Wednesday, July 15, 2009

PARTI DATHLU MENTER CYD-ENWADOL GOGLEDD MYRDDIN

Mr a Mrs Nigel Davies, yn derbyn rhodd ar ran aelodau Menter Cyd-enwadol Gogledd Myrddin yn gydnabyddiaeth am ei waith fel Swyddog Ieuenctid dros y dair blynedd diwethaf. Yn y llun hefyd mae cynrychiolwyr o'r ysgolion Sul a Swyddogion y Fenter.

Roedd Neuadd Gellimanwydd yn llawn nos Fercher 15 Gorffennaf ar gyfer Parti Dathlu Menter Cyd -enwadol Gogledd Myrddin. Cyfle i ddathlu tair mlynedd o waith diflino Mr Nigel Davies, Swyddog Ieuenctid y Fenter oedd y noson yn bennaf. Hyfryd oedd gweld y neuadd yn llawn.
Cawsom air o groeso gan Gadeirydd y Fenter, sef Mr Mel Morgans. Yna aeth pawb at y byrddau i ddewis eu bwyd allan o'r bwffe arbennig oedd wedi ei baratoi gan gegin fach y Wlad.
Wedi i bawb lewni eu boliau a chael cyfle i gymdeithasu cawsom ein diddannu, yn blant, ieuenctid ac oedolion gan Rosfa'r Consuriwr, sef y Parchg Eirian Wyn, Gweinidog Seion Newydd, Treforus.
Roedd Rosfa ar ei orau yn cael ymateb arbennig gan y plant. Hyfryd oedd gweld a chlywed eu gwerthfawrogiad o'r "hud a lledrith" yn y triciau.
Cyflwynwyd rhodd i Mr Nigel Davies am ei waith a blodau i Mrs Sian Davies, ei briod. Dymunwyd yn dda i Nigel Davies yn y dyfodol pan mae'r Fenter yn ehangu i fod yn Fenter Cyd-enwadol Sir Gaerfyrddin. Bydd yn fwy prysur nag erioed yn calonogi gwaith Ysgolion Sul y Sir trwy roi cyfle llawn hwyl i blant gymdeithasu a dysgu yng nghwmni ei gilydd a chyflawni amcan yr Ysgol Sul o gyflwyno efengyl Iesu Grist mewn ffordd syml, ddealladwy a pherthnasol ar gyfer heddiw.


No comments: