Sunday, June 25, 2006

TRIP Y CAPEL


Dydd Sadwrn 24 Mehefin aeth llond bws ohonom i Ddinbych y Pysgod. Roedd y tywydd yn ffafriol a chawsom ddiwrnod i'r brenin yn chwarae gemau ar y traeth. Mentrodd rhai i mewn i'r mor tra bod eraill yn hapus yn eistedd mewn "deck chair" gyffyrddus.
Yn y llun mae Edwyn (athro Ysgol Sul) wedi ei gladdu mewn tywod gan rhai o blant yr ysgol Sul!!
Cyn mynd yn ol i'r bws am 5.30 aeth llawer ohonom o amgylch y dref i brynu ychydig o anrhegion - a bwyta llond bol o "sglodion a pysgod" wrth gwrs.

Mae nifer ohonom yn edrych ymlaen i'r trip nesaf yn barod, sef trip y Gymdeithas i Henffordd ar 16 Medi.

Diolch i bawb a gefnogodd y trip - synnwn i ddim bod hwn am fod yn achlysur blynyddol yn dilyn llwyddiant eleni.

2 comments:

Anonymous said...

Llun neis o chi dan y tywod Edwin!!

edwyn williams said...

Diolch Nia, Gobeithio dy fod wedi mwynhau dydd Sadwrn