Sunday, December 31, 2006

Gellimanwydd, Rhydaman a Moreia, Tycroes

Bore Sul 24 Rhagfyr daeth aeolodau a ffrindiau o Moreia i Eglwys Gellimanwydd ar gyfer oedfa Nadolig ar y cyd. Cawsom wasanaeth hyfryd wedi ei drefnu gan ein Gewinidog y Parchg Dyfrig Rees. Roedd nifer o eitemau wedi eu paratoi gan aelodau'r ddwy eglwys gan gynnwys darlleniadau, gweddiau a pedwar Cor, cor Moreia, cor merched, cor dynion a chor cymysg Gellimanwydd. Wedi'r oedfa cawsom gwmni ein gilydd yn Neuadd Gellimanwydd i rannu cwpaned o de a mins pei.

Yna ar fore Sul olaf y flwyddyn, sef Rhagfyr 31 cawsom oedfa ar y cyd ym Moreia, Tycroes. Cwrdd agored oedd hwn gyda nifer o aelodau wedi paratoi eitemau ac yn dod ymlaen i gymryd rhan yn yr oedfa drwy addoli Duw drwy ddarlleniadau, adroddiadau, myfyrdodau a chan. Yn wir roedd yn fendith i fod yn bresennol. Unwaith eto wedi'r oedfa manteiswyd ar y cyfle i gymdeithasu yn festri Moreia drwy rannu cwpaned o de wedi ei baratoi gan chwiorydd Moreia.
Yn y llun gwelir rhai o chwiorydd Moreia yn gweini'r te.




Monday, December 18, 2006

Parti Nadolig

Nos Lun 18 Rhagfyr yn Neuadd Gellimanwydd cawsom barti Nadolig yr Ysgol Sul. I ddechrau cawsom hwyl a sbri yn chwarae gemau amrywiol. Yna y bwyd - sglodion a selsig neu chicken nuggets a chips oedd y dewis eleni - a SOS COCH wrth gwrs.
Wedi'r bwyta a'r chwarae daeth Sion Corn i longyfarch y plant am eu gwaith trwy'r flwyddyn ac i gyflwyno anrheg i bob un ohonynt.
Hoffai athrawon yr Ysgol Sul ddiolch i bawb am eu ffyddlondeb yn ystod y flwyddyn ac edrychwn ymlaen am dymor llwyddiannus arall yng nghwmni ein gilydd.

"Gadewch i'r plant ddod ataf fi a pheidiwch a'u rhwystro, oherwydd i rai fel hwy y mae teyrnas Dduw yn perthyn" Luc 18:16

Pasiant y Plant

Nos Sul 17 Rhagfyr, 2006 cawsom ein swyno gan Basiant Nadolig plant yr Ysgol Sul. Roedd y Neuadd dan ei sang a hyfryd oedd bod yno. "Ble mae Iesu" oedd teitl y ddrama eleni. Roedd yn dechrau gyda Mair a Joseff yn dychwelyd o ddathliad y Pasg yn Jerwsalem. Yna roedd rhaid mynd yn ol i chwilio am Iesu. Cawsom hyd iddo yn y Deml yn trafod gyda'r oedolion. Wedyn dyma Mair yn ein hatgoffa o'i eni mewn stabal a chawsom ddrama'r geni gyda'r doethion, y bugeiliaid a'r angylion yn ein tywys tuag at y crud bendigaid.
"Clywch lu'r nef yn seinio'n un,
henffych eni Ceidwad dyn:
heddwch sydd rhwng nef a llawr,
Duw a dyn sy'n un yn awr.
Dewch, bob cenedl is y rhod,
unwch â'r angylaidd glod,
bloeddiwch oll â llawen drem,
ganwyd Crist ym Methlehem:
Clywch lu'r nef yn seinio'n un,
henffych eni Ceidwad dyn!"

Sunday, December 03, 2006

DATHLU'R NADOLIG


Ar Nos Sul Rhagfyr 17 yn Neuadd Gellimanwydd bydd plant ac Ieuenctid yr Ysgol Sul yn cyflwyno eu Pasiant Nadolig “Ble mae Iesu?” Y parchg Dyfrig Rees sydd wedi paratoi’r sgript eleni ac y mae e ynghyd a Miss Ruth Bevan ac athrawon eraill yr Ysgol Sul wedi bod yn paratoi’r plant ar gyfer y pasiant. Mae’r plant wedi bod yn ymarfer yn ddiwyd ers tro ac yn edrych ymlaen i gyflwyno eu gwasanaeth ar ffurf drama,darlleniadau a chân. Yn y llun gwelir rhai o’r plant yn ystod ymarfer yn y Neuadd.
Yna ar fore Sul 24 Rhagfyr byddwn yn uno gyda aelodau Moreia yng Ngellimanwydd i gynnal Oedfa’r nadolig ar y cyd. Bore Dydd Nadolig bydd Y Parchg Dyfrig Rees yn gweinyddu oedfa Gymun am 8.30

“ganwyd i chi heddiw yn nhref Dafydd, Waredwr, yr hwn yw’r Meseia, yr Arglwydd;" Luc 2:11

Friday, December 01, 2006

Lesotho

Ar Nos Fercher 27 Tachwedd, Mr Gareth Rees, Pontyberem oedd gŵr gwadd Y Gymdeithas. Mae Mr Rees yn Bennaeth Ysgol Y Tymbl ac yn frawd i’n Gweinidog Y parchg Dyfrig Rees. Cawsom noson hynod ddiddorol a difyr yn ei gwmni yn adrodd hanes ei ymweliad â Lesotho. Roedd Gareth wedi ymweld ag ysgol yng nghanol y wlad. Mynd o dan adain Dolen Cymru, sef y mudiad sy’n gyfrifol am gefeillio Cymru a Lesotho, oedd Mr Rees.