Tuesday, August 25, 2009

Menter Ieuenctid Cristnogol (Sir Gâr)

Mae Menter newydd sy’n darparu ar gyfer plant ac ieuenctid wedi eu sefydlu gan eglwysi anghydffurfiol sir Gaerfyrddin. O fis Medi ymlaen bydd Menter Ieuenctid Cristnogol (M.I.C.) yn trefnu gweithgareddau ac yn darparu adnoddau a chefnogaeth i eglwysi yn eu cenhadaeth ymhlith plant a phobl ifanc. Y person sydd wedi ei benodi i arwain y gwaith yw Mr Nigel Davies.

Bu Nigel yn Bennaeth Adran Addysg Grefyddol ym Mhorth Tywyn am 5 mlynedd cyn iddo symud i weithio gyda Chyngor Ysgolion Sul Cymru, a chofiwn ei waith arbennig yno am 17 mlynedd. Am y tair blynedd diwethaf bu’n swyddog plant/ieuenctid gyda Menter Cydenwadol Gogledd Myrddin. Bu’n fawr ei barch gyda’r Fenter ac mae wedi ymdrechu, gyda llwyddiant clodwiw, i godi proffil yr Ysgol Sul, ac wedi llafurio yn ddi-baid i rannu’r Newyddion Da mewn amrywiol ffyrdd ymhlith plant ac ieuenctid. Y mae rhestr yr hyn a gyflawnwyd yn rhy fawr i`w cynnwys yma ond wrth i’r gwaith ymestyn ar draws sir Gaerfyrddin bydd cyfle i bob eglwys ac enwad elwa o’r hyn fydd gan M.I.C. i’w gynnig.

Prif nod M.I.C. bydd hybu gwaith a thystiolaeth yr efengyl ymhlith plant ac ieuenctid y sir a hynny mewn ffyrdd cyfoes a pherthnasol ar gyfer ein hoes. Bydd amrywiaeth o weithgareddau llawn hwyl a chyffro yn cael eu trefnu gan gynnwys digwyddiadau cymdeithasol fel cystadlaethau pêl droed, pêl rwyd a mabolgampau yn ogystal â digwyddiadau fel Bwrlwm Bro, gwersylloedd ac oedfaon cyfoes fydd yn cymell yr ifanc i ystyried galwad Duw ar eu bywyd. Bydd y Fenter yn ymdrechu i gyfleu i’r ifanc y gred bod Cristnogaeth yn ymwneud a phob agwedd o fywyd ac nid yn unig mynychu oedfaon ar y Sul.
Mae gwahoddiad agored i gapel / eglwys o unrhyw enwad o fewn sir Gaerfyrddin i berthyn i’r Fenter. Bydd yr eglwysi hynny sy’n cofrestru yn cael gwybodaeth gyson am bob digwyddiad fydd yn cael ei drefnu a byddant yn medru elwa o gefnogaeth bersonol yn eu sefyllfa leol. Mewn amgylchiadau ble mae yna eglwysi heb blant nac ieuenctid, mae gwahoddiad iddynt ymuno â M.I.C. fel aelodau cyswllt. Byddant yn derbyn Llythyr Newyddion / Gweddi tair gwaith y flwyddyn yn cynnwys lluniau a chrynodeb o’r hyn sydd wedi cymryd lle a manylion am ddigwyddiadau sydd i ddod gyda chyfle i weddïo dros y gweithgareddau hynny.

Mae pwyllgor llywio cydenwadol wedi ei ffurfio i gefnogi’r gwaith. Y cadeirydd yw Y Parchg Tom Defis (Cymorth Cristnogol) a’r ysgrifennydd yw Y Parchg Eurof Richards (Pont-henri). Mewn dyddiau pan fod Cristnogaeth ar drai yn ein gwlad a nifer yr ieuenctid sy’n mynychu capel ac eglwys yn brin, dyma gyfle delfrydol i eglwysi i ymateb i’r her sy’n eu hwynebu trwy fuddsoddi mewn cenhadaeth gartref. Mae M.I.C. yn bodoli er lles plant ac ieuenctid sir Gâr ac i gydweithio gyda’r eglwysi er mwyn i bobl ifanc yr oes hon gael y cyfle i glywed ac i ymateb i wahoddiad efengyl yr Arglwydd Iesu Grist.