Tuesday, July 10, 2007

Noson Mabolgampau a Barbeciw

“Gwych” a “phenigamp” - dyna oedd rhai o`r ansoddeiriau a ddefnyddiwyd i ddisgrifio arbrawf newydd ymhlith Ysgolion Sul Gogledd Myrddin ar Nos Wener 29 Mehefin. Gwahoddwyd plant ac ieuenctid eglwysi`r dalgylch i gymryd rhan mewn mabolgampau dan do gyda barbiciw yn dilyn. Trefnwyd amrywiaeth eang o weithgareddau gan gynnwys cystadlaethau rhedeg, cystadlaethau maes a thynnu rhaff. Roedd y cystadlaethau yn cwmpasu pob oed o`r meithrin i fyny at ieuenctid 16 oed.

Cafwyd ymateb anhygoel gyda 19 o Ysgolion Sul yn cofrestru ac ymhell dros 100 yn cystadlu a thyrfa niferus iawn yn cefnogi. Gwych o beth oedd gweld y cyffro a`r llawenydd ar wynebau`r plant a`r cefnogwyr wrth i aelodau ifanc yr Ysgol Sul ymdrechu mewn un gamp ar ôl y llall. Gwobrwywyd y tri cyntaf ym mhob cystadleuaeth gyda medalau aur, arian neu efydd.

Mewn dyddiau pan mai ond lleiafrif bychan o`n cymdeithas sy`n mynychu Ysgol Sul neu glwb Cristnogol mor bwysig yw gweithgareddau o`r math hwn sy`n codi proffil gwaith yr eglwys ac sy`n dangos i`r to ifanc bod y ffydd Gristnogol yn ymestyn i bob agwedd o fywyd ac nid yn unig i oedfaon ar y Sul.

Cynhaliwyd y barbeciw yng nghegin a neuadd Gellimanwydd. Mae`r diolch am lwyddiant y noson yn ddyledus i raddau helaeth iawn i`r tîm o bron 20 o wirfoddolwyr bu`n llafurio`n ddyfal iawn yn gweinyddu`r cystadlaethau, yn cofnodi`r canlyniadau ac yn coginio`r barbiciw.
Diolch i Nigel Davies am yr erthygl hon.

No comments: