Sunday, December 31, 2006

Gellimanwydd, Rhydaman a Moreia, Tycroes

Bore Sul 24 Rhagfyr daeth aeolodau a ffrindiau o Moreia i Eglwys Gellimanwydd ar gyfer oedfa Nadolig ar y cyd. Cawsom wasanaeth hyfryd wedi ei drefnu gan ein Gewinidog y Parchg Dyfrig Rees. Roedd nifer o eitemau wedi eu paratoi gan aelodau'r ddwy eglwys gan gynnwys darlleniadau, gweddiau a pedwar Cor, cor Moreia, cor merched, cor dynion a chor cymysg Gellimanwydd. Wedi'r oedfa cawsom gwmni ein gilydd yn Neuadd Gellimanwydd i rannu cwpaned o de a mins pei.

Yna ar fore Sul olaf y flwyddyn, sef Rhagfyr 31 cawsom oedfa ar y cyd ym Moreia, Tycroes. Cwrdd agored oedd hwn gyda nifer o aelodau wedi paratoi eitemau ac yn dod ymlaen i gymryd rhan yn yr oedfa drwy addoli Duw drwy ddarlleniadau, adroddiadau, myfyrdodau a chan. Yn wir roedd yn fendith i fod yn bresennol. Unwaith eto wedi'r oedfa manteiswyd ar y cyfle i gymdeithasu yn festri Moreia drwy rannu cwpaned o de wedi ei baratoi gan chwiorydd Moreia.
Yn y llun gwelir rhai o chwiorydd Moreia yn gweini'r te.




Monday, December 18, 2006

Parti Nadolig

Nos Lun 18 Rhagfyr yn Neuadd Gellimanwydd cawsom barti Nadolig yr Ysgol Sul. I ddechrau cawsom hwyl a sbri yn chwarae gemau amrywiol. Yna y bwyd - sglodion a selsig neu chicken nuggets a chips oedd y dewis eleni - a SOS COCH wrth gwrs.
Wedi'r bwyta a'r chwarae daeth Sion Corn i longyfarch y plant am eu gwaith trwy'r flwyddyn ac i gyflwyno anrheg i bob un ohonynt.
Hoffai athrawon yr Ysgol Sul ddiolch i bawb am eu ffyddlondeb yn ystod y flwyddyn ac edrychwn ymlaen am dymor llwyddiannus arall yng nghwmni ein gilydd.

"Gadewch i'r plant ddod ataf fi a pheidiwch a'u rhwystro, oherwydd i rai fel hwy y mae teyrnas Dduw yn perthyn" Luc 18:16

Pasiant y Plant

Nos Sul 17 Rhagfyr, 2006 cawsom ein swyno gan Basiant Nadolig plant yr Ysgol Sul. Roedd y Neuadd dan ei sang a hyfryd oedd bod yno. "Ble mae Iesu" oedd teitl y ddrama eleni. Roedd yn dechrau gyda Mair a Joseff yn dychwelyd o ddathliad y Pasg yn Jerwsalem. Yna roedd rhaid mynd yn ol i chwilio am Iesu. Cawsom hyd iddo yn y Deml yn trafod gyda'r oedolion. Wedyn dyma Mair yn ein hatgoffa o'i eni mewn stabal a chawsom ddrama'r geni gyda'r doethion, y bugeiliaid a'r angylion yn ein tywys tuag at y crud bendigaid.
"Clywch lu'r nef yn seinio'n un,
henffych eni Ceidwad dyn:
heddwch sydd rhwng nef a llawr,
Duw a dyn sy'n un yn awr.
Dewch, bob cenedl is y rhod,
unwch â'r angylaidd glod,
bloeddiwch oll â llawen drem,
ganwyd Crist ym Methlehem:
Clywch lu'r nef yn seinio'n un,
henffych eni Ceidwad dyn!"

Sunday, December 03, 2006

DATHLU'R NADOLIG


Ar Nos Sul Rhagfyr 17 yn Neuadd Gellimanwydd bydd plant ac Ieuenctid yr Ysgol Sul yn cyflwyno eu Pasiant Nadolig “Ble mae Iesu?” Y parchg Dyfrig Rees sydd wedi paratoi’r sgript eleni ac y mae e ynghyd a Miss Ruth Bevan ac athrawon eraill yr Ysgol Sul wedi bod yn paratoi’r plant ar gyfer y pasiant. Mae’r plant wedi bod yn ymarfer yn ddiwyd ers tro ac yn edrych ymlaen i gyflwyno eu gwasanaeth ar ffurf drama,darlleniadau a chân. Yn y llun gwelir rhai o’r plant yn ystod ymarfer yn y Neuadd.
Yna ar fore Sul 24 Rhagfyr byddwn yn uno gyda aelodau Moreia yng Ngellimanwydd i gynnal Oedfa’r nadolig ar y cyd. Bore Dydd Nadolig bydd Y Parchg Dyfrig Rees yn gweinyddu oedfa Gymun am 8.30

“ganwyd i chi heddiw yn nhref Dafydd, Waredwr, yr hwn yw’r Meseia, yr Arglwydd;" Luc 2:11

Friday, December 01, 2006

Lesotho

Ar Nos Fercher 27 Tachwedd, Mr Gareth Rees, Pontyberem oedd gŵr gwadd Y Gymdeithas. Mae Mr Rees yn Bennaeth Ysgol Y Tymbl ac yn frawd i’n Gweinidog Y parchg Dyfrig Rees. Cawsom noson hynod ddiddorol a difyr yn ei gwmni yn adrodd hanes ei ymweliad â Lesotho. Roedd Gareth wedi ymweld ag ysgol yng nghanol y wlad. Mynd o dan adain Dolen Cymru, sef y mudiad sy’n gyfrifol am gefeillio Cymru a Lesotho, oedd Mr Rees.

Sunday, November 12, 2006

CYFARFODYDD PREGETHU

Dydd Sul, 12 Tachwedd, cawsom y fraint o groesawu'r Parch Wilbur Lloyd Roberts, Pentrefelin, Llandeilo i'n cyfarfodydd pregethu.
Yn ystod y bore a hithau yn Sul y Cofio cawsom ein atgoffa bod Iesu yn

"Lladd gelyniaeth nid gelynion" ac mai trwyddo ef y cawn wir heddwch yn y byd.
"Boed ysbryd gwell rhwng gwlad a gwlad
heb ryfel, dig na chas,
a phlyged holl arweinwyr byd
i'w dderbyn ef a'i ras,
i'w dderbyn ef a'i ras,
i'w dderbyn, i'w dderbyn ef a'i ras."
Yn oedfa'r hwyr cawsom y pleser o groesawu cyfeillion o eglwys y Gwynfryn atom . Cafodd pawb oedd yn bresennol fendith o fod yn yr oedfaon.

Thursday, October 26, 2006

SION A SIAN




Nos Fercher, Hydref 25 daeth criw y Gymdeithas i'r Neuadd ar gyfer Noson Sion a Sian. Roedd y noson yng nghofal Dai a Jennie sef Roy ac Edwina Leach. Roeddent wedi paratoi cwestiynau amrywiol a difyr dros ben i holi'r parrau priod. Y par cyntaf oedd Kerry a Marlene Moses, sydd wedi bod yn briod am bron i 50 mlynedd. Cawsom wybod ychydig o gyfrinachau'r ddau drwy holi Dai.
Yna tro Y Parchg Dyfrig Rees a'i wraig Mandy oedd hi. Pwy fuasai'n meddwl byddai Dyfrig yn hoffi mynd am criws rownd y byd tra bod hi'n well gan Mandy fod yn gogyddes enwog.

Tro Edwyn ac Ivoreen Williams oedd hi wedyn. Gwell ganddo ef brynu Rolls Royce ond roedd Ivoreen yn meddwl mai Jaguar sydd orau. Wynford ac Ann Jenkins oedd y par olaf i gystadlu. Roedd Wynford yn meddwl ei fod yn cysgu ar ochr dde y gwely ond na yr ochr chwith yn ol Ann!
Cawsom noson hwylus dros ben a diolch i bawb am y trefniadau - yn enwedig DAI A JENNIE.

Thursday, October 19, 2006

DIOLCHGARWCH 2007



Dydd Sul 15 Hydref cynhaliwyd cyrddau Diolchgarwch yr eglwys. Roedd y capel wedi ei addurno'n hyfryd gan aelodau'r eglwys. Yn y bore cawsom oedfa yn diolch i Dduw y Creawdwr gan Blant yr Ysgol Sul. Roedd pob plentyn wedi dysgu ei waith yn drylwyr a chawsom ein harwain ganddynt drwy ddarlleniadau, gweddiau, adroddiadau, llefaru i gyfeiliant, unawd a chan. Roedd y plant wedi dod a'u bocsys esgidiau yn llawn anrhegion ar gyfer Operation Christmas Child, a chawsom edrych ar fideo o blant yn derbyn y rhoddion mewn wahanol ardaloedd o'r byd. Diolch i athrawon yr Ysgol Sul am eu gwaith ac i Miss Ruth Bevan yn benodol am baratoi a dysgu'r plant.

Oedfa'r oedolion oedd yn yr hwyr. Cawsom ein arwain mewn myfyrdod gan ein Gweinidog y Parchg Dyfrig Rees drwy gyfwng sleidiau ar y thema Porthi'r Pum Mil. Roedd aelodau'r eglwys yn darllen ac offrymu gweddiau a Mrs Gloria Lloyd yn arwain dau Gor, gyda Mr Cyril Wilkins wrth yr organ.
Braf oedd cael bod yn bresennol yn y ddwy oedfa i dalu clod i Dduw am y Cynhaeaf.

"Moliannaf enw Duw ar gan, mawrygaf ef a diolchgarwch". Salm 69:30


Wednesday, September 20, 2006

HENFFORDD A MAESYRONEN


Dydd Sadwrn, 18 Medi oedd dyddiad trip blynyddol Y Gymdeithas. Henffordd oedd y cyrchfan y tro hwn. Roedd pawb yn sefyll y tu allan i'r capel am 9.00 a daeth Sharon a Kevin , ein gyrrwyr, yn brydlon i fynd a ni ar ein taith.
Roedd yn fore bendigedig a'r golygfeydd o Ddyffryn Tywi, Aberhonddu a Dyffryn Gwy yn odidog. Roedd Mrs Mandy Rees, ein hysgrifenyddes, wedi trefnu stop am gwpaned o de yn Bronllys.
Yna ymlaen i Gapel Maesyronen ( sylwer mai un N sydd yn yr enw). Maesyronen yw un o gapeli hynaf Cymru. Cafodd y Capel presennol ei adeiladu o gwmpas 1696. Tu fewn i'r capel gwelir celfi o'r 18ed a'r 19eg ganrif. Mae'r ford fawr dderi yn dal i'w chael ei defnyddio adeg cymundeb. Mae cwrdd yn y capel pob Sul.


Cyn gadael Capel Maesyronen canwyd emyn gyda'r Parchg Dyfrig Rees yn cyfeilio. Yna ymalen i Henffordd. Cawsom brynhawn wrth ein bodd yn y ddinas. Aeth rhai i weld y Mappa Mundi a'r llyfgell tsiaen ac wedyn awr neu ddwy yn crwydro'r dref yn siopa.

Unwaith eto roedd y trip yn lwyddiant ysgubol ac mae'n diolch i'n Gweinidog Y Parchg Dyfrig Rees am roi hanes y pentrefi i ni ar y ffordd ac i Mandy Rees am wneud y trefniadau.


Friday, September 15, 2006

LLWYDDIANT EISTEDDFODOL

Llongyfarchiadau i ddau o feibion yr eglwys.
Aled Rhys Hughes, mab Y Parchg Dewi Myrddin Hughes yw enillydd Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 2006. Mae Aled hefyd yn derbyn gwobr o £3,000 am gyfres o ffotograffau o dirlun y Mynydd Du. Yn ôl un o'r detholwyr Peter Finnemore mae'r lluniau'n "ddosbarth meistr mewn gwaith ffotograffig hynod gelfydd".
Yna ar y dydd Iau roedd brawd Aled, sef Dr Ifan Hughes, Prifysgol Durham yn traddodi'r Ddarlith Wyddonol Flynyddol yn y Pagoda yn yr Eisteddfod. Teitl darlith Ifan oedd "Ias oer - y laser a mater oera’r cread" a oedd yn son am y gwaith ymchwil mae'n ei wneud yn Durham gyda lasers.

Llongyfarchiadau i'r ddau ohonynt.

Monday, August 07, 2006

GWASANAETH BOREOL EISTEDDFOD GENEDLAETHOL ABERTAWE

Am y tro cyntaf yn hanes yr Eisteddfod Genedlaethol cafwyd pregeth gan Archesgob Caergaint. Braf yw cael dweud bod llond bws o aelodau a ffrindiau eglwys Gellimanwydd yno.

