Thursday, June 18, 2009

CYFARFOD PREGETHU - Y PARCHG R. ALUN EVANS

Braint ac anrhydedd oedd cael croesawu Y Parchg Ddr R. Alun Evans, B.A. Caerdydd atom ar ddydd Sul 14 Mehefin ar gyfer ein Cyfarfodydd Pregethu.
Mae R. Alun Evans yn wyneb cyfarwyd di ni gyd ac rydym yn gwybod am ei waith diflino fel Gweinidog ac ym myd yr Eisteddfod Genedlaethol a'r "Pethe" yn gyffredinol.
Yn ystod y bore defnyddiodd Y Parchg R. Alun Evans arian fel symbyliad i'w stori i'r plant gan gynnig iddynt naill ai papur £10 punt o arian prydeinig neu papur $10,000 o ddoleri Zimbabwe. Wrth gwrs roedd y plant i gyd eisiau 10,000 o ddoleri tan i R. Alun Evans ddweud mai dim ond hanner torth fyddai hynny yn ei brynu. Y neges oedd bod ei bod yn anodd rhoi gwerth ar arian papur ond bod ein plant werth y byd.

Sunday, June 14, 2009

APEL DE AFFRICA - GWEITHGAREDDAU

Fel rhan o gyfraniad Capel Gellimanwydd i Apel Undeb yr Annibynwyr Cymraeg tuag at De Affrica trefnwyd bore o weithgareddau ar ddydd Sadwrn 13 Mehefin. Daeth nifer dda ynghyd i'r Neuadd.
Roedd rhai yn golchi ceir. Eraill yn manteisio ar y stondin gacennau ar gyfer cael rhywbeth melys i gyd fynd a'r cwpanaid o goffi neu te a ddarparwyd ar ein cyfer.
Un gweithgaredd arall oedd yn lwyddiant arbennig oedd darllen allan o Efengyl Marc am awr. Roedd rhai wedi sicrhau noddwyr ar gyfer y darllen. Yn wir roedd yn fendith cael cymryd rhan yn y darlleniad.

Unwaith eto roedd yn bleser cael bod yn rhan o'r gymdeithas yn y Neuadd a hynny tuag at achos da.

"Y mae'r heuwr yn hau'r gair... Marc4:14
A dyma'r rheini a dderbyniodd yr had ar dir da: y maent hwy yn clywed y gair ac yn ei groesawu, ac yn dwyn ffrwyth hyd ddeg ar hugain a hyd drigain a hyd ganwaith cymaint."
Marc4:20

Saturday, June 13, 2009

TRIP Y CAPEL -YSGOL SUL

Croeso cynnes i bawb - cysylltwch ag Edwyn Williams am fwy o wybodaeth.


Monday, June 08, 2009

BWRLWM BRO


Bore Sul, 7 Mehefin daeth criw da o Ysgolion Sul yr ardal ynghyd i Neuadd Gellimanwydd i fwynhau Bwrlwm Bro. Mr Nigel Davies, Swyddog Plant/Ieuenctid Menter Cydenwadol Gogledd Myrddin oedd yn gyfrifol am y sesiwn.


Cawsom fore wrth ein bodd yn addoli Duw gan gyflwyno'r hen, hen hanes mewn dull cyfoes a pherthnasol ar gyfer ein dydd ni. Defnyddiwyd fuzzy felt, powerpoint, DVD, gemau a chrefft i gyflwyno hanes Y Bedd Gwag a Tomos.


Yna i orffen y cyfarfod cawsom gwpanaid o de neu sudd a creision.


Iesu'n ymddangos i Tomos (Ioan pennod 20 - Beibl.net)

Doedd Tomos ddim yno pan wnaeth Iesu ymddangos (Tomos oedd yn cael ei alw ‘yr Efaill’ – un o'r deuddeg disgybl).

25 Dyma’r lleill yn dweud wrtho, "Dyn ni wedi gweld yr Arglwydd!" Ond ei ymateb oedd, "Nes i mi gael gweld ôl yr hoelion yn ei arddyrnau, a rhoi fy mys yn y briwiau hynny a rhoi fy llaw i mewn yn ei ochr, wna i byth gredu’r peth!"

26 Wythnos yn ddiweddarach roedd y disgyblion yn y tŷ eto, a’r tro hwn roedd Tomos yno gyda nhw. Er bod y drysau wedi eu cloi, daeth Iesu i mewn a sefyll yn y canol a dweud, "Shalôm!"

27 Trodd at Tomos a dweud, "Edrych ar fy arddyrnau; rho dy fys i mewn ynddyn nhw. Estyn dy law i'w rhoi yn fy ochr i. Stopia amau! Creda!"

28 A dyma Tomos yn dweud, "Fy Arglwydd a'm Duw!"

29 "Rwyt ti wedi dod i gredu am dy fod wedi fy ngweld i,” meddai Iesu wrtho. “Mae’r rhai fydd yn credu heb weld yn mynd i gael eu bendithio’n fawr."

30 Gwelodd y disgyblion Iesu yn gwneud llawer o arwyddion gwyrthiol eraill, ond dw i ddim wedi ysgrifennu amdanyn nhw yma.

31 Ond mae’r cwbl sydd yma wedi ei ysgrifennu er mwyn i chi gredu mai Iesu ydy’r Meseia, mab Duw. Pan fyddwch chi'n credu byddwch chi'n cael bywyd tragwyddol trwyddo

Tuesday, June 02, 2009

BWRLWM BRO

Bydd Bwrlwm Bro cylch Rhydaman yn cael ei gynnal yn Neuadd Gellimanwydd bore Sul nesaf, sef Mehefin 7fed am 10:30 – 11:45 y.b.

Prif bwrpas Bwrlwm Bro yw calonogi gwaith yr Ysgol Sul trwy roi cyfle llawn hwyl i blant gymdeithasu a dysgu yng nghwmni ei gilydd. Bydd y sesiynau wedi eu cynllunio`n ofalus o gwmpas thema Feiblaidd gydag amrywiaeth o weithgareddau. Ymdrechwn i roi profiad llawn hwyl i`r plant tra ar yr un pryd cyflawni amcan yr Ysgol Sul o gyflwyno efengyl Iesu Grist mewn ffordd syml, ddealladwy a pherthnasol ar gyfer heddiw.

Croeso cynnes i blant 4-14 oed gan gynnwys yr athrawon / rhieni.

Diolch yn fawr am eich cydweithrediad.


Nigel