Thursday, May 10, 2012

Bwrlwm Bro Dyffryn Aman 2012


Yn ddiweddar fe wnaeth Menter Ieuenctid Cristnogol (M.I.C.) gynnal  Bwrlwm Bro ar gyfer Ysgolion Sul Dyffryn Aman yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman. Prif bwrpas yr achlysur oedd calonogi a sbarduno gwaith yr Ysgolion Sul trwy roi cyfle llawn hwyl i blant ddysgu a chymdeithasu yng nghwmni ei gilydd.
 Trwy gyfrwng amrywiaeth o weithgareddau a gemau daeth yr hanes am Naaman y Syriad  yn fyw ym mhrofiad y plant. Cafwyd llawer o hwyl wrth ddysgu am y ffordd bu’n rhaid i’r gŵr pwysig hwn ddarostwng ei hun gerbron Duw er mwyn cael iachâd o’r gwahanglwyf. Yn yr un modd, dysgodd y plant bod rhaid i ni hefyd ddarostwng ein hunain gerbron Duw gan ddweud “sori” am ein beiau er mwyn derbyn o’i  faddeuant rhad. Diweddwyd y gweithgaredd wrth i bob un o’r plant ysgrifennu gweddi fer ar bapur lliwgar cyn eu gludo ar groesbren.
Y nod oedd gwneud yr Ysgol Sul yn achlysur llawn hwyl, heb golli golwg ar y prif bwrpas o gyflwyno efengyl Iesu Grist mewn ffordd syml, ddealladwy a pherthnasol ar gyfer heddiw. Pan ddaeth yn amser i ymadael roedd yn amlwg wrth wynebau llawen y plant eu bod wedi mwynhau`n fawr y profiad o gael uno gyda'i gilydd mewn dathliad  cyfoes o`r ffydd.

No comments: