Friday, July 18, 2008

Mabolgampau Dan Do

Prin bydd y mabolgampau Olympaidd yn Beijing yn dod a mwy o hwyl a chyffro na chafwyd yn Rhydaman yn ddiweddar wrth i Ysgolion Sul dalgylch Gogledd Myrddin ddod ynghyd ar gyfer y noson mabolgampau blynyddol. Trefnwyd amrywiaeth eang o gystadlaethau a hynny ar gyfer pob oed o`r meithrin i fyny at ieuenctid 16 oed. Cafwyd cystadlu brwd yn y rhedeg a`r gweithgareddau maes a diweddwyd y nos ar nodyn cyffrous gyda`r cystadlaethau tynnu rhaff.

Cafwyd ymateb ardderchog gyda 16 o Ysgolion Sul yn cofrestru ac ymhell dros 100 yn cystadlu a thyrfa niferus iawn yn cefnogi. Gwych o beth oedd gweld y cyffro a`r llawenydd ar wynebau`r plant a`r cefnogwyr wrth i aelodau ifanc yr Ysgol Sul ymdrechu mewn un gamp ar ôl y llall. Gwobrwywyd y tri cyntaf ym mhob cystadleuaeth gyda medalau aur, arian neu efydd.

Mewn dyddiau pan mai ond lleiafrif bychan o`n cymdeithas sy`n mynychu Ysgol Sul neu glwb Cristnogol mor bwysig yw gweithgareddau o`r math hwn sy`n codi proffil gwaith yr eglwys ac sy`n dangos i`r to ifanc bod y ffydd Gristnogol yn ymestyn i bob agwedd o fywyd ac nid yn unig i oedfaon ar y Sul.

Mae`r diolch am lwyddiant y noson yn ddyledus i raddau helaeth iawn i`r tîm o wirfoddolwyr bu`n llafurio`n ddyfal iawn yn gweinyddu`r cystadlaethau, ac yn cofnodi`r canlyniadau.

[Diolch i Nigel Davies Cydlynydd Menter Cydenwadol Gogledd Myrddin.]

No comments: