Dydd Sadwrn 14 Medi aeth
aelodau a ffrindiau Cydmeithas Gellimanwydd ar eu trip blynyddol. Senghennydd
oedd y gyrchfan eleni i weld y Gofeb
Cawsom groeso twymgalon gan Mr Jack Humphreys,
Cadeirydd Grwp Treftadaeth Cwm yr Aber, â’r tîm o wirfoddolwyr. I ddechrau
aethom i’r Amgueddfa i gael disgled o de a chacen. Yna aeth hanner ohonom i’r
amgueddfa i weld ffilm fer ac edrych ar yr arddangosfa tra aeth y gweddill i’r
Ardd Goffa a’r Gofeb Cenedlaethol. Roedd yn brofiad sobreiddiol, yn enwedig
wrth weld y cerflun efydd bendigedig o’r glowyr gan Les Johnson. Yn yr ardd goffa
mae enw pawb a gollodd eu bywydau yn y trychineb yn Hydref 1913, gydag enw, oed
a chyfeiriad pob un o’r glowyr. Cafodd 439 o lowyr eu lladd yn y ffrwydrad yn
Senghennydd, y trychineb diwydiannol gwaethaf yn hanes Prydain.
Hefyd gwelsom y llwybr coffa yn yr ardd er cof am
bob damwain lofaol yng Nghymru lle cafodd mwy na phump o bobl eu lladd. Mae’r
llwybr yn nodi enw’r lofa, dyddiad y trychineb a’r nifer a gafodd eu lladd.
Wedi’r ymweliad â Senghennydd aethom am ychydig
oriau i’r Bontfaen i gael rhywbeth bach i fwyta a siopa am ychydig cyn galw ym
Mhencoed am bryd o fwyd ar y ffordd adref.
Yn wir roedd yn ddiwrnod bendigedig a cychwyn
gwerth chweil i dymor newydd.