Yn ystod Gwasanaeth Bore Sul Y Pasg daeth Mr Rhys a Mrs
Meleri Mair Williams yn aelodau o’r eglwys. Gan mai eglwys y bedyddwyr oedd
Rhys yn ei fynychu cyn dod atom ei ddymuniad oedd cael ei fedyddio yn gyntaf.
Gwnaeth ein gweinidog y Parchg Dyfrig Rees fedyddio Rhys yn gyntaf ac yna
derbyniwyd Rhys a Meleri yn llawn aelodau yng Ngellimanwydd. Mae gan Rhys a Meleri ddau o blant, sef Efa ac ianto. Mae Efa yn mynychu Ysgol Sul y Neuadd.
Hyfryd yw cael croesawu teulu ifanc i’n plith.