Plant yr Ysgol Sul oedd yn gyfrifol am y cwrdd teuluol bore 26 Chwefror. A hithau'n agos at Ddydd Gwyl Dewi thema y gwasanaeth oedd Dewi Sant. Drwy gyfrwng darlleniadau, gweddiau a chaneuon cafwyd darlun o'n Nawdd Sant gan y plant. Yn ystod un eitem daeth pob un i fyny i'r sedd fawr gyda darn o lun i greu llun o'r capel, a chan ganddynt i Diolch am Gymru.
Pwysleisiodd y Gweinidog, Y Parch Dyfrig Rees bwysigrwydd geiriau bach sydd yn wir yn eiriau mawr ein ffydd - DUW ac IESU.
Braf oedd gweld y plant wedi gwisgo i fyny yn eu gwisgoedd traddodiadol. Diolch i bob un ohonynt am wneud eu rhan mor raennus.
Wedi'r oedfa aethom i'r neuadd i rannu cwpaned o de a chyfle i gymdeithasu.
Y pethau bychain hynny a welsom ganddo ef
O dyro ras i'w dysgu yn awr er Teyrnas Nef.
2 comments:
Rwyn hoffi'r llun, mae pawb yn edrych yn neis iawn yn eu wisgoedd.
Nia
Rwyn hoffi'r llun, mae pawb yn edrych yn neis iawn yn eu wisgoedd!
Nia
Post a Comment