Testun ei bregeth oedd Cenedl, Cymuned, Cyfiawnder.
Dywedodd y Parchedicaf Rowan Williams - Yn yr Hen Destament, yn llyfr Deuteronomium, fe ddarllenwn, "Gwnaeth yr Arglwydd ein Duw gyfamod a ni yn Horeb."Nid a'n hynafiaid y gwnaeth yr Arglwydd y cyfamod hwn, ond a ni i gyd sy'n fyw yma heddiw'. Mae galwad Duw yn dod i ni heddiw, galwad i ateb ein Creawdwr a'n Hiachawdwr mewn cariad a llawenydd yn yr awr hon ac yfory.

Ychwanegodd - Caru Duw - caru cymydog. Mewn cymuned fel hon, mae'r cymydog yn mynd yn frawd neu'n chwaer ac mae'r gymuned yn mynd yn deulu. Os ydym yn sefyll ynghyd gerbron Duw yr ydym yn sefyll hefyd gerbron y cymydog. Fel y dywedodd Iesu gan orchymyn, "Câr yr Arglwydd dy Dduw a char dy gymydog fel ti dy hun."

Fel rhan o deulu Duw yma yng Nghellimanwydd cawsom gyfle wedi'r oedfa i gymdeithasu a'n cyfeillion yn Neuadd Gellimanwydd drwy rannu gwledd oedd wedi ei baratoi ar ein cyfer.

Diolch i bawb oedd wedi trefnu.

Wednesday, July 19, 2006

Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r Cylch

Bydd safle hen waith dur Felindre yn cael ei drawsnewid yn ganolfan ddiwylliannol o Awst 5 - 12 2006. Pafiliwn pinc sydd yn cael ei ddefnyddio eleni. Cafodd ei gynllunio ar gyfer ymgyrch cansyr y fron ac mae'n siwr o ddenu sylw pobl sy'n teithio ar yr M4 heibio hen waith dur Felindre.

Ar fore Sul Awst 6 byddwn fel aelodau Gellimanwydd yn teithio mewn bws er mwyn ymuno a'n cyd-gristnogion mewn oedfa yn y Pafiliwn, ble disgwylir i'r Parchedicaf Rowan Williams, Archesgob Caergaint bregethu. Pa ffordd well i ddechrau'r wythnos na chyd-addoli a dathlu ein diwylliant fel Cymru.

Wedi dychwelyd o Oedfa Foreol yr Eisteddfod cawn gyfle i gymdeithasu drwy rannu mewn gwledd wedi ei pharatoi ar ein cyfer yn Neuadd Gellimanwydd.

Monday, July 03, 2006

LLUNIAU O'R TRIP





Dyma rai lluniau o Ddinbych y Pysgod.

Sunday, June 25, 2006

TRIP Y CAPEL


Dydd Sadwrn 24 Mehefin aeth llond bws ohonom i Ddinbych y Pysgod. Roedd y tywydd yn ffafriol a chawsom ddiwrnod i'r brenin yn chwarae gemau ar y traeth. Mentrodd rhai i mewn i'r mor tra bod eraill yn hapus yn eistedd mewn "deck chair" gyffyrddus.
Yn y llun mae Edwyn (athro Ysgol Sul) wedi ei gladdu mewn tywod gan rhai o blant yr ysgol Sul!!
Cyn mynd yn ol i'r bws am 5.30 aeth llawer ohonom o amgylch y dref i brynu ychydig o anrhegion - a bwyta llond bol o "sglodion a pysgod" wrth gwrs.

Mae nifer ohonom yn edrych ymlaen i'r trip nesaf yn barod, sef trip y Gymdeithas i Henffordd ar 16 Medi.

Diolch i bawb a gefnogodd y trip - synnwn i ddim bod hwn am fod yn achlysur blynyddol yn dilyn llwyddiant eleni.

BORE COFFI'R URDD









Dydd Gwener, 23 Mehefin cynhaliodd aelodau Gellimanwydd, Capel y Gwynfryn a Chapel Newydd y Betws fore coffi yn Neuadd y Pensiynwyr ar gyfer codi arian tuag at Eisteddfod yr Urdd Sir Gar 2007.
Roedd amrywiaeth o stondinau yno a gobeithio ein bod wedi codi swm sylweddol o arian ar gyfer yr Eisteddfod.

