Rhai o Chwiorydd Gellimanwydd a fu’n paratoi yn hael ar ein cyfer
Yn dilyn
Oedfa fore yng Nghapel Gellimanwydd ar Dydd Sul 26 Ionawr cynhaliwyd Cinio Bara
a Chaws yn y Neuadd. Prif bwrpas y cinio oedd codi arian tuag at apêl Haiti
Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.
Bob pedair blynedd mae Undeb
yr Annibynwyr yn cynnal apêl arbennig tuag at waith Cymorth Cristnogol mewn un
wlad benodol. APÊL HAITI
gynhelir yn 2013-14, er budd pedwar prosiect i helpu gwlad dlawd a chwalwyd gan
ddaeargryn anferth yn 2010.
Daeth
cynrychiolaeth dda i’r wledd ar ôl yr
oedfa ac fe gawsom gân gan blant yr Ysgol Sul.
Casglwyd swm sylweddol tuag at yr apêl a diolchwyd i bawb am eu
haelioni gan Y Parchg Dyfrig Rees.
No comments:
Post a Comment