Tuesday, September 23, 2008

JOIO GYDA IESU 2008


Ar brynhawn Sul Medi 21ain cynhaliwyd oedfa arbennig ar gyfer eglwysi Gogledd Myrddin yng Nghapel Newydd, Llandeilo. Galwyd yr oedfa yn “Joio Gyda Iesu” a dyma`r ail flwyddyn yn olynol i`r oedfa hon gael ei chynnal. Roedd ffurf a threfn yr oedfa dipyn yn wahanol i`r arfer gyda`r pwyslais ar ddathlu`r ffydd Gristnogol mewn llawenydd, tra`n dyrchafu enw Iesu Grist fel ffrind a Gwaredwr. Mewn geiriau eraill, cyflwyno`r hen, hen hanes mewn dull cyfoes a pherthnasol ar gyfer ein dydd ni.

Croesawyd y dyrfa niferus o tua 350 ynghyd gan gadeirydd Menter Cydenwadol Gogledd Myrddin, Mr Mel Morgans, ac agorodd mewn gair o weddi. Dilynwyd hyn gyda rhai o blant Ysgol Sul Capel Newydd, Llandeilo yn cyflwyno emyn a darlleniad cyfoes yn seiliedig ar Salm 103.

Prif westai`r dydd oedd Martyn Geraint (S4C) ac fe wnaeth ddechrau trwy ddiddanu`r plant (a`r oedolion!) yn ei ffordd arbennig ei hun trwy chwarae “Family Fortunes” gyda chylchoedd trafod yn mynd o sedd i sedd. Dilynwyd hyn gan ganu swynol côr Ysgol Gymraeg Teilo Sant, Llandeilo cyn i Martyn ei hun ganu mawl i`r Arglwydd gyda rhai o`i gyfansoddiadau personol.

Gwestai arall fu`n cymryd rhan oedd Menna Machreth Jones o Landdarog sydd ar hyn o bryd yn gwneud ei hymchwil ym Mangor. Bu Menna yn rhannu gyda`r gynulleidfa ei phrofiad o ddod i adnabod Iesu Grist fel ffrind a Gwaredwr personol cyn i Martyn rannu am ei ffydd yntau. Wrth iddo ymateb i gwestiynau a holwyd iddo gan Y Parch Geraint Morse (Caerfyrddin) amlygwyd ei ffydd ddofn yng Nghrist sy`n cael ei adlewyrchu yn ei fywyd a`i wasanaeth ffyddlon yn ei gapel ym Mhontypridd. Er gwaethaf ei fywyd prysur yn perfformio o gwmpas Cymru, ymateb i alwadau`r cyfryngau, ei wasanaeth yn yr eglwys leol, heb son am alwadau teuluol, mynegodd Martyn am y ffordd y mae bob dydd yn rhoi amser o`r neilltu i dreulio gyda`r Arglwydd mewn gweddi a myfyrdod o`i Air.

Roedd yr oedfa arbennig hon ar gyfer y teulu cyfan ac fel mae`r teitl yn awgrymu fe wnaeth pawb oedd yn bresennol “joio gyda Iesu.” Cyflwynwyd y fendith gan Y Parch Emyr Gwyn Evans (Tymbl), ysgrifennydd y Fenter. Y gobaith yw gweld yr oedfa hon yn parhau i gael ei chynnal yn flynyddol ar ddechrau`r tymor fel hwb a sbardun i waith a thystiolaeth Ysgolion Sul y cylch.

No comments: