Yn ystod cwrdd teuluol Bore Dydd Sul 20 Mai cawsom y fraint o groesawu dau ymwelydd o Kenya, sef Mr Peter Ouma (Pennaeth ysgol uwchradd Magongo Ribe, Migori, Kenya) a Mr Roland Asiga, athro Addysg Grefyddol Cristnogol ac Astudiaethau Busnes yn yr ysgol.
Maent ar daith gyfnewid gyda Ysgol Bryntawe, Abertawe ac yn aros gyda un o'n haelodau, Mr Graham Daniels, Pennaeth yr Ysgol.
Yn ystod y gwasanaeth cyflwynodd ein Gweinidog Y Parchg Dyfrig Rees Destament newydd i'r ddau fel arwydd o'n ffydd a'n bendith i'r ddau.
Offrymwyd gweddi fer gan Roland Asiga i gloi ein gwasanaeth.
No comments:
Post a Comment