Wednesday, July 15, 2009

PARTI DATHLU MENTER CYD-ENWADOL GOGLEDD MYRDDIN

Mr a Mrs Nigel Davies, yn derbyn rhodd ar ran aelodau Menter Cyd-enwadol Gogledd Myrddin yn gydnabyddiaeth am ei waith fel Swyddog Ieuenctid dros y dair blynedd diwethaf. Yn y llun hefyd mae cynrychiolwyr o'r ysgolion Sul a Swyddogion y Fenter.

Roedd Neuadd Gellimanwydd yn llawn nos Fercher 15 Gorffennaf ar gyfer Parti Dathlu Menter Cyd -enwadol Gogledd Myrddin. Cyfle i ddathlu tair mlynedd o waith diflino Mr Nigel Davies, Swyddog Ieuenctid y Fenter oedd y noson yn bennaf. Hyfryd oedd gweld y neuadd yn llawn.
Cawsom air o groeso gan Gadeirydd y Fenter, sef Mr Mel Morgans. Yna aeth pawb at y byrddau i ddewis eu bwyd allan o'r bwffe arbennig oedd wedi ei baratoi gan gegin fach y Wlad.
Wedi i bawb lewni eu boliau a chael cyfle i gymdeithasu cawsom ein diddannu, yn blant, ieuenctid ac oedolion gan Rosfa'r Consuriwr, sef y Parchg Eirian Wyn, Gweinidog Seion Newydd, Treforus.
Roedd Rosfa ar ei orau yn cael ymateb arbennig gan y plant. Hyfryd oedd gweld a chlywed eu gwerthfawrogiad o'r "hud a lledrith" yn y triciau.
Cyflwynwyd rhodd i Mr Nigel Davies am ei waith a blodau i Mrs Sian Davies, ei briod. Dymunwyd yn dda i Nigel Davies yn y dyfodol pan mae'r Fenter yn ehangu i fod yn Fenter Cyd-enwadol Sir Gaerfyrddin. Bydd yn fwy prysur nag erioed yn calonogi gwaith Ysgolion Sul y Sir trwy roi cyfle llawn hwyl i blant gymdeithasu a dysgu yng nghwmni ei gilydd a chyflawni amcan yr Ysgol Sul o gyflwyno efengyl Iesu Grist mewn ffordd syml, ddealladwy a pherthnasol ar gyfer heddiw.


Friday, July 10, 2009

MABOLGAMPAU


Nos Fercher 8 Gorffennaf cynhaliwyd mabolgampau Menter Cyd Enwadol Gogledd Myrddin yn ysgol Dyffryn Aman.
Roedd y neuadd yn llawn bwrlwm a braf oedd gweld cymaint o gapeli yn cystadlu. Roedd dros 10 capel yno. Dechrwuwyd y noson drwy gynnal rasus y plant lleiaf, sef meithrin, derbyn a blwyddyn 1 a 3.


Ymysg y cystadleuthau maes roedd taflu pel am yn ol, naid hir, neidio cyflym, taflu pwysau, a naid driphlyg.
Tim Gellimanwydd oedd Catrin, Macy, Rhydian, Rhys, Harri, Dafydd, Nia, Elan a Mari.

Roedd y noson yn lwyddiant ysgubol ac yn wir Fwrlwm gyda'r plant yn mwynhau'r noson yn arw. Unwaith eto diolch i Mr Nigel Davies am drefnu'r holl noson. Y gweithgaredd nesaf fydd Parti Dathlu Menter Cyd Enwadol Gogledd Myrddin yn Neuadd Gellimanwydd ar 15 Gorffennaf.

Sunday, July 05, 2009

TRIP YSGOL SUL

Ar Ddydd Sadwrn 4 Gorffennaf aeth llond bws ohonom i Ddinbych y Pysgod ar drip blynyddol y Capel a'r ysgol Sul.
Er gwaethaf y tywydd yn Rhydaman wrth adael, sef cawodydd o law, cawsom dywydd llawer gwell na'r rhagolygon. Roedd hi'n ddiwrnod braf yn Ninbych y Pysgod fel roedd croen rhai ohonom yn ei ddangos ar ddiwedd y dydd wedi i ni gael lliw haul.


Dechreuodd rhai drwy fynd am gwpanaid o goffi cyn mentro i'r traeth. Manteisiodd eraill ar gyfle i siopa yn y dref. Wrth gwrs yn syth i'r traeth oedd bwriad y plant. Treuliwyd dirwnod hyfryd yn nofio, adeiladu a tyllu yn y tywod, chwarae gemau o griced a rownderi, neu manteisio ar y cyfle i ddarllen a cyfeillachu ar "ddeck chair" ar y traeth.
Hyfryd oedd cael cwmni ein gilydd i rannu sgwrs melys ar y "deck chairs". Hefyd hyfryd oedd clywed cymaint o Gymraeg ar y traeth a strydoedd y dref gyda nifer o Gapeli, gan gynnwys Capel Hendre, Hope, Pontarddulais a Capel y Nant, Clydach, yn gwneud yr union yr un fath a ni a dod i Ddinbych y pysgod am drip Ysgol Sul . Cyn troi am adref roedd rhaid archebu pysgod a sglodion i wneud y diwrnod yn gyflawn.


Mae nifer yn siarad am drip y flwyddyn nesaf yn barod.

OEDFA UNDEBOL MOREIA, TYCROES

Braf oedd gweld cymaint yn y gynulleidfa yn ein chwaer Eglwys, Moreia, Tycroes ar gyfer ein oedfa ar y cyd bore Sul 5 Gorffennaf.
A hithau yn Sul cytnaf y mis roedd gennym Oedfa Gymun. Ein Gweinidog Y Parchg Dyfrig Rees oedd yn pregethu a cawsom ganddo neges grymus yn dangos mai neges yr Efengyl sydd yn bwysig a bod pawb, beth bynnag fo'n cefndir a'n tras, eisiau yr un peth - sef cael byw a derbyn cariad Iesu Grist.
Hefyd atgoffodd Y Parchg Dyfrig Rees ni bod y neges tu ol i'r groes yn wir "Dunamis".
Yna gweinyddwyd y Cymun bendigaid gan ein gweinidog.
Wedi'r oedfa cafodd pawb gyfle i gymdeithasu yn Festri Moreia drwy rannu cwpanaid o de.
"Nid i fedyddio yr anfonodd Crist fi, ond i bregethu'r Efengyl, a hynny nid a doethineb geiriau, rhag i groes Crist golli ei grym." 1 Corinthiaid 1:17