Monday, December 29, 2008

GWASANAETH AR Y CYD

Bore Sul 28 Rhagfyr aethom fel cynulleidfa i ymuno a'n chwaer eglwys, Moreia, Tycroes. Cawsom oedfa ar y cyd ym Moreia. Elfryn Thomas, Ysgrifennydd Moreia oedd yn gyfrifol am y rhannau rhagarweiniol ac yna roedd yr oedfa yn un agored ble daeth nifer ohonom ymlaen i gyflwyno defosiwn mewn amryw ffurf a pharhau a'n dathliadau o'r Nadolig.
Cawsom gyfle i gyd addoli drwy ddarlleniadau, adroddiadau, canu emynau a gweddiau. Roedd yn wir fraint cael bod yn bresennol a derbyn bendith Duw ar ein addoli.
Wedi'r oedfa roedd aelodau Moreia wedi paratoi paned o de a danteithion i ni rannu yn y festri, a cawsom gyfle i gymdeithasu ymhlith ffrindiau.
Dim ond un seren oedd yn bwysig i mi.
Dim ond un seren yn fry uwch Bethlehem
Dim ond un seren a gyffrodd ei fyd.
Delwyn Sion

Tuesday, December 23, 2008

Parti Nadolig

Prynhawn dydd Llun 22 Rhagfyr 2008 cynhaliwyd parti nadolig Ysgol Sul Neuadd Gellimanwydd. Cafwyd amser bendigedig gan bawb oedd yno. I ddechrau cawsom gemau i'r plant gan gynnwys "musical chairs", gemau parasiwt, burstio balwns a nifer o rai eraill.

Yna daeth yn amser gwledda. Sglodion ac ati oedd ar y fwydlen gyda jeli coch a hufen ia i ddilyn a sudd oren neu cwpanaid o de a mins pei i orffen.

Wrth gwrs fe dalodd Sion Corn ymweliad a ni a rhoi anrheg i bob plentyn yr ysgol Sul.

Bydd yr Ysgol Sul yn ail ddechrau ar 11 Ionawr 2009. Croeso cynnes i bawb.


Sunday, December 21, 2008

GWASANAETH NADOLIG PLANT AC IEUENCTID

Cynhaliwyd Gwasanaeth Nadolig plant ac ieuenctid Ysgol Sul y Neuadd ar Nos Sul 21 Rhagfyr 2008. Roedd y capel yn llawn a hyfryd oedd gweld yr addurniadau, yn enwedig y canhwyllau ar y silffoedd.
"Ganwyd Crist" oedd teitl yr oedfa a cafodd ei pharatoi gan Miss Ruth Bevan, un o athrawon yr Ysgol Sul. Cawsom ein harwain gan Nia Rees. Roedd Manon Daniels yn darllen a Trystan Daniels yn rhoi emyn allan. Hanna Williams oedd yn ein harwain mewn gweddi. Draw yn ninas Dafydd Frenin oedd yr emyn gan Annie Jones.

Yna Nia Mair Jeffers oedd yn arwain a hynny drwy adrodd i gyfeiliant a cawsom ymson gwraig yn adrodd sut Nadolig yw hi heddiw gan Mari Llywelyn. Roedd Elan Daniels yn adrodd ymson gwraig y llety a Dafydd Llywelyn un y bugail. William Jones oedd llais y doethion a Rhys Jones llais Herod.
Yn dilyn hyn roedd golygfa ystafell Scrooge. Elan Daniels, Mari Llywelyn a Sara Mai Davies oedd y cyflwynwyr. Harri Jones oedd y cybydd Scrooge. Daeth Dafydd a Rhys i ganu carolau ond eu troi i ffwrdd gan Scrooge. Sara Mai Davies oedd llais Ysbryd y Nadolig a’r plant bach yn adrodd oedd Macey Haf a Catrin Haf.
Rhoddwyd diolch a neges amserol i’r plant gan ein Gweinidog Y Parchg Dyfrig Rees.

Cyn canu’r garol olaf cawsom gyfle fel aelodau i fynegi ein diolch i Gloria Lloyd a Cyril Wilkins am eu gwasanaeth arbennig fel organnydd ac is-organnydd. Cyflwynodd Y Parchg Dyfrig Rees rodd fechan i’r ddau fel arwydd o’n gwerthfawrogiad. Mae Mrs Gloria Lloyd yn dathlu 25 mlynedd fel organydd Capel Gellimanwydd eleni, ac mae Mr Cyril Wilkins yn dathlu 35 mlynedd fel is-organydd.

Rhys Daniels oedd yn darllen y garol olaf. Wedi’r emyn cyflwynodd Y Parchg Dyfrig Rees y fendith ac aeth pawb allan yn llawen yn llawn gwir ysbryd y Nadolig.
Clywch lu'r nef yn seinio'n un,
henffych eni Ceidwad dyn!

