Thursday, October 16, 2014

CWRDD DIOLCHGARWCH

 
Nos Sul Hydref 12 cynhaliwyd ein cwrdd Diolchgarwch.
Roedd yr oedfa dan ofal Edwyn Williams. Roedd y capel wedi ei addurno gyda blodau, ffrwythau a llysiau ac roedd hyn yn ychwanegu at naws hyfryd a diolchgar yr oedfa. 
 
Cawsom nifer o eitemau gan aelodau'r eglwys, a diolch i bawb am wneud eu rhan mor raennus. Hyfryd oedd clywed a gweld y tri cor yn canu yn yr oedfa, dan arweiniad Mrs Gloria Lloyd a Mr Cyril Wilkins yn cyfeilio.

Sunday, October 12, 2014

CWRDD DIOLCHGARWCH Y PLANT

 
Bore Dydd Sul, 12 Hydref cynhaliwyd ein cyrddau diolchgarwch. Roedd gwasanaeth y bore dan ofal yr Ysgol Sul a chawsom oedfa hyfryd gyda'r plant yn ein harwain. Porthi'r Pum Mil oedd y thema a chawsom nifer o eitemau graenus gan gynnwys caneuon ac adroddiadau gan y plant,  darlleniadau, gweddiau ac emynau.
 
Unwaith eto eleni rydym yn casglu bocsus esgidiau ar gyfer Operation Christmas Child ac yn ystod y gwasanaeth cyflwynodd y plant eu bocsus esgidiau’n llawn anrhegion . Rydym yn siwr y bydd llawer un yn gwirioni wrth edrych ar gynnwys y bocsus, dros y Nadolig.
 
 
Wedi'r oedfa cawsom gyfle i barhau i gymdeithasu drwy rannu dishgled o de a bisgedi yn y Neuadd.

Friday, October 10, 2014

Cyfarfod Sefydlu

 
Ar ddydd Sadwrn 4 Hydref aeth dwy lond bws o aelodau a ffrindiau Gellimanwydd, Rhydaman a Moreia Tycroes i Benybont ar Ogwr ar gyfer Oedfa Sefydlu y Parchedig Dyfrig Rees yn Weinidog i Iesu Grist yn Eglwys Annibynnol y Tabernacl.
Roedd yr oedfa dan Lywyddiaeth Y Parchg Hywel Wyn Richard. Y Parchg Emyr Gwyn Evans, Gweinidog Y Gwynfryn oedd yn rhoi’r alwad i addoli gyda’r Parchg Guto Llywelyn yn darllen o’r beibl. Mr Elfryn Thomas oedd yn cyflwyno ar ran Eglwys Moreia, Tycroes ac Edwyn Williams ar ran Gellimanwydd.  Y Parchg Dewi Myrddin Hughes oedd yn pregethu a chawsom neges bwrpasol a chynnil gandddo. Y Parchg Glan Roberts cyhoeddodd y Fendith.
Wedi'r oedfa roedd lluniaeth wedi ei baratoi yn y festri a chawsom gyfle I gymdeithasu ymhlith aelodau’r Tabernacl ym Mhenybont.

Monday, October 06, 2014

Swpaer Cynhaeaf




Nos Iau, 25 Medi cynhaliwyd Swper Cynhaeaf y Gymdeithas. Roedd y neuadd yn llawn a chawsom noson arbennig yn dathlu drwy rannu mewn gwledd oedd wedi ei pharatoi ar ein cyfer gan y chwiorydd.  Wedi’r gwledda,  oedd yn cynnwys pryd dau gwrs a disgled o de, cawsom  adloniant mewn ffurff Sion a Sian. Roedd tri par yn cael eu holi ac mae ein diolch yn fawr  iddynt am fod mor barod i gymryd rhan.  Ar ddiwedd y noson y par buddugol oedd Marlene a Kerry Moses.  

Cawsom noson llawn hwyl yn cymdeithasu. Y noson nesaf fydd ein dathlu Nadolig ar 27 Tachwedd  pan fydd y Canon Michael Rees, yn ein diddanu.