Mae’r gair “JAM”
wedi cymryd arno ystyr newydd sbon yn Rhydaman. Na, nid y peth melys yna sy’n
cael ei roi rhwng bara menyn yw prif ystyr y gair bellach, ond enw ar glwb
Cristnogol i blant sydd newydd gael ei lansio. Mae J.A.M. yn sefyll am “Joio A
Moli” (neu yn Saesneg, “Jesus and Me”).
Yn dilyn misoedd o gynllunio a pharatoi
gan gynrychiolwyr o eglwysi Rhydaman a’r cylch lansiwyd y clwb, sy’n darparu ar gyfer plant blynyddoedd 3 - 6, gan Eirian
Wyn (“Rosfa”) ar Fedi 19eg, ac mae J.A.M. yn cyfarfod yn wythnosol yn ystod
tymhorau’r ysgol yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman. Nod y clwb yn syml iawn yw
cyflwyno neges efengyl yr Arglwydd Iesu mewn ffordd gyfoes a llawn hwyl.
Mae J.A.M. yn glwb cyfrwng Cymraeg ac mae’n cyfarfod
ar nos Iau o 5:30 – 6:30 y.h. Yr arweinydd yw Lisa Jones ac mae yna groeso
cynnes i blant yr ardal i fynychu’r clwb ac ymuno yn yr hwyl. Am fanylion
pellach gellir cysylltu รข Lisa ar 01269 820730 / liscymru@hotmail.com neu
Y Parchg. Emyr Gwyn Evans ar (01269) 831083 / emyrgwyn@btinternet.com