Sunday, September 27, 2009

DATHLU 25 MLYNEDD YN Y WEINIDOGAETH

Mr Norman Richards, Llywydd Pwyllgor yr Ofalaeth ynghyd a'r Parchg Dyfrig Rees a Mrs Mandy Rees a'u meibion, Rhodri a Rheinallt

Ar Sul hyfryd a heulog o Fedi daeth aelodau Gellimanwydd, Rhydaman a Moreia, Tycroes ynghyd i ddathlu 25 mlynedd y Parchg Dyfrig Rees yn y weinidogaeth.
Felly roedd Oedfa Foreol Sul 20 Medi 2009 yn un arbennig iawn yng Ngellimanwydd. Nid yn unig oedd ein ffrindiau o 'n chwaer eglwys Moreia Tycroes yn ymuno a ni ar gyfer oedfa ar y cyd ond hefyd roedd yn gyfle i'r ddwy eglwys ddiolch i'r Parchg Dyfrig Rees am 25 mlynedd o wasanaeth fel gweinidog yr Efengyl.

Y peth anodda oedd cadw'r gyfrinach oddi wrth y Gweinidog. Tybiau e' mai gwasanaeth ar y cyd oedd hwn, fel y cawn o bryd i'w gilydd gyda phaned yn dilyn yr oedfa. Ond roedd chwiorydd Moreia a Gellimanwydd wedi trefnu lluniaeth ysgafn ac roedd Mrs Mandy Rees, gwraig y Gweinidog, wedi trefnu cacen arbennig ar gyfer yr achlysur.
Braf oedd gweld y capel yn llawn ar gyfer yr achlysur. Cawsom oedfa fendthiol gan ein Gweinidog.
Wedi'r oedfa aethom i gyd i'r Neuadd ble roedd gwledd yn ein haros. Cafodd y bwyd ei weini gan chwiorydd Moreia a Gellimanwydd.

Cyflwynodd Mr Norman Richards, Llywydd yr Ofalaeth, rodd ar ran y ddwy eglwys i'n Gweinidog fel arwydd o'n gwerthfawrogiad o'r gwasanaeth mae'r Parchg Dyfrig Rees wedi ei roi i'r weinidogaeth a'r holl mae'n ei wneud i ni yng Ngellimanwydd a Moreia.
Yna aeth Mr Rees a'i wraig Mrs Mandy Rees i'r blaen ar gyfer torri'r gacen hyfryd.

Cafodd Mr Rees ei ordeinio yn Llanbrynmair ac yna wedi sawl blwyddyn gadawodd mwynder Maldwyn am Gwm Gwendraeth, bro ei febyd, cyn dod atom ni i'r ofalaeth hon bron i ddeng mlynedd yn ol. Mae yn uchel iawn ei barch ym mysg yr aelodau a'i gydnabod, yn bregethwr huawdl a graenus ac yn fugail ffyddlon.


Dymunwn yn dda iddo a'i deulu, a gweddiwn y caiff flynyddoedd lawer o iechyd a nerth i wasanaethu'r Arglwydd a pleser arbennig oedd i bawb oedd yn bresennol gael ymuno yn y dathliadau.

No comments: