Sunday, January 26, 2014

APÊL HAITI


Rhai o Chwiorydd Gellimanwydd a fu’n paratoi yn hael ar ein cyfer
 
 
Yn dilyn Oedfa fore yng Nghapel Gellimanwydd ar Dydd Sul 26 Ionawr cynhaliwyd Cinio Bara a Chaws yn y Neuadd. Prif bwrpas y cinio oedd codi arian tuag at apêl Haiti Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. 

 Bob pedair blynedd mae Undeb yr Annibynwyr yn cynnal apêl arbennig tuag at waith Cymorth Cristnogol mewn un wlad benodol. APÊL HAITI gynhelir yn 2013-14, er budd pedwar prosiect i helpu gwlad dlawd a chwalwyd gan ddaeargryn anferth yn 2010.

Daeth cynrychiolaeth dda  i’r wledd ar ôl yr oedfa ac fe gawsom gân gan blant yr Ysgol Sul.  Casglwyd swm sylweddol tuag at yr apêl a diolchwyd i bawb am eu haelioni gan Y Parchg Dyfrig Rees.  

 

Sunday, January 19, 2014

Bedydd


Yn ystod Gwasanaeth boreol Dydd Sul 19 Ionawr bedyddwyd Gwenni Ann, merch Rhys a Julie Thomas.
 
Mae Gwenni yn chwaer i Efa Nel sydd yn aelod ffyddlon o Ysgol Sul Gellimanwydd.
 
Braf oedd cael  bod yn  bresennol i dystio i'r bedydd a rhannu yn y dathlu. 
"Yn wir rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag nad yw'n derbyn teyrnas Duw yn null plentyn, nid â byth i mewn iddi.” Luc 18:17