Monday, December 29, 2008

GWASANAETH AR Y CYD

Bore Sul 28 Rhagfyr aethom fel cynulleidfa i ymuno a'n chwaer eglwys, Moreia, Tycroes. Cawsom oedfa ar y cyd ym Moreia. Elfryn Thomas, Ysgrifennydd Moreia oedd yn gyfrifol am y rhannau rhagarweiniol ac yna roedd yr oedfa yn un agored ble daeth nifer ohonom ymlaen i gyflwyno defosiwn mewn amryw ffurf a pharhau a'n dathliadau o'r Nadolig.
Cawsom gyfle i gyd addoli drwy ddarlleniadau, adroddiadau, canu emynau a gweddiau. Roedd yn wir fraint cael bod yn bresennol a derbyn bendith Duw ar ein addoli.
Wedi'r oedfa roedd aelodau Moreia wedi paratoi paned o de a danteithion i ni rannu yn y festri, a cawsom gyfle i gymdeithasu ymhlith ffrindiau.
Dim ond un seren oedd yn bwysig i mi.
Dim ond un seren yn fry uwch Bethlehem
Dim ond un seren a gyffrodd ei fyd.
Delwyn Sion

Tuesday, December 23, 2008

Parti Nadolig

Prynhawn dydd Llun 22 Rhagfyr 2008 cynhaliwyd parti nadolig Ysgol Sul Neuadd Gellimanwydd. Cafwyd amser bendigedig gan bawb oedd yno. I ddechrau cawsom gemau i'r plant gan gynnwys "musical chairs", gemau parasiwt, burstio balwns a nifer o rai eraill.

Yna daeth yn amser gwledda. Sglodion ac ati oedd ar y fwydlen gyda jeli coch a hufen ia i ddilyn a sudd oren neu cwpanaid o de a mins pei i orffen.

Wrth gwrs fe dalodd Sion Corn ymweliad a ni a rhoi anrheg i bob plentyn yr ysgol Sul.

Bydd yr Ysgol Sul yn ail ddechrau ar 11 Ionawr 2009. Croeso cynnes i bawb.


Sunday, December 21, 2008

GWASANAETH NADOLIG PLANT AC IEUENCTID

Cynhaliwyd Gwasanaeth Nadolig plant ac ieuenctid Ysgol Sul y Neuadd ar Nos Sul 21 Rhagfyr 2008. Roedd y capel yn llawn a hyfryd oedd gweld yr addurniadau, yn enwedig y canhwyllau ar y silffoedd.
"Ganwyd Crist" oedd teitl yr oedfa a cafodd ei pharatoi gan Miss Ruth Bevan, un o athrawon yr Ysgol Sul. Cawsom ein harwain gan Nia Rees. Roedd Manon Daniels yn darllen a Trystan Daniels yn rhoi emyn allan. Hanna Williams oedd yn ein harwain mewn gweddi. Draw yn ninas Dafydd Frenin oedd yr emyn gan Annie Jones.

Yna Nia Mair Jeffers oedd yn arwain a hynny drwy adrodd i gyfeiliant a cawsom ymson gwraig yn adrodd sut Nadolig yw hi heddiw gan Mari Llywelyn. Roedd Elan Daniels yn adrodd ymson gwraig y llety a Dafydd Llywelyn un y bugail. William Jones oedd llais y doethion a Rhys Jones llais Herod.
Yn dilyn hyn roedd golygfa ystafell Scrooge. Elan Daniels, Mari Llywelyn a Sara Mai Davies oedd y cyflwynwyr. Harri Jones oedd y cybydd Scrooge. Daeth Dafydd a Rhys i ganu carolau ond eu troi i ffwrdd gan Scrooge. Sara Mai Davies oedd llais Ysbryd y Nadolig a’r plant bach yn adrodd oedd Macey Haf a Catrin Haf.
Rhoddwyd diolch a neges amserol i’r plant gan ein Gweinidog Y Parchg Dyfrig Rees.

Cyn canu’r garol olaf cawsom gyfle fel aelodau i fynegi ein diolch i Gloria Lloyd a Cyril Wilkins am eu gwasanaeth arbennig fel organnydd ac is-organnydd. Cyflwynodd Y Parchg Dyfrig Rees rodd fechan i’r ddau fel arwydd o’n gwerthfawrogiad. Mae Mrs Gloria Lloyd yn dathlu 25 mlynedd fel organydd Capel Gellimanwydd eleni, ac mae Mr Cyril Wilkins yn dathlu 35 mlynedd fel is-organydd.

Rhys Daniels oedd yn darllen y garol olaf. Wedi’r emyn cyflwynodd Y Parchg Dyfrig Rees y fendith ac aeth pawb allan yn llawen yn llawn gwir ysbryd y Nadolig.
Clywch lu'r nef yn seinio'n un,
henffych eni Ceidwad dyn!

Sunday, December 14, 2008

Organyddion yn dathlu


Mae Mrs Gloria Lloyd yn dathlu 25 mlynedd fel organydd Capel Gellimanwydd eleni, ac mae Mr Cyril Wilkins yn dathlu 35 mlynedd fel is-organydd.
Hoffai holl aelodau Gellimanwydd ddiolch i’r ddau ohonynt am yr holl wasanaeth maent wedi ei roi i ni fel eglwys.
Mae eu hymroddiad i’n holl weithgareddau yn enfawr, o’r gwasanethau wythnosol, y Suliau Diolchgarwch, a’r Nadolig pryd rydym yn aml yn cael mwy nag un côr yn canu, i’r cyrddau teuluol a’r Gymanfa undebol. Mawr yw ein diolch i’r ddau. Rydym yn hynod ffodus i gael dau mor dalentog a pharod eu cymwynas.
Testun dathlu yn wir.

Saturday, December 06, 2008

APEL UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMRAEG

Bydd Delyth Evans o Dŷ John Penri yn dod i Drafod Apel yr Undeb eleni yng nghyfarfod nesaf y Gymdeithas ar 28 Ionawr.
Er i apartheid ddod i ben yn 1994 ac er bod De Affrica yn awr yn gyrchfan poblogaidd i dwristiaid, eto i gyd, mae’r wlad yn dal i wynebu problemau anferth. Mae mwy na phum miliwn o bobl (allan o boblogaeth o 47 miliwn) yn HIV positif ac ugain miliwn o bobl yn byw ar lai na £1 y dydd.

Mae ein hapêl, ar y cyd â Cymorth Cristnogol, yn cefnogi mudiadau partner lleol yn ne Affrica.

Y GYMDEITHAS


Ar nos Fercher 5 Tachwedd aeth llond bws aelodau a ffrindiau’r Gymdeithas i Theatr y Lyric, Caerfyddin i weld Pasiant Pobl y Ffordd, sef hanes yr eglwys fore. Pasiant gan Nan Lewis oedd hwn gyda tua 150 o aelodau a phlant capeli cylch Caerfyrddin (Cwmni Bröydd Tywi) yn perfformio.
Eisoes yn y Gymdeithas eleni rydym wedi cael Swper Diolchgarwch a Cwis Cymorth Cristnogol. Yn y flwyddyn newydd cawn gyfle i glywed hanes Apêl Undeb yr Annibynwyr, ddathlu Gwyl Dewi ac yna i gloi’r tymor cawn noson yng ngofal Ruth Bevan.