Sunday, December 14, 2008

Organyddion yn dathlu


Mae Mrs Gloria Lloyd yn dathlu 25 mlynedd fel organydd Capel Gellimanwydd eleni, ac mae Mr Cyril Wilkins yn dathlu 35 mlynedd fel is-organydd.
Hoffai holl aelodau Gellimanwydd ddiolch i’r ddau ohonynt am yr holl wasanaeth maent wedi ei roi i ni fel eglwys.
Mae eu hymroddiad i’n holl weithgareddau yn enfawr, o’r gwasanethau wythnosol, y Suliau Diolchgarwch, a’r Nadolig pryd rydym yn aml yn cael mwy nag un côr yn canu, i’r cyrddau teuluol a’r Gymanfa undebol. Mawr yw ein diolch i’r ddau. Rydym yn hynod ffodus i gael dau mor dalentog a pharod eu cymwynas.
Testun dathlu yn wir.

Saturday, December 06, 2008

APEL UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMRAEG

Bydd Delyth Evans o Dŷ John Penri yn dod i Drafod Apel yr Undeb eleni yng nghyfarfod nesaf y Gymdeithas ar 28 Ionawr.
Er i apartheid ddod i ben yn 1994 ac er bod De Affrica yn awr yn gyrchfan poblogaidd i dwristiaid, eto i gyd, mae’r wlad yn dal i wynebu problemau anferth. Mae mwy na phum miliwn o bobl (allan o boblogaeth o 47 miliwn) yn HIV positif ac ugain miliwn o bobl yn byw ar lai na £1 y dydd.

Mae ein hapêl, ar y cyd â Cymorth Cristnogol, yn cefnogi mudiadau partner lleol yn ne Affrica.

Y GYMDEITHAS


Ar nos Fercher 5 Tachwedd aeth llond bws aelodau a ffrindiau’r Gymdeithas i Theatr y Lyric, Caerfyddin i weld Pasiant Pobl y Ffordd, sef hanes yr eglwys fore. Pasiant gan Nan Lewis oedd hwn gyda tua 150 o aelodau a phlant capeli cylch Caerfyrddin (Cwmni Bröydd Tywi) yn perfformio.
Eisoes yn y Gymdeithas eleni rydym wedi cael Swper Diolchgarwch a Cwis Cymorth Cristnogol. Yn y flwyddyn newydd cawn gyfle i glywed hanes Apêl Undeb yr Annibynwyr, ddathlu Gwyl Dewi ac yna i gloi’r tymor cawn noson yng ngofal Ruth Bevan.

Saturday, November 01, 2008

CYMORTH CRISTNOGOL

Ar nos Wener 31 Hydref cynhaliwyd Cwis Cymorth Crsitnogol yn Neuadd Gellimanwydd. Roedd wyth tim yn cystadlu - Gellimanwydd, Capel Newydd a Bethany, Yr Eglwys yng Nghymru, dau o'r Gwynfryn, a tri o Noddfa Garnswllt.
Edwyn Williams oedd y cwis feistr ac wedi 6 rownd yn cynnwys lluniau o ardaloedd yng Nghymru, anifeiliaid, logos elusennau, rownd am hanes Cymorth Cristnogol Cymru, newyddion a rownd gerddorol Tim Noddfa C oedd yn fuddugol. Llongyfarchiadau iddynt ar eu llwyddiant.
Wedi'r cwis cawsom gyfle i gymdeithasu drwy rannu cwpanaid a chloc. Hefyd roedd stondinau cardiau Nadolig a Nwyddau Trade Craft ar werth.
Roedd y noson yn lwyddiant arbennig ble cawsom gyfle i gefnogi Cymorth Cristnogol a chymdeithasu yr un pryd.

Saturday, October 25, 2008

CLWB HWYL HWYR






Mae Clwb Hwyl hwyr yn mynd o nerth i nerth, ac mae nifer o aelodau Gellimanwydd yn cymryd rhan blaenllaw. Mae ein gweinidog Y Parchg Dyfrig Rees, Catrin Llywelyn, Graham Daniels ac Edwyn Williams yn arweinyddion ac mae nifer o'n bobl ifanc sef, Trystan Daniels, Manon Daniels, Rhys Daniels, Nia Mair Jeffers a Hanna Williams yn cynorthwyo.
Nos Wener 24 Hydref daeth criw Clwb Hwyl Hwyr i Neuadd Gellimanwydd ar gyfer noson grefftau. Cawsom hwyl arbennig yn creu ci cardfwrdd, dafad yn nodi ei ben, tylluan allan o 4 calon a gemau papur.
Edwyn oedd yn gyfrifol am y noson gyda Hanna Wyn, a'r Parchg Emyr Wyn Evans yn ei gynorthwyo.
Ni fydd clwb wythnos nesa oherwydd hanner tymor ond edrychwn ymlaen i'r wythnos ganlynol i ail gydio yn yr hwyl a hynny trwy ddysgu am fywyd Iesu.

