O'r chwith i'r dde: Y Parch. Emyr Gwyn Evans, Mrs. Sian
Jones a Mrs. Marjorie Rogers (Y Gwynfryn),
Mrs. Carol Ann Lewis (Moreia) a'r
Parch. Ryan Thomas
Mae yna fudiad Cenhadol gan
chwiorydd capeli Gellimanwydd a’r Gwynfryn, Rhydaman a Moreia, Tycroes ers
1950. Bryd hynny mi roedd Seion, Llandybïe hefyd yn rhan o’r cylch. Yn ystod y
65 mlynedd mae’r adran wedi codi miloedd ar filoedd o bunnau tuag at y gwaith
Cenhadol gan fod yr arian a gesglir i gyd – talu am y te, casgliad, bore coffi
ac ati – yn mynd at y gwaith cenhadol. Tramor fu’r alwad yn y blynyddoedd a fu
ond rydym bellach yn rhoi cyfraniad at MIC sef Mudiad Ieuenctid Cristnogol ein
hardal. Bu i nifer o’n cenhadon ymweld â’r adran ac fe fu y Parchn. R. E. Edwards,
Ieuan S. Jones a Ioan Wyn Gruffydd yn gefn mawr i’r cylch.
Rydym
yn cwrdd yn rheolaidd ac yn cael siaradwyr diddorol i’n hannerch ac hefyd
cyfarfodydd rydym ni ein hunain yn eu trefnu megis gwasanaeth Nadolig, cwrdd
gweddi ac ati. Cynhelir ein cyfarfod blynyddol ddechrau Mawrth. Bryd hynny
trosglwyddir y llywyddiaeth i chwiorydd y gwahanol eglwysi. Bellach fe rhennir
y gwaith rhwng gwragedd yr eglwysi. Cynhaliwyd y Cyfarfod Blynyddol eleni yn Y
Gwynfryn, Rhydaman gyda’r Parch. Emyr Gwyn Evans yn annerch a gweinyddi’r cymun
gyda’r Parch. Ryan Thomas yn cynorthwyo wrth yr organ. Eleni mi roedd Mrs.
Carol Ann Lewis ar ran chwiorydd Moreia yn cyflwyno Beibl y Mudiad i Mrs.
Marjorie Rogers a’i derbyniodd ar ran chwiorydd y Gwynfryn, Rhydaman.
Rydym
hefyd fel adran yn ffyddlon i Adran Chwiorydd Cyfundeb Dwyrain Caerfyrddin a
Brycheiniog a Thalaith y De o Fudiad Chwiorydd yr Annibynwyr.
No comments:
Post a Comment