Dathlodd Gofalaeth Gellimanwydd a’r Gwynfryn, Rhydaman a Moreia, Tycroes y Nadolig gydag oedfa-ar-y-cyd yn y Gwynfryn bore Sul, Rhagfyr 20fed dan lywyddiaeth gweinidog yr Ofalaeth, y Parchg Ryan Thomas, gyda Miss Catherine Lodwick yn cynorthwyo wrth yr organ. Cafwyd adroddiad gan Mrs Mary Thomas ac unawd gan Ieuan Thomas, y ddau o Foreia; eitem gan gôr merched a chôr cymysg Gellimanwydd ac adroddiad gan bedwarawd ac eitem gan gôr merched y Gwynfryn. Cafwyd cyfle ar ôl yr oedfa i gymdeithasu ymhellach gyda gwin a mins pie.
No comments:
Post a Comment