Grist. Fel yr oedd Noa a’i deulu yn ddiogel yn yr arch, mae’r sawl sy’n rhoi eu ffydd yn Iesu hefyd yn ddiogel, a hynny am byth.


Pan ddaeth yn amser i ymadael roedd yn amlwg wrth wynebau llawen y plant eu bod wedi mwynhau’n fawr y profiad o gael uno gyda'i gilydd mewn dathliad  cyfoes o’r ffydd. Am ragor o luniau gwelir www.micsirgar.org

Sunday, July 05, 2015

Y PARCHGEDIG RYAN THOMAS YN DATHLU 25 MLYNEDD YN Y WEINIDOGAETH





Bore Dydd Sul 5 Orffennaf cawsom fel gofalaeth newydd gyfle i ddathlu'r ffaith bod ein Gweinidog wedi cyrraedd carreg filltir sef 25 mlynedd yn y Weinidogaeth.

Daethom ynghyd i Gapel Gellimanwydd i gyd addoli mewn Oedfa Gymun. Cawsom eitem gan blant yr Ysgol Sul. Cyflwynodd Dafydd Llewelyn a Catrin Brodrick rodd i'r Gweinidog ar ran yr Ofalaeth. Yna wedi'r Oedfa cawsom gyfle i ddathlu drwy gynnal parti penblwydd arbennig yn y Neuadd.

Roedd gwledd wedi ei pharatoi gan yr aelodau a chafodd bawb mwy na digon i fwyta. Wrth gwrs does dim un parti yn gyflawn heb gacen i ddathlu'r achlysur. 

Hyfryd oedd gweld y Capel a'r Neuadd yn llawn ar gyfer diwrnod i'w gofio yn dathlu gyda Ryan. 

Monday, May 25, 2015

CYFARFOD SEFYDLU Y PARCHEDIG RYAN ISAAC-THOMAS




Ar brynhawn Sadwrn 23 Mai, cynhaliwyd cyfarfod sefydlu Y Parchedig Ryan Isaac-Thomas yn Weinidog i Iesu Grist yn eglwysi Annibynnol Gellimanwydd a’r Gwynfryn, Rhydaman a Moreia Tycroes.

Roedd y capel yn llawn gyda llu o gyfeillion wedi dod i ymuno gyda aelodau’r dair yn y dathliadau, gan gynnwys cyfeillion o gyn eglwysi Y Parchedig Ryan Thomas sef Jerusalem a Seion Porth Tywyn, Nasareth Pontiets a Sardis, Trimsaran.

Y Parchedig Dyfrig Rees, Penybont ar Ogwr, oedd yn Llywyddu a  Mrs Gloria Lloyd oedd yr organnydd. Y Parchedig Guto Llywelyn, Caerbryn roddodd yr alwad i addoli. Cawsom ddarlleniad o’r Beibl gan Y Parchg Meirion Evans, Porth Tywyn ac yna Weddi gan Y Parchg Dewi Myrddin Hughes, Clydach.

Roedd y Sefydlu yn ngofal y Llywydd


Cawsom hanes yr Alwad gan Mrs Bethan Thomas, Ysgrifennydd Pwyllgor yr Ofalaeth, gan gynnwys hanes creu gofalaeth newydd rhwng y dair eglwys.

Y Parchg Derwyn Morris Jones draddododd yr urdd Weddi. Miss Maureen King oedd yn cyflwyno ar ran eglwysi Jerusalem a Seion Porth Tywyn, Nasareth Pontiets a Sardis, Trimsaran. Yna cafwyd air o groeso gan Mr Elfryn Thomas, Llywydd pwyllgor yr Ofalaeth; Y Parchg Iwan Vaughan Evans, Llalnelli ar ran Cyfundeb Dwyrain Caerfyrddin a Brycheiniog a’r Parchg John Talfryn Jones, Rhydaman ar ran eglwysi’r cylch.

Y Parchg Emyr Gwyn Evans, Y Tymbl, Gweinidog presennol Y Gwynfryn, oedd yn pregethu. Offrymwyd y fendith gan Y Parchg Ryan Thomas.

Wedi’r Oedfa cafodd bawb gyfle i barhau yn y dathlu drwy ymyno yn Neuadd Gellimanwydd a rhannu yn y wledd oedd wedi ei pharatoi gan aelodau’r ofalaeth.