Monday, October 13, 2008

CWRDD DIOLCHGARWCH

Dydd Sul 12 Hydref 2008 oedd diwrnod ein cyrddau Diolchgarwch. Roedd y Capel yn edrych yn hyfryd wedi ei addurno gan yr aelodau gyda blodau, ffrwythau a llysiau.
Cwrdd diolchgarwch y plant oedd yn y bore a cawsom eitemau amrywiol ganddynt . Roedd y Gwasanaeth wedi ei lunio o amgylch y gair DIOLCHGARWCH. Cawsom ddisgrifiad o beth y dylwn ni fod yn ddiolchgar fesul llythyren yn y gair DIOLCHGARWCH.
Pleser a bendith oedd gweld pob plentyn yn cymryd at eu rhannau mor broffesiynol, rhai ohonynt am y tro cyntaf. Yn dilyn anerchiad gan ein gweinidog Y Parchg Dyfrig Rees wnaethom gydweddio'r Fendith.


Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw,
a chymdeithas yr Ybryd Glan fyddo gyda chwi oll. Amen
.
Gwasanaeth yr oedolion oedd yn y nos aceto cawsom gyfle i ddiolch i Dduw drwy gyfrwng darlleniadau, anerchiad a chan. Diolch i bawb am ddiwrnod arbennig yn cydaddoli a diolch i Dduw am ein holl freintiau.

Tuesday, September 23, 2008

JOIO GYDA IESU 2008


Ar brynhawn Sul Medi 21ain cynhaliwyd oedfa arbennig ar gyfer eglwysi Gogledd Myrddin yng Nghapel Newydd, Llandeilo. Galwyd yr oedfa yn “Joio Gyda Iesu” a dyma`r ail flwyddyn yn olynol i`r oedfa hon gael ei chynnal. Roedd ffurf a threfn yr oedfa dipyn yn wahanol i`r arfer gyda`r pwyslais ar ddathlu`r ffydd Gristnogol mewn llawenydd, tra`n dyrchafu enw Iesu Grist fel ffrind a Gwaredwr. Mewn geiriau eraill, cyflwyno`r hen, hen hanes mewn dull cyfoes a pherthnasol ar gyfer ein dydd ni.

Croesawyd y dyrfa niferus o tua 350 ynghyd gan gadeirydd Menter Cydenwadol Gogledd Myrddin, Mr Mel Morgans, ac agorodd mewn gair o weddi. Dilynwyd hyn gyda rhai o blant Ysgol Sul Capel Newydd, Llandeilo yn cyflwyno emyn a darlleniad cyfoes yn seiliedig ar Salm 103.

Prif westai`r dydd oedd Martyn Geraint (S4C) ac fe wnaeth ddechrau trwy ddiddanu`r plant (a`r oedolion!) yn ei ffordd arbennig ei hun trwy chwarae “Family Fortunes” gyda chylchoedd trafod yn mynd o sedd i sedd. Dilynwyd hyn gan ganu swynol côr Ysgol Gymraeg Teilo Sant, Llandeilo cyn i Martyn ei hun ganu mawl i`r Arglwydd gyda rhai o`i gyfansoddiadau personol.

Gwestai arall fu`n cymryd rhan oedd Menna Machreth Jones o Landdarog sydd ar hyn o bryd yn gwneud ei hymchwil ym Mangor. Bu Menna yn rhannu gyda`r gynulleidfa ei phrofiad o ddod i adnabod Iesu Grist fel ffrind a Gwaredwr personol cyn i Martyn rannu am ei ffydd yntau. Wrth iddo ymateb i gwestiynau a holwyd iddo gan Y Parch Geraint Morse (Caerfyrddin) amlygwyd ei ffydd ddofn yng Nghrist sy`n cael ei adlewyrchu yn ei fywyd a`i wasanaeth ffyddlon yn ei gapel ym Mhontypridd. Er gwaethaf ei fywyd prysur yn perfformio o gwmpas Cymru, ymateb i alwadau`r cyfryngau, ei wasanaeth yn yr eglwys leol, heb son am alwadau teuluol, mynegodd Martyn am y ffordd y mae bob dydd yn rhoi amser o`r neilltu i dreulio gyda`r Arglwydd mewn gweddi a myfyrdod o`i Air.

Roedd yr oedfa arbennig hon ar gyfer y teulu cyfan ac fel mae`r teitl yn awgrymu fe wnaeth pawb oedd yn bresennol “joio gyda Iesu.” Cyflwynwyd y fendith gan Y Parch Emyr Gwyn Evans (Tymbl), ysgrifennydd y Fenter. Y gobaith yw gweld yr oedfa hon yn parhau i gael ei chynnal yn flynyddol ar ddechrau`r tymor fel hwb a sbardun i waith a thystiolaeth Ysgolion Sul y cylch.

Saturday, September 13, 2008

LANSIO CLWB HWYL HWYR


Nos Wener, 12 Medi oedd noson lansiad Clwb Hwyl Hwyr yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman. Braf oedd gweld cymaint o blant a rhieni yn bresennol. Cawsom gwmni Rosfa y consuriwr, sef y Parchg Eirian Wyn. Roedd Rosfa ar ei orau yn dangos i'r plant mawr a bach wahanol driciau hud a lledrith, ac yn ogystal roedd yn defnyddio nifer o'r plant i'w gynorthwyo. Roedd angen gair hud arbennig i wneud i'r "magic" weithio -Y gair hud oedd inky winki Pww!

Diolch i bawb am wneud y noson yn llwyddiant ysgubol.

Clwb Cristnogol llawn hwyl ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 i 6 yw Clwb Hwyl Hwyr, sydd wedi ei drefnu gan Gapeli tref Rhydaman dan arweiniad Menter Cydenwadol Gogledd Myrddin.

Rydym yn cyfarfod yn wythnosol ar Nos Wener yn ystod tymhorau’r ysgol yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman rhwng 5.30 a 6.30pm. Yn ystod y cyfnod hwn mae’r plant yn cael cyfle i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys gemau, stori, crefft, cystadlaethau ayyb. ’Does dim tâl aelodaeth, ond gwneir casgliad wythnosol – awgrymir 50c. – tuag at gronfa’r ClwbMae gennym dîm o wirfoddolwyr ymroddedig a phrofiadol yn gofalu am y plant ac mae yna groeso cynnes i bawb ymuno â ni. Mewn cyfnod sy’n llawn o beryglon ac atyniadau amheus, dyma gyfle gwych i blant gyfarfod â’i gilydd, a mwynhau hwyl a sbri mewn awyrgylch ddiogel a Christnogol.

Wednesday, September 03, 2008

Lansio CLWB HWYL HWYR




Dewch i'r lansiad nos Wener 12 Medi yn Neuadd Gellimanwydd.

Croeso cynnes i bawb


Friday, July 18, 2008

Mabolgampau Dan Do

Prin bydd y mabolgampau Olympaidd yn Beijing yn dod a mwy o hwyl a chyffro na chafwyd yn Rhydaman yn ddiweddar wrth i Ysgolion Sul dalgylch Gogledd Myrddin ddod ynghyd ar gyfer y noson mabolgampau blynyddol. Trefnwyd amrywiaeth eang o gystadlaethau a hynny ar gyfer pob oed o`r meithrin i fyny at ieuenctid 16 oed. Cafwyd cystadlu brwd yn y rhedeg a`r gweithgareddau maes a diweddwyd y nos ar nodyn cyffrous gyda`r cystadlaethau tynnu rhaff.

Cafwyd ymateb ardderchog gyda 16 o Ysgolion Sul yn cofrestru ac ymhell dros 100 yn cystadlu a thyrfa niferus iawn yn cefnogi. Gwych o beth oedd gweld y cyffro a`r llawenydd ar wynebau`r plant a`r cefnogwyr wrth i aelodau ifanc yr Ysgol Sul ymdrechu mewn un gamp ar ôl y llall. Gwobrwywyd y tri cyntaf ym mhob cystadleuaeth gyda medalau aur, arian neu efydd.

Mewn dyddiau pan mai ond lleiafrif bychan o`n cymdeithas sy`n mynychu Ysgol Sul neu glwb Cristnogol mor bwysig yw gweithgareddau o`r math hwn sy`n codi proffil gwaith yr eglwys ac sy`n dangos i`r to ifanc bod y ffydd Gristnogol yn ymestyn i bob agwedd o fywyd ac nid yn unig i oedfaon ar y Sul.

Mae`r diolch am lwyddiant y noson yn ddyledus i raddau helaeth iawn i`r tîm o wirfoddolwyr bu`n llafurio`n ddyfal iawn yn gweinyddu`r cystadlaethau, ac yn cofnodi`r canlyniadau.

[Diolch i Nigel Davies Cydlynydd Menter Cydenwadol Gogledd Myrddin.]

Wednesday, July 02, 2008

BWRLWM BRO

Yn ystod yr wythnosau diwethaf cynhaliwyd chwe sesiwn Bwrlwm Bro ar draws dalgylch Gogledd Myrddin. Trefnwyd sesiynau yn Llandeilo, Pontargothi, Llangadog, Rhydaman, Tymbl a Llanymddyfri. Prif bwrpas y sesiynau hyn oedd calonogi a sbarduno gwaith yr Ysgolion Sul trwy roi cyfle llawn hwyl i blant ddysgu a chymdeithasu yng nghwmni ei gilydd. Bu`r fenter yn llwyddiant ysgubol wrth i Ysgolion Sul y gwahanol ardaloedd ymuno fel un teulu dedwydd mewn dathliad o`r ffydd Gristnogol.

