


Ar Sul hyfryd a heulog o Fedi daeth aelodau Gellimanwydd, Rhydaman a Moreia, Tycroes ynghyd i ddathlu 25 mlynedd y Parchg Dyfrig Rees yn y weinidogaeth.
Felly roedd Oedfa Foreol Sul 20 Medi 2009 yn un arbennig iawn yng Ngellimanwydd. Nid yn unig oedd ein ffrindiau o 'n chwaer eglwys Moreia Tycroes yn ymuno a ni ar gyfer oedfa ar y cyd ond hefyd roedd yn gyfle i'r ddwy eglwys ddiolch i'r Parchg Dyfrig Rees am 25 mlynedd o wasanaeth fel gweinidog yr Efengyl.
Cafodd Mr Rees ei ordeinio yn Llanbrynmair ac yna wedi sawl blwyddyn gadawodd mwynder Maldwyn am Gwm Gwendraeth, bro ei febyd, cyn dod atom ni i'r ofalaeth hon bron i ddeng mlynedd yn ol. Mae yn uchel iawn ei barch ym mysg yr aelodau a'i gydnabod, yn bregethwr huawdl a graenus ac yn fugail ffyddlon.
Ein gweinidog Y Parchg Dyfrig Rees oedd yn arwain y gwasanaeth. Drwy gyfrwng storiau, myfyrdodau, darlleniadau a fideos clywsom am am ran Cymorth Cristnogol yn cynnal fflam gobaith ar gyfer rhai o’r cymunedau tlotaf yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo – gwlad sy’n dod allan o dywyllwch gwrthdaro ac yn ymsefydlu mewn gobaith bregus. Drwy hanesion pobl ifanc yn Kinshasa, a thrwy eiriau’r ysgrythur, cawsom ein hysbrydoli drachefn, yn barod i roi cariad ar waith dros gymunedau tlawd yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol a thu hwnt.
"A dyma'r gorchymun sydd gennym oddi wrtho ef: bod i'r sawl sy'n caru Duw garu ei gydaelod hefyd". 1 Ioan 4:21