Thursday, April 26, 2007

Drama a Noson Lawen

I gloi Tymor y Gymdeithas eleni cawsom noson lawen a drama. Roedd y noson yng ngofal dwylo medrus Ruth Bevan, un o'n diaconiaid. Yn wir roedd tri o'r diaconiaid, sef Ruth Bevan, Brian Sheldon Thomas ac Edwyn Williams yn actio yn y ddrama, gyda Ivoreen Williams yn ymuno a nhw. Hanci Panci oedd enw'r ddrama, ac fel mae'r enw yn awgrymu ffars llwyr oedd hon, a'r gynulleidfa yn rowlio chwerthin trwyddi. Braf oedd gweld y Neuadd yn llawn. Roedd y Neuadd yn edrych ar ei gorau wedi ei phaentio a gyda llenni newydd ar y ffenestri. Bydd elw'r noson yn mynd tuag at gostau'r llenni. Wedi'r ddrama cawsom Noson Lawen. Unwaith eto brethyn cartref oedd gennym gyda aelodau'r capel yn cymryd rhan - sef y Côr Dynion, Côr Merched, Deuawd gan Harry Thomas ac Eric Lloyd, ac adroddiad gan Hanna Williams. Hyn oll yn cael ei lywio gan ein harweinydd medrus - Ruth Bevan.
I gloi'r Noson cawsom yr eitem "Ecstafagansa". Roedd y Frenhines yn bresennol, a'r Dug Caeredin i weld Tom Jones, Jac a Wil, Y Bolshoi Ballet, a Shirley Bassey mewn "Royal Gala Performance". Roedd pawb yn morio chwerthin ac wedi llwyr fwynhau.
Diolch i bawb a gymerodd rhan, yn enwedig Gloria Lloyd wrth y piano, ond yn bennaf i Ruth Bevan am drefnu'r holl weithgareddau.
Rydym yn edrych ymlaen yn barod am y flwyddyn nesaf.





Tuesday, April 17, 2007

Ysgol Sul Gellimanwydd


DYDDIADAU I'W NODI


Bydd Ysgol Sul Gellimanwydd yn brysur iawn y tymor nesaf. Yn ogystal a'n Ysgol Sul arferol bob bore Sul am 10.30 -11.30 mae nifer o weithgareddau wedi eu trefnu. Dyma rhai dyddiadau i'w nodi

EBRILL 21
Ymarfer ar gyfer Gwasanaeth Bore Sul (Mai 27) Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir gaerfyrddin yn yr Ardd Fotaneg, Llanarthne, 2.00 y prynhawn hyd 5.00.

MAI 5
Ymarfer arall yn y Gerddi Botaneg 2.00 hyd 5.00

MAI 27
Gwasanaeth Plant/ieuenctid ym Mhafiliwn yr Eisteddfod ar Faes y Sioe Amaethyddol yng Nghaerfyrddin am 11.00 y bore

MEHEFIN 23
Y TRIP BLYNYDDOL - i Ddinbych y Pysgod

MEHEFIN 24
Cwrdd Teuluol yn Oedfa'r Bore

MEHEFIN 29
Mabolgampau Ysgolion Sul yn Ysgol Dyffryn Aman - 6.00 - 8.00 yr hwyr. Barbeciw i ddilyn yng Ngellimanwydd

GORFFENNAF 15
Ysgol Sul yn cau dros yr haf

MEDI 9
Ysgol Sul yn ail ddechrau

Sunday, April 08, 2007

SUL Y PASG

"O'r ymdrech fawr ar Galfari,
Dywysog Bywyd, daethost ti,
gan ymdaith mewn anfarwol fri:
Halelwia!"
Elfed

Yn Oedfa foreol Sul Y Pasg esboniodd Y Parchg Dyfrig Rees, ein Gweinidog, mai "Yr Atgyfodegig Un yw'r Croeshoeliedig Un", a'i bod yn amhosib meddwl am yr Atgyfodiad heb gofio am ddioddefaint y Groes.

Darllenwyd rhannau allan o Efengyl Ioan gan Rachel Smith a Rhodri Rees.

Cawsom ein harwain at Fwrdd y Cymun gan ein Gweinidog, ac yna daeth pawb ymlaen i'r sedd fawr i gymryd y bara a'r gwin.
Yn oedfa'r hwyr esboniwyd mai Gwyl Y Pasg sy'n rhoi'r grym a'r pwer i bob gwyl arall. Testun Pregeth ein Gweinidog, Y Parchg Dyfrig Rees oedd Ioan 11, marwolaeth Lasarus. Cawsom ein hatgoffa o eiriau Iesu:-
.
"Myfi yw'r atgyfodiad a'r bywyd. Pwy bynnag sy'n credu ynof fi, er iddo farw, fe fydd byw; .."
Ioan 11:25


Sunday, April 01, 2007

Gymanfa Sul Y Blodau


Ar ddydd Sul 1af Ebrill, 2007 cynhaliwyd Cymanfa ganu Undebol, eglwysi Rhydaman a'r Cylch, yng Ngellimanwydd. Arweinydd eleni oedd Mrs Delyth Hopkin-Evans o Bontrhydygroes, a Mrs Gloria Lloyd oedd yn cyfeilio yn ddeheuig wrth yr organ. Mae Mrs Delyth Hopkin Evans yn enillydd y Ruban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol a'i phriod waith yn awr yw hyfforddi plant ardal Ceredigion i ganu.

Hanna Wyn Williams a Nia Mair Jeffers, gymerodd at y rhannau agoriadol yn oedfa'r bore. Mae'r ddwy yn ddisgyblion brwd o Ysgol Sul Gellimanwydd. Hefyd cawsom eitem gan blant Ysgol Sul yr ardal yn ystod yr oedfa. Ivoreen Williams oedd yn llywyddu yn y bore a'n Gweinidog, Y Parchg Dyfrig Rees yn yr hwyr.
Cafodd Delyth Hopkin Evans y gorau o'r cynulleidfaoedd yn y bore a'r hwyr gyda'i ffordd diymhongar ac agos atoch. Roedd yn wir fendithiol fod yn bresennol yn yr oedfaon yn moli Duw drwy ganu Emynau Rhaglen Cymanfaoedd Canu 2006-2007.
"Clywch y nodau llawen
clywch y lleisiau byw
megis cor o glychau'n
seinio mawl i Dduw."
Gwilym Herber Williams, Pantycrwys