Arweiniwyd sesiynau Bwrlwm Bro gan Nigel Davies, Swyddog Plant ac Ieuenctid Menter Cydenwadol Gogledd Myrddin. Y thema ganolog oedd y berthynas glos sy`n bodoli rhwng bugail a defaid. Cyflwynwyd yr hanesion am y ddafad a aeth ar goll ac am y bugail da a roddodd ei fywyd dros y defaid gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau cyfathrebu gan gynnwys PowerPoint, gemau, dvd a chwis. Heriwyd y plant i ymddiried eu gofal yn llwyr yn Iesu y bugail da, yr hwn a ddaeth i geisio ac i gadw'r rhai sydd ar goll.

Pan ddaeth yn amser i ymadael roedd yn amlwg wrth wynebau llawen y plant eu bod wedi mwynhau`n fawr y profiad o gael uno gyda`i gilydd – o gefn gwlad ac o`r dref, yn grwpiau bach ac yn rai mwy niferus – mewn dathliad o`r ffydd. Bu`r trefniant yn Fwrlwm Bro go iawn.

Monday, June 30, 2008

Lluniau Trip yr Ysgol Sul

Rhagor o luniau









Sunday, June 29, 2008

Trip yr Ysgol Sul

Dydd Sadwrn 28 Mehefin aeth llond bws o aelodau a ffrindiau i Ddinbych y Pysgod. Roedd y tywydd yn ffafriol yn y bore ac erbyn y prynhawn roedd yr haul yn tywynu’n braf. Aeth y bobl ifanc yn syth am y traeth ar ôl cyrraedd. Aeth nifer am gwpanaid o de ac hyd yn oed “bacon roll” cyn mynd am y tywod.
Hyfryd oedd cael eistedd mewn cylch mawr o “ddeck chairs” ar y traeth, chwarae gemau rownderi a criced, a rhannu sgwrs melys gyda chyfeillion. Manteisiodd nifer ar y cyfle i fynd o amgylch y siopau, eraill i gael cinio o bysgod a sglodion, tra arhosodd nifer ar y traeth trwy’r dydd.


Eisteddem ar y tywod twym
Yn yfed y glesni,
Bryan Martyn Davies

Sunday, June 22, 2008

Trip Drws Agored

Mae cymdeithas Drws Agored yn parhau i fynd o nerth i nerth. Mae cyfeillion yn dod i Neuadd Gellimanwydd bob dydd Iau ar gyfer paned, sgwrs a myfyrdod. Mae llawer yn edrych ymlaen at y cyfle i ddod i gymdeithasu.
I orffen tymor eleni aeth nifer ar y trip i Sir Benfro. Roedd y daith yn cynnwys ymweld a Clunderwen, Efail Wen ac yna i Llandudoch.
Yn Llandudoch gwelwyd olion yr Abaty ac Eglwys Blwyfol St Thomas. Cafodd yr Abaty ei sefydlu tua 1115 ar gyfer Priordy a 12 mynach o'r drefn Tiron ond mae'r olion ar y safle yn mynd yn ol i'r 6ed ganrif.
Mae tri charreg hynafol yn cael eu harddangos yn yr eglwys. Yr un mwyaf enwog, a'r cynharaf o ran oedran yw'r -Sagranus stone, gyda'r ysgrif mewn hen ysgrif ogam: SAGRAGNI MAQI CUNATAMI, ac mewn Lladin: SAGRANI FILI/CVNOTAMI, sy'n golygu - Carreg Sagranus, mab Cunotamus. Mae'r garreg hon yn deillio or 5ed neu yn gynnar yn y 6ed ganrif.

Sunday, June 08, 2008

Cyfarfodydd Pregethu

Ar dydd Sul 8 Mehefin, 2008 daeth y Parchedig Hywel Wyn Richards, Penybont ar ogwr atom ar gyfer ein oedfaon pregethu. Roedd y Parchg Hywel Wyn Richards yn weinidog yn ardal Dolgellau am dros 25 mlynedd cyn iddo symud i fod yn weinidog ar eglwys y Tabernacl, Pen-y-bont yn 2004. Ef hefyd yw golygydd Y Tyst, ein papur enwadol.
Yn ystod oedfa'r bore gofynnodd Y Parchg Richards ychydig o bosau i'r plant: -
Beth sydd gan wyneb ond dim pen?
Beth sydd gan ben ond dim wyneb?
Beth sydd gan geg ond dim tafod?
Beth sydd gan dafod ond dim ceg?
Beth sy'n mynd yn wlyb wrth sychu?
Beth sy'n llawn tyllau ond yn dal dwr?
ac yna y cwestiwn pwysicaf - beth sydd yn mynd yn fwy wrth i chi ei rannu?

