Wednesday, May 30, 2012

Cystadleuaeth Cwpan Denman



Mae plant yr Ysgol Sul wedi bod yn brysur yn paratoi "collage" ar gyfer Cystadleaueth Cwpan Denman eleni. Y thema oedd Dewi Sant a gwaith yr eglwys heddiw.

Mae'r plant wedi cyplysu'r collage gyda neges Dewi Sant a rhai gweithgareddau y maent wedi bod yn ei wneud - sef Pythefnos Masnach Deg, Operation Christmas Child a Mr X (anrghegion i blant amddifad yn y gymuned).

Tuesday, May 22, 2012

Cwrdd Teuluol



Yn ystod cwrdd teuluol Bore Dydd Sul 20 Mai cawsom y fraint o groesawu dau ymwelydd o Kenya, sef Mr Peter Ouma (Pennaeth ysgol uwchradd Magongo Ribe, Migori, Kenya) a Mr Roland Asiga, athro Addysg Grefyddol Cristnogol ac Astudiaethau Busnes yn yr ysgol.
 Maent ar daith gyfnewid gyda Ysgol Bryntawe, Abertawe ac yn aros gyda un o'n haelodau, Mr Graham Daniels, Pennaeth yr Ysgol.
Yn ystod y gwasanaeth cyflwynodd ein Gweinidog Y Parchg Dyfrig Rees Destament newydd i'r ddau fel arwydd o'n ffydd a'n bendith i'r ddau.
Offrymwyd gweddi fer gan Roland Asiga i gloi ein gwasanaeth.

Sunday, May 13, 2012

Cystadlaeth tlws Denman

Mae plant yr Ysgol Sul wrthi yn creu collage ar y thema "Dewi Sant" ar gyfer cystadleuaeth Tlws Denman, Undeb yr Annibynwyr Cymraeg eleni.
Dyma rhai o'r aelodau ifancaf yn cael hwyl wrth baratoi.

Thursday, May 10, 2012

Bwrlwm Bro Dyffryn Aman 2012


Yn ddiweddar fe wnaeth Menter Ieuenctid Cristnogol (M.I.C.) gynnal  Bwrlwm Bro ar gyfer Ysgolion Sul Dyffryn Aman yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman. Prif bwrpas yr achlysur oedd calonogi a sbarduno gwaith yr Ysgolion Sul trwy roi cyfle llawn hwyl i blant ddysgu a chymdeithasu yng nghwmni ei gilydd.
 Trwy gyfrwng amrywiaeth o weithgareddau a gemau daeth yr hanes am Naaman y Syriad  yn fyw ym mhrofiad y plant. Cafwyd llawer o hwyl wrth ddysgu am y ffordd bu’n rhaid i’r gŵr pwysig hwn ddarostwng ei hun gerbron Duw er mwyn cael iachâd o’r gwahanglwyf. Yn yr un modd, dysgodd y plant bod rhaid i ni hefyd ddarostwng ein hunain gerbron Duw gan ddweud “sori” am ein beiau er mwyn derbyn o’i  faddeuant rhad. Diweddwyd y gweithgaredd wrth i bob un o’r plant ysgrifennu gweddi fer ar bapur lliwgar cyn eu gludo ar groesbren.
Y nod oedd gwneud yr Ysgol Sul yn achlysur llawn hwyl, heb golli golwg ar y prif bwrpas o gyflwyno efengyl Iesu Grist mewn ffordd syml, ddealladwy a pherthnasol ar gyfer heddiw. Pan ddaeth yn amser i ymadael roedd yn amlwg wrth wynebau llawen y plant eu bod wedi mwynhau`n fawr y profiad o gael uno gyda'i gilydd mewn dathliad  cyfoes o`r ffydd.

Wednesday, May 09, 2012

Mabolgampau Dan Do'r Ysgolion Sul

Dyma gyfle gwych i blant ac ieuenctid eich Ysgol Sul / Clwb i gael cymryd rhan mewn gweithgaredd cyffrous. Cafwyd nosweithiau penigamp yn y gorffennol ac edrychwn ymlaen at achlysur llawn hwyl a chyffro eleni eto gyda chystadlaethau ar gyfer pob oed o`r meithrin i fyny at flwyddyn 13 yn yr ysgol uwchradd. 
Bydd y rownd rhanbarthol yng nghanolfan hamdden  Rhydaman ar gyfer plant oed meithrin i fyny at flwyddyn 6 yn yr ysgol gynradd ar Nos Wener Gorffennaf 6ed am 6.00 o'r gloch.
Cynhelir y rowndiau terfynol ynghyd â chystadlaethau oed uwchradd (i fyny at flwyddyn 13) yng nghanolfan hamdden Caerfyrddin ar Orffennaf 11eg.