 

4 GWEINIDOG


Dim yn aml mae capel yn cael cyfle i groesawu 4 gweinidog o’r capel at ei gilydd. Ond dyna oedd braint Capel Gellimanwydd yn ystod Cyfarfod Sefydlu y  Parchedig Ryan Isaac-Thomas.
Roedd tri o gyn weinidogion y capel yn cymryd rhan yn oedfa sefydlu y Parchg Ryan Thomas, sef Y Parchg  Dyfrig Rees, Penybont ar Ogwr, y Parchg  Derwyn Morris Jones, Abertawe a'r Parchg Dewi Myrddin Hughes, Clydach.
 

Thursday, May 14, 2015


Sunday, April 05, 2015

Dechrau Canu Dechrau Canmol



Ar Sul y Pasg, roedd rhaglen Dechrau Canu Dechrau Canmol yn dodo o Gapel Gellimanwydd, ac yn dathlu'r Atgyfodiad. Cawsom  fwynhau perfformiadau gan yr unawdwyr Elgan Thomas a Gwawr Edwards a myfyrio ar ddigwyddiadau wythnos y Pasg trwy gyfrwng myfyrdodau, darlleniadau a monologau.
 
Hyfryd oedd gweld cymaint o'n haelodau a ffrindiau ar y teledu.

Sunday, March 29, 2015

CYMANFA GANU




 
Cynhaliwyd ein Cymanfa ganu Undebol ar ddydd Sul y Blodau, 29 Mawrth, 2015 yng Nghapel Gellimanwydd.
 
Yr Arweinydd oedd Mr Allan Fewster, Llangennech gyda Mrs  Gloria Lloyd yn cyfeilio.
 
Capel Hendre oed d yn llywyddu yn y bore a Seion yn yr hwyr.
 
 
 
 

Sunday, March 22, 2015

Mudiad Cenhadol y Chwiorydd



O'r chwith i'r dde: Y Parch. Emyr Gwyn Evans, Mrs. Sian Jones a Mrs. Marjorie Rogers (Y Gwynfryn),
Mrs. Carol Ann Lewis (Moreia) a'r Parch. Ryan Thomas

Mae yna fudiad Cenhadol gan chwiorydd capeli Gellimanwydd a’r Gwynfryn, Rhydaman a Moreia, Tycroes ers 1950. Bryd hynny mi roedd Seion, Llandybïe hefyd yn rhan o’r cylch. Yn ystod y 65 mlynedd mae’r adran wedi codi miloedd ar filoedd o bunnau tuag at y gwaith Cenhadol gan fod yr arian a gesglir i gyd – talu am y te, casgliad, bore coffi ac ati – yn mynd at y gwaith cenhadol. Tramor fu’r alwad yn y blynyddoedd a fu ond rydym bellach yn rhoi cyfraniad at MIC sef Mudiad Ieuenctid Cristnogol ein hardal. Bu i nifer o’n cenhadon ymweld â’r adran ac fe fu y Parchn. R. E. Edwards, Ieuan S. Jones a Ioan Wyn Gruffydd yn gefn mawr i’r cylch.

            Rydym yn cwrdd yn rheolaidd ac yn cael siaradwyr diddorol i’n hannerch ac hefyd cyfarfodydd rydym ni ein hunain yn eu trefnu megis gwasanaeth Nadolig, cwrdd gweddi ac ati. Cynhelir ein cyfarfod blynyddol ddechrau Mawrth. Bryd hynny trosglwyddir y llywyddiaeth i chwiorydd y gwahanol eglwysi. Bellach fe rhennir y gwaith rhwng gwragedd yr eglwysi. Cynhaliwyd y Cyfarfod Blynyddol eleni yn Y Gwynfryn, Rhydaman gyda’r Parch. Emyr Gwyn Evans yn annerch a gweinyddi’r cymun gyda’r Parch. Ryan Thomas yn cynorthwyo wrth yr organ. Eleni mi roedd Mrs. Carol Ann Lewis ar ran chwiorydd Moreia yn cyflwyno Beibl y Mudiad i Mrs. Marjorie Rogers a’i derbyniodd ar ran chwiorydd y Gwynfryn, Rhydaman.

            Rydym hefyd fel adran yn ffyddlon i Adran Chwiorydd Cyfundeb Dwyrain Caerfyrddin a Brycheiniog a Thalaith y De o Fudiad Chwiorydd yr Annibynwyr.