Saturday, June 03, 2006

TRIP Y CAPEL

Yn dilyn llwyddiant y noson bowlio deg rydym wedi penderfynu trefnu digwyddiad arall y tymor hwn.
Ar Ddydd Sadwrn 24 Mehefin byddwn yn mynd am drip i DDINBYCH Y PYSGOD.
Bydd y bws yn gadael am 9.30 o'r capel ac yn dychwelyd o Ddinbych y Pysgod am 5.30.
Beth am ymuno a ni. Os hoffech ddod yna cysylltwch ag Edwyn Williams.

Sunday, May 14, 2006

CWRDD TEULUOL

Guto Llywelyn oedd yn gyfrifol am oedfa deuluol Mis Mai ac “Ewyllys Da” oedd sail y gwasanaeth.Yn ystod yr oedfa daeth y plant i sefyll o dan ymbarel fel arwydd ein bod i gyd yn ran o UN TEULU MAWR gyda’n tad yr Arglwydd Dduw yn gwylio drosom i gyd. Wedi’r oedfa cawsom gyfle i gymdeithasu yn y Neuadd drwy rannu cwpaned o de a chinio bara a banana, fel rhan o weithgareddau Wythnos Cymorth Cristnogol.
Trefnwyd Oedfa Deuluol Mis Chwefror ar thema “Gwyl Ddewi” gan Edwyn Williams. Bethan Thomas fydd yn gyfrifol am wasanaeth Mehefin a’r teitl fydd “Adeiladu” ac yna fe fydd Ruth Bevan yn gyfrifol am Oedfa Ddiolchgarwch y plant ar Hydref 15.
Dewch i’n cefnogi gan mai’r plant yw dyfodol ein heglwys.

Y pethau bychain hynny a welsom ganddo ef
O dyro ras i'w dysgu yn awr er Teyrnas Nef.

LLYWYDD YR UNDEB

Mae’r parch Dewi Myrddin Hughes, cyn weinidog Gellimanwydd, wedi ei enwi fel Daprar Lywydd yr Undeb gan y Cyfundebau. Bydd Mr Hughes yn cael ei ethol yn y Gynhadledd yn Llanbed. Mae'r Parch Dewi Myrddin a'i briod Annette Hughes yn aelodau ffyddlon a gweithgar yng Ngellimanwydd.
Llongyfarchiadau mawr iddo.

CYMDEITHAS GELLIMANWYDD 2005-06

Ni allaf gredu bod fy nhymor cyntaf fel ysgrifennydd y Gymdeithas wedi gorffen, ac rwyf eisiau diolch i bawb sydd wedi ei chefnogi a bod mor barod i gymryd rhan.
Dechreueodd y tymor ym mis Medi 2005 gyda thrip blynyddol. Aethom ar daith i Sir Benfro, gan fwynhau y golygfeydd hudolus sy’n nodweddu’r arfordir arbennig.Bu cyfle i aros yn Hwlffordd ac Abergwaun a phererindota yn Nhy Ddewi.
Cafwyd nosweithiau difyrus, adeiladol ac addysgiadol drwy’r tymor. Glynog Davies yn difyrru noson y swper a chael ciplowg ar hiwmor gwreiddiol poblei filltir sgwar. Bu cyflwyniad Dafydd Evans o’r Gymdeithas Alzheimers, mis Hydref, yn fwysobreiddiol wrth iddo agor cil y drws i ddirgelwch y clefyd enbyd a brawychus sy’n taro cynifer. Eto, gwnaeth hynny yn ddiddorol ac heb godi ofn arnom a chyda mesur o ddoniolwch.
Mins-pei a charol wedyn. Y merched wedi arlwyo’n dda fel arfer a’r gweinidog yn rhoi cyflwyniad o hanes ysgrifennu a chyfansoddi y garol Tawel Nôs.Cafodd y cwis feistr, Edwyn gymorth Ivoreen gyda’r cwis. Bu’n noson hwyliog fel arfer gydag ambell un yn mynnu dangos ei anwybodaeth. Bu’r eira’n feistr arnom noson Gwyl Ddewi a siom fawr fu gorfod dileu’r swpera baratowyd. Bu sawl un yn bwyta cawl am ddiwrnodau mae’n debyg. Diolch i’r merched am baratoi ac i Aelwyd Penrhyd am fodloni dod atom eto yn y dyfodol.
Noson ola’r tymor, ddechrau Ebrill, daeth Cwmni Drama’r Fedwen, Saron, atom i gyflwyno’r gomedi, Corfw.
Mae bron a bod yn amser i drefnu rhaglen ar gyfer y tymor nesaf a gelwir pwyllgor yn fuan. Bydd angen awgrymiadau arnom ar gyfer trip, siaradwyr,nosweithiau a.y.y.b. A oes gennych awgrymiadau?
Cofiwch mae angen syniadauhen a newydd er mwyn sicrhau ffresni a chadw’r gymdeithas yn apelgar a diddorol.
Edrychwn ymlaen at raglen 2006-2007.
Mandy Rees.

