Thursday, July 19, 2007

CYFARFOD ADDOLI ANFFURFIOL

Dewch atom ni ar gyfer:
.
GWASANAETH ANFFURFIOL
.
Nos Iau 13 Medi
.
yn Neuadd Gellimanwydd
am 7.30
.
Gwasanaeth bywiog gyda phwyslais ar Astudiaeth Feiblaidd mewn awyrgylch anffurfiol gyfeillgar.
.
Wedi'r cyfarfod bydd cyfle i gymdeithasu dros gwpanaid o de
.
CROESO CYNNES I BAWB

Cyfarfod Pobl Ifanc

Nos Fercher 17 Gorffennaf daeth criw o bobl ifanc yr eglwys ynghyd i gyfarfod yn y Neuadd. Cyfarfod wedi ei drefnu gan ein gweinidog y Parchg Dyfrig Rees oedd hwn i drafod beth gall yr eglwys ei gynnig i’n hoedolion ifanc. Braf oedd gweld cymaint wedi dod i’r cyfarfod.
Dechreuwyd drwy weddi a darlleniad, yna cawsom gyfle i gymdeithasu dros gwpanaid o de a gwledd o fwyd oedd wedi ei drefnu gan Mandy Rees a Mairwen Lloyd. Wedi’r cyfle i gymdeithasu cawsom drafodaeth fuddiol dros ben am strwythur oedfaon, dulliau o addoli, gweithgareddau a nifer o faterion eraill.
Penderfynwyd cynnal Oedfa Anffurfiol i gynnwys astudiaeth feiblaidd ar yr Ail Nos Iau o’r mis am dri mis gan ddechrau ar Nos Iau, 13 Medi am 7.30 yn y Neuadd.
Bydd yr oedfa ar ddull myfyrdod a thrafodaeth mewn grwpiau bychain yn seliedig ar thema o’r beibl. Wedi’r oedfa bydd cyfle i gymdeithasu gyda aelodau a ffrindiau.

Tuesday, July 10, 2007

Noson Mabolgampau a Barbeciw

“Gwych” a “phenigamp” - dyna oedd rhai o`r ansoddeiriau a ddefnyddiwyd i ddisgrifio arbrawf newydd ymhlith Ysgolion Sul Gogledd Myrddin ar Nos Wener 29 Mehefin. Gwahoddwyd plant ac ieuenctid eglwysi`r dalgylch i gymryd rhan mewn mabolgampau dan do gyda barbiciw yn dilyn. Trefnwyd amrywiaeth eang o weithgareddau gan gynnwys cystadlaethau rhedeg, cystadlaethau maes a thynnu rhaff. Roedd y cystadlaethau yn cwmpasu pob oed o`r meithrin i fyny at ieuenctid 16 oed.

Cafwyd ymateb anhygoel gyda 19 o Ysgolion Sul yn cofrestru ac ymhell dros 100 yn cystadlu a thyrfa niferus iawn yn cefnogi. Gwych o beth oedd gweld y cyffro a`r llawenydd ar wynebau`r plant a`r cefnogwyr wrth i aelodau ifanc yr Ysgol Sul ymdrechu mewn un gamp ar ôl y llall. Gwobrwywyd y tri cyntaf ym mhob cystadleuaeth gyda medalau aur, arian neu efydd.

Mewn dyddiau pan mai ond lleiafrif bychan o`n cymdeithas sy`n mynychu Ysgol Sul neu glwb Cristnogol mor bwysig yw gweithgareddau o`r math hwn sy`n codi proffil gwaith yr eglwys ac sy`n dangos i`r to ifanc bod y ffydd Gristnogol yn ymestyn i bob agwedd o fywyd ac nid yn unig i oedfaon ar y Sul.

Cynhaliwyd y barbeciw yng nghegin a neuadd Gellimanwydd. Mae`r diolch am lwyddiant y noson yn ddyledus i raddau helaeth iawn i`r tîm o bron 20 o wirfoddolwyr bu`n llafurio`n ddyfal iawn yn gweinyddu`r cystadlaethau, yn cofnodi`r canlyniadau ac yn coginio`r barbiciw.
Diolch i Nigel Davies am yr erthygl hon.

Sunday, July 08, 2007

Llywydd yr Undeb


Llongyfarchiadau i'r Parchg Dewi Myrddin Hughes, ein cyn-weinidog a chyn-ddiacon anrhydeddus Gellimanwydd ar ei benodiad yn Llywydd yr Undeb 2007-2008. Cafodd Y Parchg Dewi Myrddin Hughes ei urddo’n Llywydd ar ddydd Sadwrn 7 Gorffennaf yng Nghyfarfod Blynyddol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg a gynhaliwyd yn Llandudno.
Mae tua 460 o eglwysi Annibynnol yn aelodau o Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, y rhan fwyaf o ddigon yn byw eu bywyd drwy’r iaith Gymraeg.
Mae 16 o gyfundebau, gan gynnwys y ddau leiaf, Lerpwl a Llundain.
Sefydlwyd yr eglwys Annibynnol gyntaf yng Nghymru yn Llanfaches yn 1639 yn y traddodiad Piwritanaidd.