Yr ateb i'r cwestiwn olaf yw CARIAD, ac esboniodd Y Parchg Richards i'r plant bwysicrwydd a gwerth cariad Duw a bod angen i ni ei rannu a phawb.

atebion y cwestiynau eraill yw - cloc, pin, afon, esgid, towel, bwng



Clwb Hwyl Hwyr


Mae Eglwysi Cymraeg Rhydaman wedi dod at ein gilydd i sefydlu Clwb Ieuenctid Cristnogol ar gyfer plant yr ardal.

Bydd y clwb yn cyfarfod ar nos Wener o 5 -6 yn Neuadd Gellimanwydd. Clwb ar gyfer plant oed. Yn ystod y cyfarfod bydd y plant yn cael cyfle i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys storiau, crefft, cystadleuthau ayyb.

Mae tim o wirfoddolwyr ymroddedig a phrofiadol (sydd wedi eu gwirio gan y CRB) yn gofalu am y plant ac mae yna groeso cynnes i unrhyw blentyn blwyddyn 3 - 6 ymuno a ni.

Dyma gyfle gwych i blant gyfarfod a'i gilydd, a mwynhau hwyl a sbri drwy gyfrwng y Gymraeg mewn awyrgylch ddiogel a Christnogol

Bydd y clwb yn cael ei lansio yn swyddogol ym Mis Medi.

Sunday, May 18, 2008

Bedyddio Efeilliaid



Braint ac anhrydedd oedd cael bod yn bresennol yn yr oedfa deuluol, bore Sul Mai 18, oherwydd yn ystod yr oedfa cafodd Marged ac Elen Thomas eu bedyddio gan ein Gweinidog y Parchg Dyfrig Rees.

Efeilliad Arwyn ac Heledd Thomas yw Marged ac Elen. Maent yn wyresau i Harry a Wendy Thomas, Cymer House, a Bethan ac Elfryn Thomas, Lleifior, Tycroes. Mae Harry yn un o'n diaconiaid yn Gellimanwydd a Bethan yw ein Hysgrifenyddes.

Roedd y tywydd yn braf a'r ddwy fach yn edrych yn hyfryd yn eu gwisgoedd a dymunwn, fel eglwys, pob llwyddiant ac hapusrwydd i Marged ac Elen i'r dyfodol.

"A phwy bynnag sy'n derbyn un plentyn fel hwn yn fy enw i, y mae'n fy nerbyn i." Mathew 18:5

NEGES EWYLLYS DA 2008

Cawsom wasanaeth teuluol arbennig bore Sul 18 Mai. A hithau yn Sul y Pentecost,Neges Ewyllys Da oedd thema'r gwasanaeth. Cawsom glywed neges ewyllys da yr Urdd eleni mewn tair iaith, Cymraeg, Saesneg ac Almaeneg. Hefyd chwaraewyd can newydd sbon sydd wedi ei hysgrifennu gan Caryl Parry Jones a'i chanu gan ei merch Miriam Isaac- Gwres dy Galon.
Cynhesu Byd eang a'i heffaith ar bobl tlawd y byd yw prif thema'r neges eleni ac mae angen i ni i gyd sylweddoli bod ein gweithrdoedd ni yn cael effaith andwyol enfawr ar bobl tlawd y byd.
A hithau yn agos at Wythnos Cymorth Cristnogol roedd y gwasanaeth yn amserol iawn. Thema'r wythnos eleni yw dangos y gwaith mae Cymorth Cristnogol yn ei wneud yn cynorthwyo pobl i baratoi ar gyfer y gwaethaf o ran yr hinsawdd. Ni allwn stopio corwynt neu llifogydd enfawr ond gallwn arbed bywydau drwy ariannu adeiladu cartrefi cryfach a gosod offer rhybydd cynnar rhag tsunami a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau miliynau o bobl ar draws y byd.
Wedi'r oedfa cawsom gyfle i fwynhau cwmni ein gilydd drwy rannu cwpanaid o de yn y neuadd. Unwaith eto diolch i'r plant am eu gwaith graenus yn ystod yr oedfa, a diolch i Guto llywelyn am baratoi'r gwasanaeth.
A bydd gwres dy galon
Yn twymo bob enaid ym mhedwar ban byd,
Toddi'r holl ofalon
I ail-droi ein daear yn hafan i ti ac i mi.
Caryl Parry Jones

Wednesday, April 09, 2008

CHWARAEON MENTER CYDENWADOL GOGLEDD MYRDDIN


Yn ystod gwyliau’r Pasg yn Rhydaman cynhaliwyd cystadlaethau chwaraeon ar gyfer Ysgolion Sul a chlybiau Cristnogol Gogledd Myrddin. Cofrestrwyd 21 o dimoedd a daeth tyrfa niferus ynghyd i gefnogi’r plant a’r ieuenctid. Cafwyd hwyl fawr gyda’r cystadlu ac roedd Canolfan Hamdden Rhydaman yn llawn cyffro trwy gydol y dydd.
Rhannwyd y timoedd mewn grwpiau gan sicrhau bod pob tîm yn cael chwarae o leiaf dwy gêm yr un.

