Nos Sul 17 Rhagfyr, 2006 cawsom ein swyno gan Basiant Nadolig plant yr Ysgol Sul. Roedd y Neuadd dan ei sang a hyfryd oedd bod yno. "Ble mae Iesu" oedd teitl y ddrama eleni. Roedd yn dechrau gyda Mair a Joseff yn dychwelyd o ddathliad y Pasg yn Jerwsalem. Yna roedd rhaid mynd yn ol i chwilio am Iesu. Cawsom hyd iddo yn y Deml yn trafod gyda'r oedolion. Wedyn dyma Mair yn ein hatgoffa o'i eni mewn stabal a chawsom ddrama'r geni gyda'r doethion, y bugeiliaid a'r angylion yn ein tywys tuag at y crud bendigaid."Clywch lu'r nef yn seinio'n un,
henffych eni Ceidwad dyn:
heddwch sydd rhwng nef a llawr,
Duw a dyn sy'n un yn awr.
Dewch, bob cenedl is y rhod,
unwch â'r angylaidd glod,
bloeddiwch oll â llawen drem,
ganwyd Crist ym Methlehem:
Clywch lu'r nef yn seinio'n un,
henffych eni Ceidwad dyn!"
No comments:
Post a Comment