Wednesday, February 28, 2007

Swper Gwyl Ddewi

Nos Fercher, 28 Chwefror dan nawdd Y Gymdeithas cynhaliwyd Swper Gwyl Ddewi a Ffug Eisteddfod. Braf oedd gweld cymaint wedi dod i'r noson. Yn ol yr arfer roedd y byrddau wedi eu harddurno'n hardd gyda tusw o Genin Pedr ar bob un.

I ddecrhau'r noson cawsom Gawl hyfryd gyda bara menyn a caws. Yna Bara brith a pice-ar-y-maen.

Wedi'r bwyd dechreuwyd ar y cystadlu. Roedd nifer wedi ymgeisio ar y limerig a chafwyd sawl ymgais arbenig. Testun y frawddeg oedd



GELLIMANWYDD ac eto roedd y cystadlu o'r
ansawdd flaenaf.
Yr her adroddiad oedd Salm 23 a'r her unawd oedd Sosban Fach. I gloi'r noson cawsom gystadleuaeth y partion.


Llywydd y Noson oedd ein gweinidog y Parchg Dyfrig Rees
Cawsom i gyd noson hyfryd yn llawn hwyl a sbri yng nghwmni'n gilydd yn dathlu Noson ein nawdd sant drwy gyfrwng Brethyn Cartref.

1 comment:

Anonymous said...

Gwyl Ddewi Hapus.
Gobeithio fod y te a'r coffi yn Fasnach deg- pythefnos Masnach Deg Chwefror 26 - Mawrth 11Hwyl Annette.