Llongyfarchiadau mawr i bawb oedd yn cystadlu a chyfrannu tuag at ddiwrnod llwyddiannus iawn i Ysgolion Sul y dalgylch. Bydd y gweithgareddau nesaf a drefnir gan y Fenter yn cynnwys “Bwrlwm Bro” yn Neuadd Gellimanwydd (dyddiad i’w gadarnhau) a Noson Mabolgampau a Thynnu Rhaff ar nos Wener Gorffennaf 11eg yng Nghanolfan Hamdden Rhydaman.

Sunday, March 16, 2008

CYMANFA GANU


Dydd Sul y Blodau, Mawrth 16 2008 cynhaliwyd ein Cymanfa Ganu Undebol yng Nghapel Bethani, Rhydaman.
Eleni roedd capeli Gellimanwydd, Y Gwynfryn, Moreia a Seion, Capel Newydd, Bethani a Gosen yn ymuno yn y Gymanfa.
Capel newydd oedd yn llywyddu yn y bore a'r Gwynfryn yn y nos.
Arweinydd eleni oedd Mr Trystan Lewis o Deganwy, gyda Mrs Gloria Lloyd yn cyfeilio mor ddeheuig ag erioed. Roedd natur gyfeillgar Mr Lewis yn sicrhau'r gorau yn yr oedfa foreol, sef Gymanfa'r Plant. Braf oedd gweld a chywed y plant yn oedfa'r bore yn darllen a chanu'r emynau. Roedd pob un wedi dysgu eu gwaith yn drylwyr. Cawsom eitem ar y cyd gan y plant ac yna cyhoeddodd ein gweinidog Y Parchg Dyfrig Rees y fendith.
Tro'r oedolion oedd hi am 6.00 yr hwyr a braf gweld cymaint yn bresennol yn cael cymaint o fendith yn y canu a'r addoli. Yng eiriau un o emynau'r gymanfa:-

Mae'n rhaid i mi ganu
hyd o hyd,
can's tegwch yr Iesu
a aeth a'm bryd.
T. Hughes






Sunday, March 02, 2008

GWASANAETH GWYL DEWI



Bore Dydd Sul 2 Mawrth cawsom Oedfa Deuluol i ddathlu dydd Gwyl Dewi Sant. Drwy gyfrwng emynau o Adran y Plant yn rhaglen y Gymanfa, adroddiad, darlleniadau ac eitemau cawsom ein hatgoffa o waith Dewi Sant. Hefyd cawsom hanes Dewi yn Llanddewi Brefi ac un o negesueuon mwyaf Dewi sef "Gwnewch y pethau bychain".
Dewr a doeth ydoedd Dewi
Ei ddwylo yn iacháu
Gwnaeth ef y pethau bychain
Daioni r’oedd e’n hau
(Felly) Dathlwch y dydd i ‘Dewi’
Arwr y Cymry i gyd
Heidiwch i’r cwch fel gwenyn
Ble bynnag yn y byd


© Geriau - Gwenno Dafydd




Saturday, March 01, 2008

CALENDR Y SULIAU 2009

TREFN CYFARFODYDD Y SUL
Y Bore am 10.30: Gwasanaeth Addoli
Y Bore am 11.00 tan 11.45: Ysgol Sul y Plant
Yr Hwyr am 5.30: Gwasanaeth Addoli
Gwasanaeth y Cymundeb: Bore Sul cyntaf bob mis ac yn yr hwyr ambell fis.
.
CALENDR Y SULIAU 2008.
.
IONAWR 2009
4 - Y Gweinidog. Cymun yn oedfa'r bore
11 - Y Parchg Llewelyn Jones. B.A., B.D., Y Betws
18 - Y Gweinidog
25 - Y Gweinidog
.
CHWEFROR
1- Y Gweinidog. Cymun yn oedfa'r bore
8 - Y Gweinidog. Cymun yn oedfa'r hwyr
15 - Mr Brian Owen LL.B. Llandybie
22- Bore: Y Gweinidog
Ysgol Gan Undebol i'r Oedolion
ar gyfer y Gymanfa Ganu Undebol yn y Gwynfryn am 5.30 y.h
.
MAWRTH
1- Y Gweinidog. Cymun yn oedfa'r bore. Gwasanaeth Teuluol
8 - Bore. Y Gweinidog Hwyr: Cyrddau Pregethu'r Gwynfryn
15 - Y Gweinidog
22- Y parchg Dafydd Coetmor Williams B.A., B.D. Cefneithin
29- Oedfa ar y cyd a Moreia yng Ngellimanwydd am 10.30 y bore
Rihyrsal i'r Gymanfa Ganu Undebol yn y Gwynfryn am 5.30 y.h.
.
EBRILL
5- SUL Y BLODAU - Y Gymanfa Ganu Undebol yn y Gwynfryn am 10.30 a 5.30
12 - SUL Y PASG - Y Gweinidog. Cymun yn oedfa'r bore
19- Y Gweinidog
26 - Bore: Parchg E.D. Morgan, Llanelli. Hwyr: Y Parchg Emyr Gwyn Evans, Y Tymbl

