Tuesday, March 31, 2009

CLWB HWYL HWYR

Ar ddiwedd mis Mawrth i gloi gweithgareddau'r tymor cafodd aelodau Clwb Hwyl Hwyr Rhydaman barti mawr yn lle chwarae Fantasia yng Nghapel Hendre. Fe ddaeth bron i 20 o aelodau i’r parti ac fe fuodd y plant yn sglefrio, chwarae a mwynhau pryd o fwyd. Fel y gwelir yn amlwg o’r lluniau fe wnaeth pawb fwynhau yn fawr iawn.
Fel yr ydych yn siwr o fod yn gwybod menter Capeli Cymraeg Rhydaman yw'r Clwb Cristnogol yn llawn hwyl ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 i 6. Rydym yn cyfarfod yn wythnosol ar Nos Wener yn ystod tymhorau’r ysgol yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman rhwng 5.30 a 6.30pm.

Sunday, March 15, 2009

CYMANFA GANU UNDEBOL RHYDAMAN A'R CYLCH 2009

Cynhelir y GYMANFA GANU ar Ddydd Sul Y Blodau, 5ed Ebrill 2009 yng Nghapel y Gwynfryn.
Bydd aelodau o Gellimanwydd, Y Gwynfryn, Moreia, Seion, Capel Newydd, Bethani, Gosen,Capel Hendre, Caersalem ac Ebeneser yn ymuno yn y Gymanfa.

Yr arweinydd fydd Mrs Ann Davies, LLCM, Llanarthne. Mrs Gloria Lloyd fydd yr organyddes.
Y llywyddion fydd aelod o Gapel Hendre yn y bore a Gosen yn yr hwyr.

Cyhelir rihyrsal i'r oedolion yng Nghapel y Gwynfryn ar 29 Mawrth am 5.30 yr hwyr dan arweiniad Mrs Ann Davies.

Friday, March 06, 2009

BANANA SPLIT MASNACH DEG

Nos Wener 6ed Mawrth aeth plant Gellimanwydd sydd yn aelodau o Clwb Hwyl Hwyr i'r Arcade yn Rhydaman i gymryd rhan yn y Banana Split Enfawr.
Ymgais i greu record byd o ran bwyta bananas masnach deg oedd hon.
Yn gyntaf roedd yn rhaid adeiladu'r banana split drwy dorri bananas, wedyn rhoi'r hufen ia ar eu pennau. Yna ychwanegu'r hufen ac yn olaf y saws mefus a siocled. Roedd y canlyniad yn gampwaith ac yn wir cadw at y term Banana Split Enfawr.

Braf oedd gweld cymaint yno, yn blant, ieuenctid ac oedolion.
Roedd y gweithgaredd hwn wedi ei drefnu gan glybiau ieuenctid capeli ac eglwysi'r dref, ond yn agored i bawb. Roedd y banana split yn barod i'w bwyta am 6.00 a cafodd pawb hwyl arbennig yn llanw eu boliau.
Pa well ffordd o godi ymwybyddiaeth Masnach Deg sy'n ceisio sicrhau bywolaieth deilwng i gynhyrchwyr y trydydd byd, a chael hwyl arbennig yr un pryd.

Sunday, March 01, 2009

GWASANAETH GWYL DEWI 2009

Fel yr arfer ers sawl blwyddyn bellach Cwrdd teuluol oedd gennym ar fore Sul 1 Mawrth.

Sara Mai Davies oedd yn ein harwain mewn gweddi i agor yr oedfa. Yna daeth Elan Daniels i gyflwyno emyn. Wedi'r cyhoeddiadau a'r casgliad Mari Llywelyn oedd yn ein harwain yn y Gwasanaeth. Cawsom ddeialog rhwng Dewi Sant ac un o'i ddilynwyr gan Harri Jones a Dafydd Llywelyn. Adroddodd Sara Mai Davies "Neges Dewi".

Cyflwynodd Manon Daniels ddarlleniad o'r beibl, sef Mathew18: adnodau 1-6 ac 10-11. Yna gweddiodd Nia Rees ac Elan Daniels. Trystan Daniels rhoddodd yr emyn nesaf allan ac yna daeth y plant lleiaf sef Macy a Catrin ac adrodd "Dewi Sant".

Gadewch i ni gofio
Ein neges bob un,
A gwneud pethau bychain
A charu pob dyn.

Tro Hanna Williams oedd hi wedyn ac adroddodd "Salm y Genedl".

Cawsom air gan y Gweinidog drwy ddefnyddio Cenninen fel arwydd i ddangos gwaith pobl yr eglwys.

Cyn gweinyddu'r cymundeb rhoddodd Rhys Daniels emyn allan. Yn ystod y Cymundeb cafodd y Gweinidog y plant i gyd i fyny i'r sedd fawr ac esboniodd ystyr ac arwyddocad y bara a'r gwin iddynt.

I gloi oedfa fendithiol dros ben cawsom ein harwain gan Nia Jeffers yn yr emyn "Dros Gymru'n Gwlad".

Braf oedd gweld cymaint o blant a pobl ifanc yn y cwrdd. Yn wir dydwedodd ein gweinidog Y Parchg Dyfrig Rees pa mor galonogol oedd gweld y pobl ifanc yn y gwasanaeth ac mai nhw yw'r dyfodol. Hefyd dywedodd Mr Rees mai'r her i ni gyd yw ceisio sicrhau bod pob gwasnaeth yn wasanaeth deuluol .