Sunday, May 27, 2007

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd - Oedfa'r Bore


Roedd pafiwliwn yr Eisteddfod yn Nantyci, Caerfyrddin yn orlawn bore Sul 27 Mai, 2007 ymhell cyn 11.00 o'r gloch ar gyfer Gwasanaeth Boreol ysgolion Sul yr Ardal. Thema'r gwasanaeth oedd Storiau'r Iesu. Emlyn Dole a Dyfrig Davies oedd awduron y sgript. Cymrodd Côr Canolradd Sir Gâr ran blaenllaw drwy ganu nifer o ganeuon a chefnogi'r unawdwyr. Braf oedd gweld Emily Kate Jones yn canu yn y côr. Roedd ensemble Roc Sir Gâr yn cyfeilio i'r côr a'r unawdwyr.

Cawsom eitem gan glocswyr Aelwyd Hafodwennnog a nifer o fonologau, deuawdau a sgets. Roedd Nia Mair Jeffers yn cymryd rhan unigol yn y sgets am berchennog ffatri.

Hyfryd oedd gweld Mrs Helen Gibbon yn arwain cannoedd o blant yng Nghôr Plant Ysgolion Sul Sir Gâr, gyda nifer o blant Ysgol Sul Gellimanwydd yn eu plith. Yn wir roedd plant o 63 Ysgol Sul yn aelodau o'r Côr.

Diolch i Bethan Thomas am drefnu'r bws ac i bob un o'r plant a gymrodd rhan mewn gwasaneth hyfryd dros ben.

"Am hynny o Dad dysg i'm wrando pob cri,

Fel y gallaf wneud rhywbeth o werth drosot ti"

Sunday, May 20, 2007

Cwrdd Teuluol - NEGES EWYLLYS DA

Bore Sul 20 Mai, cawsom oedfa deuluol yng ngofal Mr Guto Llywelyn, un o’n hathrawon Ysgol Sul. Yn ol yr arfer roedd y plant wedi dysgu eu gwaith yn drwyadl. Neges Ewyllys Da yr Urdd oedd thema’r oedfa. Ysgol berfformio Dyffryn Tywi sy’n gyfrifol am Neges Ewyllys Da 2007. Mae’r neges yn annog pobl ifanc i ymgyrchu, i gwestiynu ac i dynnu sylw at achosion o hiliaeth ar draws y byd. Braf oedd clywed y Neges Ewyllys Da yn cael ei ddarllen mewn sawl iaith—Cymraeg, Almaeneg, Ffrangeg). I gyd fynd a’r oedfa mae’r Urdd wedi cynhyrchu bathodynau i helpu atal hiliaith.
Wedi’r oedfa cawsom gyfle i gymdeithasu yn y Neuadd dros gwpanaid o de a bisgedi. Diolch unwaith eto i athrawon yr Ysgol Sul am eu holl gwaith, yn enwedig i Mrs Bethan Thomas, ein Harolygydd.

Nid yw lliw croen na llygaid,
Yn arwydd o gyflwr enaid.
Nid yw barnu ar sail gwedd
Yn gwneud dim i gynnal hedd.
Mae dy wedd, dy ffyrdd a’th liw
Yn wahanol i bob un byw.
Dathlu amrywiaethau lu,
Dyna’n dyletswydd ni.

Sunday, May 13, 2007

Bwrlwm Ysgolion Sul, Rhydaman a'r Cylch


Bore Dydd Sul, 12 Mai daeth nifer o Ysgolion Sul yr ardal i Neuadd Gellimanwydd i gyd-addoli a chynnal gweithgareddau. Yn y llun gwelir y plant a’r athrawon Ysgol Sul oedd yn bresennol.
Menter yn nwylo medrus Mr Nigel Davies, Swyddog plant ac ieuenctid gydag eglwysi o wahanol enwadau yng ngogledd Sir Gaerfyrddin oedd y cyfarfod.
Agorwyd drwy weddi gan Mr Mel Morgans, Brynaman, Cadeirydd y Pwyllgor Cyd-enwadol lleol.
Yna cawsom hanes Saccheus gan Mr Nigel Davies, drwy gyfrwng PowerPoint a DVD. Dysgodd bawb adnod mewn ffordd hynod ddiddorol a dangosodd Mr Davies wir ystyr hanes Saccheus drwy ddefnyddio'r adnod 1 Samuel 16:7

“.. Yr hyn sydd yn y golwg a wêl dyn, ond y mae’r ARGLWYDD yn gweld beth sydd yn y galon.”




