Dyma gyfle gwych i blant ac ieuenctid eich Ysgol Sul / Clwb i gael cymryd rhan mewn gweithgaredd cyffrous. Cafwyd nosweithiau penigamp yn y gorffennol ac edrychwn ymlaen at
achlysur llawn hwyl a chyffro eleni eto gyda chystadlaethau ar gyfer pob oed
o`r meithrin i fyny at flwyddyn 13 yn yr ysgol uwchradd.
Bydd y rownd rhanbarthol yng
nghanolfan hamdden Rhydaman ar gyfer plant oed meithrin i fyny at
flwyddyn 6 yn yr ysgol gynradd ar Nos Wener Gorffennaf 6ed am 6.00 o'r gloch.
Cynhelir y rowndiau terfynol ynghyd รข
chystadlaethau oed uwchradd (i fyny at flwyddyn 13) yng nghanolfan hamdden
Caerfyrddin ar Orffennaf 11eg.
No comments:
Post a Comment