![](https://blogger.googleusercontent.com/img/b/R29vZ2xl/AVvXsEjFsNc3g9Xy_DuV70HKNBf3ssZHZUaK5BWOcC8m0gXvk1nbY5IiB5o6Xdw9jU_1oAet0Jamr_biXHCm2Mfm4M3aLZB6mDKC-GlB3_MGUgLRqPRq8Qov4-SfpYR-SDoEh7HPgBkE/s640/P1000273.jpg)
Prynhawn Dydd Sul 18 Rhagfyr cawsom oedfa arbennig yng Ngellimanwydd pan gyflwynodd plant yr Ysgol Sul eu pasiant Nadolig.
Cawsom oedfa llawn hwyl a sbri a oedd yn trosglwyddo wir neges y Nadolig. Roedd hyd yn oed Tess a Claudia o Strictly Come Dancing, Ant a Dec o I'm a Celebrity a Honey G o X Factor yn cymryd rhan wrth gyflwyno arwyr y sioe sef yr angylion, bugeiliaid, gwr y llety, y tri gwr doeth, ac wrth gwrs Mair a Joseff a'r baban Iesu.
Wedi'r oedfa cawsom de parti a hyfryd oedd gweld y Neuadd yn llawn o fwrlwm a hwyl yr Wyl. A do daeth Santa i'r parti a cyflwyno anrheg i blant yr Ysgol Sul.
Diolch i bawb wnaeth hi yn ddiwrnod i gofio.