Ar Ddydd Sul Mai 15fed cynhaliwyd Bwrlwm
Bro Ysgolion Sul Dyffryn Aman a’r cylch yn Neuadd Gellimanwydd o dan
drefniant Menter Ieuenctid Cristnogol (M.I.C.). Bu’r plant yn mwynhau dros awr
o weithgareddau o gwmpas yr hanes am Iesu’n iachau’r claf o’r parlys. Cyflwynwyd y neges trwy chwarae gêm, stori a chrefft.
Cafwyd hwyl a sbri, a chyfle i ddysgu bod gan Iesu'r awdurdod nid yn unig i
iachau ond hefyd i faddau beiau.