Tuesday, March 03, 2015

Eglwysi Gellimanwydd, Rhydaman a Moreia, Tycroes yn dathlu


Eglwysi Gellimanwydd, Rhydaman a Moreia, Tycroes yn dathlu


Mi roedd Sul, Mawrth 1af yn Sul o ddathlu mawr yng nghapeli Gellimanwydd, Rhydaman a Moreia, Tycroes oherwydd hwn oedd y diwrnod y dechreuodd y Parch. Ryan Thomas, Brynaman ei weinidogaeth yn ein mysg.

            Roedd yr oedfa foreol yng Ngellimanwydd.  Mi roedd yn braf gweld y capel yn llawn o blant, teuluoedd ifanc, pobl canol oed a henoed a phawb yn hapus i ddathlu gŵyl ein nawddsant a chyfnod newydd yn ein hanes fel eglwys. Gan ei bod yn wasanaeth teuluol y plant a’r ieuenctid a gymerodd at yr oedfa. Rydym yn ymfalchio fod gyda ni gymaint o blant yn awyddus a pharod i gymeryd rhan ac am rhieni sydd mor barod i gynorthwyo ymhob dull a modd.
 



Rhai o blant niferus Gellimanwydd

            Yn ystod yr oedfa cafwyd gair byr o groeso i’r gweinidog newydd gan Bethan, Thomas, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Eglwys ac yna cafwyd neges pwrpasol i’r plant gan y gweinidog newydd. Gweinyddwyd y Cymun ar ddiwedd yr oedfa gan y Parch. Ryan Thomas. Mrs. Gloria Lloyd oedd wrth yr organ. Mi roedd y capel a’r neuadd wedi eu haddurno’n hardd â chennin pedr.

            Wedi’r gwasanaeth aeth pawb i fwynhau melysfwydydd Cymreig yn Neuadd Gellimanwydd ac yno fe gafwyd cyfle i ni gwrdd â’r Parch. Ryan Thomas.

 
 Yn y prynhawn tro eglwys Moreia, Tycroes oedd hi i ddathlu. Fe ddaeth cynulleidfa niferus ynghyd i Oedfa Gymun. Croesawyd y gweinidog newydd gan Elfryn Thomas, Ysgrifennydd yr Eglwys ac fe gynorthwywyd wrth yr organ gan Mrs. Wynona Anthony.

Roedd y chwiorydd wedi paratoi yn helaeth ar ein cyfer ac fe gafwyd gwledd o fwyd yn y festri gyda cyfle i bawb gwrdd â’r gweinidog newydd. Y chwiorydd hefyd a fu yn gyfrifol am addurno’r capel a’r festri mor hardd gyda daffodiliau.
 
 
Y Parchg Ryan Thomas gyda rhai o aelodau gweithgar Eglwys Moreia, Tycroes



Ym mis Medi fe fydd Eglwys y Gwynfryn, Rhydaman yn ymuno â’r ofalaeth. Hwn fydd y tro cyntaf i’r dair eglwys, y fam a’r ddwy ferch, fod o dan arweiniad yr un gweinidog. Mae’r dair eglwys, er hynny, wedi cyd-weithio â’i gilydd ar hyd y blynyddoedd drwy’r Gymanfa Ganu a Mudiad Cenhadol y Chwiorydd.

Edrychwn ymlaen at gyfnod newydd yn ein hanes a boed i Dduw ein harwain i’r dyfodol yn llawn hyder a ffydd.

Bethan Thomas, Ysgrifennydd yr Ofalaeth

No comments: