Sunday, September 27, 2009

DATHLU 25 MLYNEDD YN Y WEINIDOGAETH

Mr Norman Richards, Llywydd Pwyllgor yr Ofalaeth ynghyd a'r Parchg Dyfrig Rees a Mrs Mandy Rees a'u meibion, Rhodri a Rheinallt

Ar Sul hyfryd a heulog o Fedi daeth aelodau Gellimanwydd, Rhydaman a Moreia, Tycroes ynghyd i ddathlu 25 mlynedd y Parchg Dyfrig Rees yn y weinidogaeth.
Felly roedd Oedfa Foreol Sul 20 Medi 2009 yn un arbennig iawn yng Ngellimanwydd. Nid yn unig oedd ein ffrindiau o 'n chwaer eglwys Moreia Tycroes yn ymuno a ni ar gyfer oedfa ar y cyd ond hefyd roedd yn gyfle i'r ddwy eglwys ddiolch i'r Parchg Dyfrig Rees am 25 mlynedd o wasanaeth fel gweinidog yr Efengyl.

Y peth anodda oedd cadw'r gyfrinach oddi wrth y Gweinidog. Tybiau e' mai gwasanaeth ar y cyd oedd hwn, fel y cawn o bryd i'w gilydd gyda phaned yn dilyn yr oedfa. Ond roedd chwiorydd Moreia a Gellimanwydd wedi trefnu lluniaeth ysgafn ac roedd Mrs Mandy Rees, gwraig y Gweinidog, wedi trefnu cacen arbennig ar gyfer yr achlysur.
Braf oedd gweld y capel yn llawn ar gyfer yr achlysur. Cawsom oedfa fendthiol gan ein Gweinidog.
Wedi'r oedfa aethom i gyd i'r Neuadd ble roedd gwledd yn ein haros. Cafodd y bwyd ei weini gan chwiorydd Moreia a Gellimanwydd.

Cyflwynodd Mr Norman Richards, Llywydd yr Ofalaeth, rodd ar ran y ddwy eglwys i'n Gweinidog fel arwydd o'n gwerthfawrogiad o'r gwasanaeth mae'r Parchg Dyfrig Rees wedi ei roi i'r weinidogaeth a'r holl mae'n ei wneud i ni yng Ngellimanwydd a Moreia.
Yna aeth Mr Rees a'i wraig Mrs Mandy Rees i'r blaen ar gyfer torri'r gacen hyfryd.

Cafodd Mr Rees ei ordeinio yn Llanbrynmair ac yna wedi sawl blwyddyn gadawodd mwynder Maldwyn am Gwm Gwendraeth, bro ei febyd, cyn dod atom ni i'r ofalaeth hon bron i ddeng mlynedd yn ol. Mae yn uchel iawn ei barch ym mysg yr aelodau a'i gydnabod, yn bregethwr huawdl a graenus ac yn fugail ffyddlon.


Dymunwn yn dda iddo a'i deulu, a gweddiwn y caiff flynyddoedd lawer o iechyd a nerth i wasanaethu'r Arglwydd a pleser arbennig oedd i bawb oedd yn bresennol gael ymuno yn y dathliadau.

CYMDEITHAS GELLIMANWYDD

Mae tymor newydd y Gymdeithas yn dechrau Nos Fercher 30 Medi gyda Swper Diolchgarwch Y gwesteion fydd y Canon a Mrs John Gravell. Pris y bwyd fydd £3.00
Croeso cynnes i bawb.

Yna bydd y tymor yn parhau gyda'r nosweithiau canlynol:

28 Hydref
Taith drwy Ganeuon Ffydd o dan arweiniad y Gweinidog.

25 Tachwedd
Noson gyda Band Pres Iau Rhydaman


27 Ionawr
Noson Gwis o dan ofal Mr. Edwyn Williams


24 Chwefror
Dathlu Gŵyl Ddewi, Gwesteion - Côr Persain. Pris y bwyd £3.00


A byddwn yn cloi ein tymor drwy gynnal Cygnerdd mawreddog yn Neuadd Gellimanwydd ar 31 Mawrth.

Tuesday, September 08, 2009

TRIP Y GYMDEITHAS - TREFYNWY

Dydd Sadwrn 3 Medi aeth llond bws o aelodau a ffrindiau Cymdeithas Gellimanwydd ar ein trip blynyddol.
Fourteen Locks ger Rogerstone, Casnewydd, oedd y gyrchfan gyntaf ble cawsom saib fechan am gwpanaid o de a sgon. Cafodd ambell un frechdan cig moch bendigedig. Canolfan Treftadaeth yw Fourteen Locks, ble mae, fel yr enw yn dweud, 14 o lifdorau ar y system gamlas Trefynwy. Yn wir mae'n un o ryfeddodau system gamlas Prydain.

Yna ymlaen i Abaty Tyndyrn, sef yr Abaty Cisterniaidd yn Nyffryn Gwy. Cafodd ei sefydlu ar 9 Mai 1131 gan Walter de Clare, arglwydd Casgwent.

Trefynwy oedd ein prif gyrchaf a cawsom ychydig oriau yno i gael tamaid bach o ginio, crwydro'r strydoedd a gwneud ychydig o "retail therapy".

Ymlaen wedyn i Brynbuga (Usk) am swper bendigedig.

Diolch yn fawr iawn i Mrs Mandy Rees ein hysgrifenyddes a Marion Morgan ein trysorydd ynghyd a'n Gweinidog Y parchg Dyfrig Rees am yr holl drefniadau.