Yna gyda Bethan o Gapel Newydd yn cyfeilio canwyd can yn son am Sacheus. Yn dilyn hyn aeth y plant at y byrddau i wneud gwaith celf ar yr un thema. Cyn gadael cafodd pawb greision a diod ysgafn. Diolch i athrawon Ysgol Sul Gellimanwydd am drefnu’r lluniaeth.
Diolch hefyd i bawb a fynychodd y cyfarfod llwyddiannus oedd yn wir fendith wrth i ni gyd addoli ein Harglwydd Iesu Grist. Mae’n diolch pennaf i Mr Nigel Davies am drefnu’r diwrnod.

Friday, May 04, 2007

Mudiad Cenhadol y Chwiorydd

Mewn cyfarfod arbennig yng Nghapel Moreia, Tycroes, Ddydd Gŵyl Dewi eleni, trosglwyddodd fy nghyfaill Hilary Davies, Y Gwynfryn, Feibl Llywydd Mudiad Cenhadol y Chwiorydd i minnau, y llywydd newydd. Er mai o gapel Gellimanwydd y dôf, pwysleisia gwragedd Moreia, taw eu cynrychioli nhw y byddaf, ac yn sicr mae hynny yn fraint o’r mwyaf.
Y Beibl a drosglwyddwyd i’m gofal yw “Siarter Mudiad Cenhadol y Chwiorydd y Christian Temple, Gwynfryn, Moreia, a Seion Llandybie”.
Cyflwynwyd y Beibl hwn i’r mudiad yn 1950 gan Sarah Ann Mathias, diacones ym Moreia, ac un, medd Mam, oedd a’i gweddiau cyhoeddus yn cyffwrdd eneidiau.
Ar ddwy dudalen flaen y beibl, erbyn hyn wedi melynu gan oed, a blynyddoedd o fyseddu, yn ei llawysgrifen hi mae’r geiriau hyn:-
“Myfi yw y Bugail da ….. A defaid eraill sydd gennyf, y rhai nid ŷnt o’r gorlan hon: y rhai hynny hefyd sydd raid i mi eu cyrchu, a’m llais i a wrandawant, a bydd un gorlan ac un Bugail”.
Yn dilyn cawn rhestr o’r hoelion wYth hynny a fu’n llywyddion, ac yn eu plith, yr annwyl Dr. Tegfan Davies, Rachel L. Thomas, Mary Gwen Davies, Mary E. James a Nansi Mathews. Pobl oedd y rhain a ddylanwadodd yn drwm ar fy mhlentyndod a’m harddegau, athrawon yr Ysgol Sul a’m trywthodd i yn y gwerthoedd Cristnogol. Coffa da amdanynt oll.
Erbyn heddiw, mae ffyddloniaid y mudiad wedi prinhau’n sylweddol, a’r oes wedi newid yn gyfangwbl ers dyddiau Sarah Ann Mathias, ond yr un yw’r gwerthoedd Cristnogol, ac mae’r linell honno … “ A defaid eraill sydd gennyf, y rhai hynny hefyd sydd raid i mi eu cyrchu”, mor berthnasol!
Ga’ i eich cymell i gefnogi’r achos ac i ymuno a ni yn ein cyfarfodydd eleni, fel y gallwn sicrhau i’r “oesoedd a ddêl, y glendid a fu”.
Ruth Bevan

Tuesday, May 01, 2007

Amazing Grace

Nos Fercher, 30 Ebrill aeth nifer sylweddol o aelodau'r capel i Sinema Brynaman i weld y ffilm Amazing Grace.
Hanes diddymiad Caethwasiaeth ac ymdrechion William Wilberforce ac eraill sydd yn y ffilm. Y prif actor yw Ioan Gruffudd, sy'n chwarae rhan William Wilberforce, a wnaeth, fel Aelod Seneddol, frwydro'n ddiflino i ddiddymu'r fasnach gaethwasiaeth yn yr Ymerodraeth Brydeinig. Albert Finney oedd yn chwarae rhan John Newton, cyfansoddwr yr emyn Rhyfeddol Ras. Benedict Cumberbatch yw William Pitt, Prif Weinidog ifancaf Prydain yn 24 oed. Mae William Pitt yn annog ei ffrind Wilberforce i ymladd yn erbyn caethwasiaeth ac yn ei gefnogi yn y frwydr. Cafodd Wilberforce ei ethol i'r Ty Cyffredin yn 21, a dros gyfnod a ugain mlynedd brwydrodd yn erbyn y sefydliad Prydeinig nes iddo lwyddo rhoi diwedd i'r fasnach farbaraidd o gaethwasiaeth.