Gwyl Dewi

Ar nos Fercher 27 Chwefror dathlodd Cymdeithas Diwyliannol Gellimanwydd noson ein nawddsant drwy gynnal noson o Gawl a ffug Eisteddfod.
Roedd y Neuadd wedi ei haddurno'n hyfryd gyda'r cenin pedr yn cael lle blaenllaw. Wedi blasu'r bwyd hyfryd aeth y criw ati i gystadlu. Pa well ffordd o ddathlu na chynnal noson yn llawn hwyl a sbri a chymdeithasu gyda ffrindiau.



Sunday, February 03, 2008

CWIS BEIBLAIDD


Roedd Neuadd Gellimanwydd yn llawn prynhawn Sul 2 Chwefror ar gyfer Cwis Beiblaidd Ysgolion Sul Gogledd Myrddin. Pedwar oedd ym mhob tim ac roedd wyth Ysgol Sul yn cystadlu. Roedd timau wedi dod o Frynaman, Llangadog, Cwmdu, Llanfynydd, Nantgaredig a Chaerfyrddin, yn ogystal a Rhydaman.
.
Tim Gellimanwydd oedd Elan Daniels, Sara Mai Davies, Harri Jones, a Mari Llywelyn. Llwyddodd y pedwar i gyrraedd y rownd gyn-derfynol.
.
Nigel Davies, Cydlynydd Menter Cydenwadol Gogledd Myrddin, oedd y cwis feistr. Y maes gosod ar gyfer y cwis oedd Gideon a Porthi'r Pum Mil. Yn ogystal a cwestiynau unigol ar y maes gosod cawsom gwestiynau ar luniau o storiau o'r beibl, cwestiynau aml ddewis a rownd ar y "buzzer". Y buddugwyr oedd Tim Penuel, Caerfyrddin.

Diolch i Hanna Wyn Williams a Nia Mair Jeffers, dwy o bobl ifanc yr ysgol Sul, am baratoi'r paned o de i'r oedolion a'r diod i'r plant yn ystod y prynhawn.

Sunday, January 06, 2008

DERBYN AELOD

Hyfrydwch i bawb oedd yn bresennol yn oedfa gyntaf 2008 oedd debyn Rhodri Rees, Tycroes yn lawn aelod i'n heglwys. Pleser o'r mwyaf oedd derbyn Rhodri yn aelod llawn yn ystod y Cymundeb yn oedfa foreol 6 Ionawr 2008.
Mae Rhodri yn ffyddlon yn yr oedfaon ac wedi bod yn aelod o ysgol Sul y Neuadd. Ar hyn o bryd mae'n astudio yng Nghampws Y Graig, Coleg Sir Gar.
A hithau yn ddechrau 2008 mae newyddion calonogol fel hon yn ein sbarduno i gofio bod gennym Dduw sydd o'n plaid.
Dymunwn Blwyddyn Newydd Dda i bob un ac edrychwn ymlaen at gwmniaeth cyd-aelodau a chynhaliaeth yr Arglwydd Iesu drwy gydol 2008.

SUL OLA'R FLWYDDYN


Bore Sul 30 Rhagfyr daeth aelodau Moreia atom i Gellimanwydd ar gyfer ein hoedfa olaf o 2007. Ein gweinidog Y Parchg Dyfrig Rees oedd yn pregethu a cawsom hanes Simeon ac Anna allan o lyfr Luc. Atgoffwyd pawb bod yr Eglwys Iddweig wedi codi pobl dda a duwiol fel Simeon ac Anna. Yna cawsom fyfyrdod ar beth allwn ni ei wneud fel Cristion heddiw. Ydyn mi rydym yn teimlo'n aml ein bod yn mynd yn erbyn y llif, ond mae angen sicrhau bod ein Duwioldeb ni mewn cyswllt a'r byd real. Mae angen i ni weithio mewn partneriaeth a'n gilydd ac eraill. Gallwn helpu eraill ac helpu ein gilydd drwy edrych ar amryw sefyllfaoedd. Mae angen i ni fod yn GRISTION drwy fod yn berson real a byw bywyd sy'n llawn ac ystyrlon yn oleuni bywyd Duw.

Wedi'r oedfa, yn ol yr arfer cawsom gyfle i gymdeithasu yn y Neuadd.