Nos Fercher 17 Gorffennaf daeth criw o bobl ifanc yr eglwys ynghyd i gyfarfod yn y Neuadd. Cyfarfod wedi ei drefnu gan ein gweinidog y Parchg Dyfrig Rees oedd hwn i drafod beth gall yr eglwys ei gynnig i’n hoedolion ifanc. Braf oedd gweld cymaint wedi dod i’r cyfarfod.
Dechreuwyd drwy weddi a darlleniad, yna cawsom gyfle i gymdeithasu dros gwpanaid o de a gwledd o fwyd oedd wedi ei drefnu gan Mandy Rees a Mairwen Lloyd. Wedi’r cyfle i gymdeithasu cawsom drafodaeth fuddiol dros ben am strwythur oedfaon, dulliau o addoli, gweithgareddau a nifer o faterion eraill.
Penderfynwyd cynnal Oedfa Anffurfiol i gynnwys astudiaeth feiblaidd ar yr Ail Nos Iau o’r mis am dri mis gan ddechrau ar Nos Iau, 13 Medi am 7.30 yn y Neuadd.
Bydd yr oedfa ar ddull myfyrdod a thrafodaeth mewn grwpiau bychain yn seliedig ar thema o’r beibl. Wedi’r oedfa bydd cyfle i gymdeithasu gyda aelodau a ffrindiau.
1 comment:
Diddorol gweld am y cyfarfod pobl ifanc ar 17 Gorffennaf ac am y Gwasanaeth Anffurfiol sy'n cael ei drefnu ar gyfer ar nos Iau 13 Medi.
Cofiwch anfon yr hanes (a lluniau) i ni yma yn Nhy John Penri.
Byddwn yn gweddio am fendith Duw ar y digwyddiad.
Geraint Tudur
Post a Comment