Bore Dydd Sul, 12 Hydref cynhaliwyd ein cyrddau diolchgarwch. Roedd gwasanaeth y bore dan ofal yr Ysgol Sul a chawsom oedfa hyfryd gyda'r plant yn ein harwain. Porthi'r Pum Mil oedd y thema a chawsom nifer o eitemau graenus gan gynnwys caneuon ac adroddiadau gan y plant, darlleniadau, gweddiau ac emynau.
Unwaith eto eleni rydym yn casglu bocsus esgidiau ar gyfer Operation Christmas Child ac yn ystod y gwasanaeth cyflwynodd y plant eu bocsus esgidiau’n llawn anrhegion . Rydym yn siwr y bydd llawer un yn gwirioni wrth edrych ar gynnwys y bocsus, dros y Nadolig.
Wedi'r oedfa cawsom gyfle i barhau i gymdeithasu drwy rannu dishgled o de a bisgedi yn y Neuadd.
No comments:
Post a Comment