Ar nos Iau 28 Ionawr daeth Adran Ieuenctid Seindorf Arian
Rhydaman i Gymdeithas Gellimanwydd i roi Cyngerdd i ni. Cawsom wledd o adloniant dan
arweiniad medrus Mr Glyn Jones, Arweinydd y band. Hyfryd oedd gweld ein talentau lleol yn cael eu meithrin ac mae nifer ohonynt yn datblygu a symud i fod yn aelodau o’r band llawn. Diolch i holl aelodau’r band am noson arbennig.
Yn ystod y noson cawsom
amrywiaeth o gerddoriaeth gan gynnwys unawd
“Danny Boy” ar y cornet gan Dylan Savage, sy’n ddisgybl yn Ysgol Gynradd
Llandybie ac unawd “James Bond” gan Carys Williams ar y Tenor Horn. Mae Carys
hefyd yn mynd i Ysgol Llandybie.
Wedi'r Cyngerdd cawsom gwpanaid o de a bisgedi a chyfle i gymdeithasu. Roedd yn wir
bleser cael bod yn y gynulleidfa.