Thursday, December 22, 2005

PARTI NADOLIG



Ar Nos Lun, 19 Rhagfyr cawsom barti Nadolig yr Ysgol Sul. Roedd y Neuadd wedi ei ardduno'n bert ar gyfer yr achlysur gyda choeden Nadolig wedi'i goleuo ar y llwyfan, a'r byrddau yn llawn danteithion blasus. Roedd nifer o'r oedolion wedi bod yn brysur yn paratoi'r bwyd ac yn trefnu chwaraeon ar gyfer y plant.

Unwaith eto daeth Sion Corn atom i ddiolch i'r plant am eu gwaith trwy'r flwyddyn ac i roi anrhegion i bob un ohonynt.

BANER NADOLIG

















Dyma luniau o faneri Nadolig Gellimanwydd, baner Anfon dy Oleuni gan Marlene Moses a baner newydd Immanuel Gellimanwydd. Gwnaed y faner gan Marryl Thomas Bradley, Mairwen Lloyd, Eirwen Mainwaring ac Annette Hughes.

Sunday, December 18, 2005

40 Mlynedd yn y Weinidogaeth



Ar ddiwedd y pasiant Nadolig Nos Sul 18 Rhagfyr, 2005 cawsom gyfle, fel eglwys, i ddangos ein diolch i'r Parchg Dewi Myrddin Hughes, Ysgifennydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg a chyn-weinidog Gellimanwydd am ddeugain mlynedd o wasanaeth yn y Weinidogaeth. Cafodd y Parchg Dewi Myrddin Hughes, sy'n hannu o ardal Llansannan, Sir Ddinbych, ei ordeinio yn Weinidog yr Efengyl yn 1965. Bu'n Weinidog arnom yn eglwys Gellimanwydd am 18 mlynedd ac mae'n parhau i fod yn aelod gyda ni. Fel arwydd o'n diolch ac yn gydnabyddiaeth am 40 mlynedd o wasanaeth cyflwynodd Y Parchg Dyfrig Rees, ein gweinidog, rodd fechan ar ran yr eglwys i Dewi yn ystod yr oedfa hwyrol ar 18 Rhagfyr.

PASIANT NADOLIG

Ar nos Sul 18 Rhagfyr cynhaliwyd pasiant Nadolig Ysgol Sul y Neuadd.
Roedd y capel yn llawn i weld plant yr ysgol Sul yn actio drama'r Nadolig. Diolch i Miss Ruth Bevan, athrawes yr Ysgol Sul am gyfarwyddo ac ysgrifennu'r sgript ar gyfer y ddrama. Hefyd diolch i Mrs Bethan Thomas, arolygwraig ac athrawon yr Ysgol Sul am eu cymorth gyda'r ymarferion.
Roedd pob plentyn wedi gwneud eu rhan yn raennus fel arfer a cafodd pawb fendith o fod yn bresennol yn gwrando ar wir neges y Nadolig.



a dyma'r arwydd i chwi: cewch hyd i'r un bach wedi ei rwymo mewn dillad baban ac yn gorwedd mewn preseb. Luc 2:12

Gwasanaeth y Nadolig

Yn y llun gweir aelodau Gellimanwydd a Moreia, Tycroes, ein chwaer eglwys yn mwynhau cwpaned o de a mins pei wedi oedfa foreuol Dydd Sul 18 Rhagfyr, 2005.

Ar fore Sul 18 Rhagfyr cawsom y fraint o rannu Oedfa yng Nghapel Moreia, Tycroes. Braf oedd gweld y capel yn llawn. Cawsom eitemau gan aelodau Moreia a Gellimanwydd gan gynnwys Cor Capel Moreia, Cor merched Gellimanwydd, Cor dynion Gellimanwydd a chor cymysg. Hefyd yn ystod yr oedfa roedd darlleniadau o'r Beibl, myfyrdod Mair mam Iesu, gweddiau ac emynau.
edi tanio pedwaredd gannwyll yr adfent, testun myfyrdod Y Parchg Dyfrig Rees ein gweinidog oedd Wyneb Iesu. Gwelsom nifer o ddelweddau o'r Iesu gan beri i ni ddwys ystyried wir wyneb ein Harglwydd - sef yr wyneb caredig, cariadus, cyfeillgar.

Yn eiriau un o'r carolau a gannwyd yn ystod yr oedfa.
Rhown ein moliant uwch ei breseb;
mae'r gogoniant ar ei wyneb,
wyneb Iesu, wyneb Iesu, Brenin nef.

Wedi'r oedfa cawsom gyfle i gymdeithasu yn y festri drwy rannu paned o de a mins peis.
Pleser a bendith oedd bod yn bresennol.

Sunday, December 04, 2005

GWASANAETHAU'R NADLOLIG

Cynhelir Gwasanaeth Nadolig y Plant ar Nos Sul 18 Rhagfyr. Mae’r pasiant wedi ei ysgrifennu a’i gyfarwyddo gan Miss Ruth Bevan.

Bydd y parti Nadolig ar y diwrnod canlynol sef, Llun 19 Rhagfyr rhwng 5-7. Edrychir ymlaen at yr hwyl ac ymweliad Sion Corn.

Byddwn yn ymuno ac aelodau Moreia yn ein gwasanaeth fore Sul 18 Rhagfyr. Bydd y gwasanaeth ym Moreia eleni am 10.30. Darperir paned o de a mins pei wedi’r oedfa.

Gan fod dydd Nadolig eleni yn ddydd Sul Cymun arferol fore Nadolig am 8.30 fydd yr unig wasanaeth y diwrnod hwnnw.

Yna Dydd Calan, Sul 1af Ionawr, 2006 bydd aelodau Moreia yn ymuno a ni yn oedfa Gymun fore Sul am 10.30. Ni fydd oedfa hwyrol.
Braf yw hi i ni fel dwy eglwys yn yr ofalaeth ddod at ein gilydd ar adeg arbennig fel hyn.

Thursday, December 01, 2005

DRWS AGORED


Mae criw “Drws Agored” yn dal i gael hwyl a bendith wrth gymdeithasu dros baned a myfyrdod byr ganol y bore bob Dydd Iau. Cyflwynwyd £50 yr un i Gronfa Clefyd y siwgr a Pwyllgor Cancr lleol yn ystod y tymor hwn ac mae £50 wrth law i’w ddosbarthu cyn diwedd y flwyddyn. Beth am ymuno a ni mae croeso cynnes i bawb

DRWS AGORED
yn
Neuadd Gellimanwydd
Stryd Fawr, Heol Wallasey
Bob bore dydd Iau
Cwpaned a sgwrs
Bydd myfyrdod byr am 11.
CROESO I BAWB