Cynhaliwyd Bwrlwm Bro Ysgolion Sul Dyffryn Aman a’r cylch yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman ar fore Sul Mehefin 7fed. Prif bwrpas yr achlysur oedd calonogi a sbarduno gwaith yr Ysgolion Sul trwy roi cyfle llawn hwyl i blant ddysgu a chymdeithasu yng nghwmni ei gilydd.
Y thema o dan sylw oedd Noa a’r dilyw. Cyflwynwyd y neges trwy chwarae gêm, stori a chrefft. Cafwyd hwyl a sbri, a chyfle i ddysgu bod Duw, er ei fod yn casau drygioni, yn ein caru ac am i ni ymddiried yn ei Fab Iesu Grist. Fel yr oedd Noa a’i deulu yn ddiogel yn yr arch, mae’r sawl sy’n rhoi eu ffydd yn Iesu hefyd yn ddiogel, a hynny am byth.
Pan ddaeth yn amser i ymadael roedd yn amlwg wrth wynebau llawen y plant eu bod wedi mwynhau’n fawr y profiad o gael uno gyda'i gilydd mewn dathliad cyfoes o’r ffydd. Am ragor o luniau gwelir www.micsirgar.org
No comments:
Post a Comment