Cawsom oedfa hyfryd yng nghwmi'r plant, pob un wedi dysgu eu gwaith yn drylwyr. Thema'r oedfa oedd rhannu, adroddwyd hanes y Deg gwahanglwyf a porthi'r pum mil. Hefyd yn ystod yr oedfa cawsom lefaru i gyfeiliant, darlleniadau, gweddiau, canu emynau, llefaru unigol, dwy eitem gan barti'r plant a sgets. Diolch i Ruth Bevan am drefnu'r oedfa. Wedi'r oedfa, fel sy'n arferol bellach, aethom i'r Neuadd am gwpaned o de.
Tro'r oedolion oedd hi yn Oedfa'r Nos. Daeth Dilys a Graham i ddarllen a rhoi gweddi. Roedd tri parti yn canu, sef parti dynion, parti merched a chôr cymysg. Unwaith eto mae'n diolch yn fawr i Mrs Gloria Lloyd am baratoi'r partion a Cyril Wilkins am gyfeilio. Cawsom anerchiad gan ein Gweinidog Y Parchg Dyfrig Rees am ein cyfrifoldeb ni i amddiffyn ein byd rhag lygredd a chynhesu byd eang er mwyn sicrhau bod pawb yn cael y fraint o rannu yn ei gyfoeth.
"Hwn yw'r dydd a wnaeth ein Duw, dewch, gorfoleddwn yn ei enw ef!" (Arfon Jones - emyn 52 Caneuon Ffydd)