Sunday, April 09, 2006

CYMANFA GANU SUL Y BLODAU

Mr Geraint Roberts, Prestatyn, yr Arweinydd a rhai o gynulleidfa'r bore.








Ar ddydd Sul 9 Ebrill, sef Sul y Blodau daeth capeli Rhydaman a'r cylch at eu gilydd i ddathlu ein Cymanfa Undebol. Roedd Gymanfa eleni yng Nghapel y Gwynfryn. Braf oedd gweld y capel yn llawn yn ystod y bore pan gawsom Gymanfa'r Plant. Roedd pob plentyn wedi dysgu ei waith ac yn perfformio'n arbennig.
Mr Geraint Roberts, Prestatyn oedd Arweinydd Gymanfa eleni, gyda Mrs Sally Arthur yn cyfeilio ar yr organ. Hefyd roedd band yn y sedd fawr yn cyfeilio ar gyfer yr emynau.
Mr Roberts yw arweinydd Cor Meibion Trelawnwyd, sef un o gorau meibion mwya Gogledd Cymru. Cafodd Mr Roberts hwyl arbennig yn annog y plant i ganu a chodi'r to. Yn wir roedd yn bleser bod yno i wrando ar y plant a'r oedolion yn canu'r emynau.

Sunday, April 02, 2006

CYMANFA GANU UNDEBOL


Cynhelir Cymanfa Ganu Undebol Rhydaman a'r Cylch, ddydd Sul y Blodau, 9 Ebrill, 2006 yng Nghapel y Gwynfryn.
Bydd aelodau Gellimanwydd, Y Gwynfryn, Moreia a Seion, Capel Newydd, Bethani a Gosen yn ymuno ar gyfer y Gymanfa eleni eto.

Yr Arweinydd fydd Mr Geraint Roberts, Prestatyn a'r Organyddes, Mrs Sally Arthur.

Dydd Sul 2 Ebrill, cafwyd dwy rihyrsal yn y Gwynfryn. Am 2 y prynhawn caswcom rihyrsal y plant. Yn y llun gwelir rhai o blant Ysgol Sul Gellimanwydd yn ymarfer ar gyfer yr eitem yng Nghymanfa'r plant.
Yna am 5.30 yr hwyr cynhaliwyd rihyrsal yr oedolion.

CWRDD UNDEBOL - MOREIA



















Bore dydd Sul 2 Ebrill, aeth aelodau Gellimanwydd i Ty Croes i ymuno mewn oedfa Gymun a'n chwaer eglwys, Moreia.
Cawsom wasanaeth hyfryd gyda aelodau Moreia yn arwain a chymryd rhan. Gweinyddwyd y Cymun gan ein Gweinidog, Y Parch Dyfrig Rees. Wedi'r oedfa cawsom gyfle i gymdeithasu yn y festri drwy rannu cwpaned o de a bisgedi, wedi eu paratoi gan aelodau Moreia.
Da oedd cael bod yno yn cyd-addoli gyda'n ffrindiau yn Nhycroes.

Sunday, February 26, 2006

CWRDD TEULUOL 26 CHWEFROR


Plant yr Ysgol Sul oedd yn gyfrifol am y cwrdd teuluol bore 26 Chwefror. A hithau'n agos at Ddydd Gwyl Dewi thema y gwasanaeth oedd Dewi Sant. Drwy gyfrwng darlleniadau, gweddiau a chaneuon cafwyd darlun o'n Nawdd Sant gan y plant. Yn ystod un eitem daeth pob un i fyny i'r sedd fawr gyda darn o lun i greu llun o'r capel, a chan ganddynt i Diolch am Gymru.

Pwysleisiodd y Gweinidog, Y Parch Dyfrig Rees bwysigrwydd geiriau bach sydd yn wir yn eiriau mawr ein ffydd - DUW ac IESU.

Braf oedd gweld y plant wedi gwisgo i fyny yn eu gwisgoedd traddodiadol. Diolch i bob un ohonynt am wneud eu rhan mor raennus.
Wedi'r oedfa aethom i'r neuadd i rannu cwpaned o de a chyfle i gymdeithasu.

Y pethau bychain hynny a welsom ganddo ef
O dyro ras i'w dysgu yn awr er Teyrnas Nef.

Wednesday, February 22, 2006

CWRDD TEULUOL

Bydd Plant yr Ysgol Sul yn cymryd rhan mewn Cwrdd Teuluol dydd Sul 26 Chwefror am 10.30.
A hithau bron yn Fawrth y Cyntaf thema'r gwasanaeth fydd Dewi Sant.
Wedi'r oedfa bydd cyfle i gymdeithasu yn y Neuadd drwy rannu disgled o de, bisgedi a chlonc.

Croeso cynnes i bawb.

Friday, February 17, 2006

SULIADUR 2007

TREFN Y CYFARFODYDD
Y SUL
Y Bore am 10.30: Gwasanaeth Addoli
Y Bore am 11.00 tan 11.45: Ysgol Sul y Plant
Yr Hwyr am 5.30: Gwasanaeth Addoli
Gwasanaeth y Cymundeb: Bore Sul cyntaf bob mis ac yn yr hwyr ambell fis.
.
CALENDR Y SULIAU 2007
.
TACHWEDD
4 - Y Gweinidog. Cymun yn oedfa'r bore
11- Cyfarfodydd Pregethu: Y Parchg Dr Geraint Tudur, B.D., Bangor
18 - Y Gweinidog. Cymun yn oedfa'r hwyr
25 - Y Parchg Denzil James, Idole, Caerfyrddin
..
RHAGFYR
2 - Y Gweinidog. Cymun yn oedfa'r bore
9 - Y Parchg T. Gerwyn Jones, Caerbyryn
16 - Y Gweinidog
23 - Gwasanaeth Nadolig ar y cyd a Moreia ym Moreia, 10.30
Hwyr - Gwasanaeth Nadolig y Plant yng Ngelliamnwydd am 5.30
25 - Y Gweinidog. Cymun bore Dydd Nadolig am 8.30
30 - Oedfa ar y cyd a Moreia yng Ngellimanwydd am 10.30
.
IONAWR 2008
6 - Y Gweinidog. Cymun yn oedfa'r bore
13 - Y Gweinidog
20 - Y Paechg Ken Williams, Gorslas
27 -Y Gweinidog
.

Saturday, January 28, 2006

Gwefan Yr Undeb

Mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg wedi sefydlu gwefan newydd.
Mae'r cyswllt ar gyfer y wefan hon i'w gweld ar y dde o dan ein "links".

Mae rhyw 500 o eglwysi Annibynnol yn aelodau o Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, y rhan fwyaf o ddigon yn byw eu bywyd drwy’r iaith Gymraeg. Mae 16 o gyfundebau, gan gynnwys y ddau lleiaf, Lerpwl a Llundain. Sefydlwyd yr eglwys Annibynnol gyntaf yng Nghymru yn Llanfaches yn 1639 yn y traddodiad Piwritanaidd. Mae’r Undeb wedi mynegi safbwyntiau radical ar faterion Cymreig a rhyngwladol yn gyson.

Gweithredir yn bennaf drwy Gyngor yr Undeb, a’i chwe Adran – Cenhadaeth, Ieuenctid, Cyllid, Eglwysi a’u Gweinidogaeth, Addysg a Chyfathrebu, Dinasyddiaeth Gristnogol.

Mae’r Pwyllgor Gweinyddol yn gweithredu fel pwyllgor gwaith ac yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn fel rheol, i drafod ystod eang o bynciau; mae’n atebol i’r Cyfarfodydd Blynyddol.
Cynhelir y Cyfarfodydd Blynyddol yn yr haf dros dri diwrnod.

Friday, January 13, 2006

Tegfan



Ar Nos Iau, 12 Ionawr 2006 aeth criw o aelodau'r eglwys i gynnal noson yng nghartref Henoed Tegfan.

Yn y llun gwelir y cor yn canu yn y cartref. Diolch unwaith eto i bawb oedd wedi rhoi o'u hamser i ddod ynghyd, yn enwedig i'r rhai a fu'n hyfforddi a cyfeilio.