Tuesday, March 03, 2015

Eglwysi Gellimanwydd, Rhydaman a Moreia, Tycroes yn dathlu


Eglwysi Gellimanwydd, Rhydaman a Moreia, Tycroes yn dathlu


Mi roedd Sul, Mawrth 1af yn Sul o ddathlu mawr yng nghapeli Gellimanwydd, Rhydaman a Moreia, Tycroes oherwydd hwn oedd y diwrnod y dechreuodd y Parch. Ryan Thomas, Brynaman ei weinidogaeth yn ein mysg.

            Roedd yr oedfa foreol yng Ngellimanwydd.  Mi roedd yn braf gweld y capel yn llawn o blant, teuluoedd ifanc, pobl canol oed a henoed a phawb yn hapus i ddathlu gŵyl ein nawddsant a chyfnod newydd yn ein hanes fel eglwys. Gan ei bod yn wasanaeth teuluol y plant a’r ieuenctid a gymerodd at yr oedfa. Rydym yn ymfalchio fod gyda ni gymaint o blant yn awyddus a pharod i gymeryd rhan ac am rhieni sydd mor barod i gynorthwyo ymhob dull a modd.
 



Rhai o blant niferus Gellimanwydd

            Yn ystod yr oedfa cafwyd gair byr o groeso i’r gweinidog newydd gan Bethan, Thomas, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Eglwys ac yna cafwyd neges pwrpasol i’r plant gan y gweinidog newydd. Gweinyddwyd y Cymun ar ddiwedd yr oedfa gan y Parch. Ryan Thomas. Mrs. Gloria Lloyd oedd wrth yr organ. Mi roedd y capel a’r neuadd wedi eu haddurno’n hardd â chennin pedr.

            Wedi’r gwasanaeth aeth pawb i fwynhau melysfwydydd Cymreig yn Neuadd Gellimanwydd ac yno fe gafwyd cyfle i ni gwrdd â’r Parch. Ryan Thomas.

 
 Yn y prynhawn tro eglwys Moreia, Tycroes oedd hi i ddathlu. Fe ddaeth cynulleidfa niferus ynghyd i Oedfa Gymun. Croesawyd y gweinidog newydd gan Elfryn Thomas, Ysgrifennydd yr Eglwys ac fe gynorthwywyd wrth yr organ gan Mrs. Wynona Anthony.

Roedd y chwiorydd wedi paratoi yn helaeth ar ein cyfer ac fe gafwyd gwledd o fwyd yn y festri gyda cyfle i bawb gwrdd â’r gweinidog newydd. Y chwiorydd hefyd a fu yn gyfrifol am addurno’r capel a’r festri mor hardd gyda daffodiliau.
 
 
Y Parchg Ryan Thomas gyda rhai o aelodau gweithgar Eglwys Moreia, Tycroes



Ym mis Medi fe fydd Eglwys y Gwynfryn, Rhydaman yn ymuno â’r ofalaeth. Hwn fydd y tro cyntaf i’r dair eglwys, y fam a’r ddwy ferch, fod o dan arweiniad yr un gweinidog. Mae’r dair eglwys, er hynny, wedi cyd-weithio â’i gilydd ar hyd y blynyddoedd drwy’r Gymanfa Ganu a Mudiad Cenhadol y Chwiorydd.

Edrychwn ymlaen at gyfnod newydd yn ein hanes a boed i Dduw ein harwain i’r dyfodol yn llawn hyder a ffydd.

Bethan Thomas, Ysgrifennydd yr Ofalaeth

Sunday, January 11, 2015

Cynhelir Cymanfa Ganu,
Gellimanwydd, Y Gwynfryn, Moreia, Seion, Capel Newydd, Bethani, Gosen, Capel Hendre, Caersalem,Ebeneser, Capel Saron, Bethesda Tycroes, Pisgah Penybanc, Noddfa Garnswllt 





 Dydd Sul y Blodau, 29 Mawrth, 2015
yng Nghapel Gellimanwydd.
Yr Arweinydd fydd Mr Allan Fewster, Llangennech
a'r organyddes yw Mrs Gloria Lloyd.
Bore am 10.30  - Llywyddu Capel Hendre
Hwyr am 5.30 - Llywyddu Seion